Archebu ar-lein a thrwy’r post
Mae mwy a mwy o bobl yn archebu bwyd o gartref, boed hynny’n gynhyrchion arbenigol neu foethus neu’n fwydydd bob dydd. Dyma gyfle i gael gwybod beth yw’ch hawliau a beth mae’r gyfraith yn ei ddweud.


Eich hawliau
- roi gwybodaeth eglur ichi am y nwyddau neu’r gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig
- anfon cadarnhad ar ôl ichi brynu rhywbeth
- rhoi cyfnod o saith diwrnod gwaith ichi allu newid eich meddwl er mwyn ichi allu canslo’ch archeb, oni bai eich bod wedi archebu rhywbeth darfodus
Cwynion
Beth alla’ i ei wneud os bydd archfarchnad yn danfon rhywbeth gwahanol i’r hyn roeddwn i wedi’i archebu?
Yn aml, os na fydd cynnyrch rydych chi wedi’i archebu ar gael, fe fydd archfarchnadoedd yn rhoi cynnyrch arall i mewn yn ei le. Mae’n syniad da gwirio polisi’r archfarchnad ar roi cynhyrchion yn lle rhai sydd wedi’u harchebu, a hynny cyn ichi archebu, er mwyn ichi wybod beