Storio
Mae’n bwysig bod yn ofalus wrth storio bwyd, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn ddiogel i’w fwyta.


Cadw bwyd yn yr oergell
Sicrhau bod dy oergell ddigon oer
Mae angen i ti sicrhau bod dy oergell ddigon oer neu fe allai bacteria gwenwyn bwyd barhau i dyfu. Dylai'r oergell fod rhwng 0ºC a 5ºC.Os nad wyt ti'n siŵr sut mae'r teclyn tymheredd yn gweithio ar dy oergell, gelli ddefnyddio thermomedr oergell i sicrhau ei fod ar y tymheredd iawn.
Dyma ambell i awgrym defnyddiol arall:
- ceisia gadw drws yr oergell ar gau cymaint â phosibl
- cofia adael i fwyd oeri cyn ei roi yn yr oergell
- os yw dy oergell yn llawn, cofia droi'r tymheredd i lawr er mwyn cadw'r cwbl yn ddigon oer
Cadw bwyd yn yr oergell
Er mwyn atal bacteria rhag tyfu, cofia:- Pan fo'r label yn nodi ‘i'w gadw mewn oergell' (keep refrigerated), gwna'n siŵr dy fod yn cadw’r bwyd yn yr oergell. Os yw'n fwyd a fydd yn difetha'n gyflym os nad yw'n cael ei gadw'n oer, ac nad yw'n cynnwys unrhyw gyfarwyddiadau storio, dylet ei roi yn yr oergell a'i fwyta o fewn dau ddiwrnod.
- Mae angen cadw rhai jariau a photeli yn yr oergell ar ôl eu hagor. Darllena'r label a gofala dy fod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau storio.
- Pan fyddi di'n paratoi bwyd, cofia ei gadw allan o’r oergell am gyn lleied o amser â phosibl, yn arbennig pan fo'r tywydd (neu'r ystafell) yn gynnes.
- Os wyt ti wedi paratoi pryd (megis brechdan neu bryd oer) nad wyt ti'n mynd i’w fwyta ar unwaith, cofia ei roi yn yr oergell nes dy fod yn barod i'w fwyta.
- Os wyt ti'n cael parti neu'n paratoi bwffe, cadwa'r bwyd yn yr oergell nes ei fod barod i’w fwyta. Yn gyffredinol, ni ddylet gadw bwyd allan o’r oergell am fwy na phedair awr.
- Cofia oeri unrhyw fwyd sydd dros ben cyn gynted â phosibl (yn ddelfrydol o fewn awr neu ddwy) ac yna’i storio yn yr oergell. Cofia fwyta unrhyw fwyd sydd dros ben o fewn deuddydd, ac eithrio reis wedi'i goginio y dylet ei fwyta o fewn diwrnod er mwyn helpu i osgoi gwenwyn bwyd.
Storio cig
- Storia gig a dofednod amrwd mewn cynhwysyddion glân wedi’u selio ar silff waelod yr oergell lle nad ydynt yn gallu cyffwrdd â bwydydd eraill na diferu arnyn nhw.
- Dilyna unrhyw gyfarwyddiadau storio ar y label a phaid â bwyta cig ar ôl ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn' (use by).
- Os wyt ti wedi coginio cig nad wyt ti'n mynd i’w fwyta ar unwaith, cofia ei oeri mor gyflym â phosibl ac yna’i roi yn yr oergell neu’r rhewgell. Cofia gadw cig sydd wedi’i goginio ar wahân i gig amrwd.
Cadw bwyd yn y rhewgell
Mae'r rhewgell yn ddefnyddiol iawn ar gyfer sicrhau bod gen ti stoc o fwyd bob amser, ac i osgoi gwastraffu bwyd.
Y gwir amdani yw y gelli gadw bwyd yn yr oergell am flynyddoedd, cyn belled â'i fod wedi aros wedi'i rewi'r holl amser. Fodd bynnag, mae blas a gwead bwyd yn newid os caiff ei rewi am yn rhy hir, felly mae'n bosibl na fydd yn flasus iawn i'w fwyta.
I weld am ba mor hir y gellir rhewi bwyd, darllena'r cyfarwyddiadau ar label y bwyd neu lawlyfr y rhewgell (os nad yw hwn gen ti, efallai y gelli ddod o hyd iddo ar-lein).
O safbwynt diogelwch, mae'n iawn rhewi'r rhan fwyaf o fwydydd amrwd neu fwydydd wedi'u coginio, cyn belled â dy fod wedi cymryd y camau canlynol:
- ei rewi cyn y dyddiad 'defnyddio erbyn'
- dilyn unrhyw gyfarwyddiadau rhewi a dadmer ar y label
- ei ddadmer yn yr oergell rhag iddo fynd yn rhy gynnes. Neu os wyt ti'n bwriadu ei goginio'n syth ar ôl ei ddadmer, gelli ei ddadmer yn y micro-don
- ceisio ei ddefnyddio o fewn diwrnod neu ddau ar ôl i ti ei ddadmer – bydd yn mynd yn ddrwg yn yr un modd a fyddai pe bai'n ffres
- coginio bwyd nes ei fod yn chwilboeth drwyddo
Gofala dy fod yn glanhau llestri, offer, arwynebau a dwylo'n drylwyr ar ôl iddynt gyffwrdd â chig amrwd neu gig sy'n dadmer, er mwyn atal bacteria rhag lledaenu.
Os wyt ti'n dadmer cig neu bysgod amrwd ac yna yn ei goginio'n drylwyr, gelli ei rewi eto, ond mae'n bwysig cofio na ddylid ailgynhesu bwyd mwy nag unwaith.
Awgrymiadau
Dyma rai awgrymiadau:
- Ceisia gadw bwydydd mewn bagiau neu gynhwysyddion wedi’u selio. Mae hyn yn helpu i’w cadw’n ffres ac yn atal unrhyw beth rhag mynd i mewn i'r bwyd yn ddamweiniol.
- Paid â storio bwyd neu ddiodydd yn agos at gynhyrchion glanhau neu gemegion eraill.
- Paid â defnyddio hen gynhwysyddion bwyd i storio cemegion y tŷ, a phaid â storio bwyd mewn cynhwysyddion sydd wedi’u defnyddio at ddibenion eraill.
- Paid ag ailddefnyddio poteli dŵr plastig oni bai eu bod mewn cyflwr perffaith ac y mae modd eu glanhau.
- Paid â storio bwyd ar y llawr, gall hyn annog llygod, morgrug a phlâu eraill.
- Cofia gadw'r man storio’n sych a heb fod yn rhy gynnes.
- Cofia, efallai bod angen cadw rhai mathau o fwyd yn yr oergell ar ôl eu hagor – cofia ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau storio ar y label.
Tuniau
Pan fyddi di'n agor tun o fwyd a ddim yn defnyddio’r bwyd i gyd ar unwaith, rho'r bwyd mewn dysgl, neu gynhwysydd arall, a’i roi yn yr oergell.Paid â storio bwyd mewn tun sydd wedi’i agor, nac ailddefnyddio tuniau gwag i goginio neu storio bwyd. Y rheswm am hyn yw bod y 'tun', sef y metel, yn gallu trosglwyddo’n gyflymach i gynnwys y tun bwyd pan mae'r tun bwyd wedi’i agor ac mae’r bwyd yn agored i’r aer.
Nid yw’r cyngor hwn yn berthnasol i fwydydd sy’n cael eu gwerthu mewn tuniau â chaeadau y mae modd eu ailselio, fel surop a choco, gan nad yw'r bwydydd hyn yn adweithio â'r tun.
Lleihau gwastraff
Mae tua thraean y bwyd yr ydym yn ei brynu yn y DU yn cael ei daflu i'r bin yn y pen draw. Drwy ddilyn ychydig o gamau syml, mae'n bosibl lleihau gwastraff ac arbed arian tra hefyd yn sicrhau fod bwyd yn ddiogel. Y peth symlaf i'w wneud yw sicrhau nad wyt ti'n prynu neu'n coginio gormod o fwyd.Mae llawer o fwyd yn cael ei daflu oherwydd fod y dyddiad 'defnyddio erbyn' wedi mynd heibio. Ni ddylet fwyta nac yfed unrhyw beth ar ôl y dyddiad 'defnyddio erbyn', hyd yn oed os yw'n edrych ac yn arogli'n iawn, oherwydd fe allai beryglu dy iechyd. Ond mae'n bosibl coginio neu rewi bwyd cyn diwedd y dyddiad 'defnyddio erbyn', er mwyn ei gadw'n hirach - ond eto, mae'n well os nad wyt ti'n prynu gormod yn y lle cyntaf.
Mae dyddiadau 'ar ei orau cyn' yn fwy i wneud ag ansawdd na diogelwch, felly pan fydd y dyddiad yn dod i ben, nid yw'n golygu fod y bwyd yn niweidiol, ond efallai y bydd yn colli ychydig o'i flas a'i wead.
Fodd bynnag, ni ddylet fwyta wyau ar ôl y dyddiad 'ar ei orau cyn'.
Cling ffilm a ffoil cegin
Cling ffilm
Mae cling ffilm yn ddefnyddiol i ddiogelu bwyd ond, fel llawer o bethau, mae angen ei defnyddio’n gywir.Nid yw pob math o gling ffilm yn addas i’w ddefnyddio gyda phob math o fwyd. Darllena'r disgrifiad ar y pecyn i weld unrhyw gyfarwyddiadau penodol.
Mae yna dri bwynt pwysig i’w cofio wrth ddefnyddio cling ffilm:
- Paid â defnyddio cling ffilm os gallai doddi i mewn i’r bwyd, er enghraifft yn y popty neu ar sosbenni ar yr hob.
- Mae'n bosibl defnyddio cling ffilm yn y micro-don, ond gwna'n siŵr nad yw’r cling ffilm yn cyffwrdd â’r bwyd.
- Paid â gadael i'r cling ffilm gyffwrdd â bwydydd braster uchel oni bai bod y pecynnu'n nodi ei fod yn addas ar gyfer hynny. Mae'r bwyd hyn yn cynnwys rhai mathau o gaws, cigoedd amrwd gydag haen o fraster, cigoedd wedi’u ffrio, pasteiod, a chacennau gydag eisin menyn neu haenau o siocled.
Ffoil cegin
Gall ffoil cegin, sydd wedi’i wneud o alwminiwm, fod yn ddefnyddiol ar gyfer lapio a gorchuddio bwyd. Ond mae’n well peidio â defnyddio ffoil neu gynhwysyddion sydd wedi’u gwneud o alwminiwm i storio bwydydd sydd â llawer o asid, fel:- tomatos
- riwbob
- bresych
- llawer o wahanol fathau o ffrwythau meddal





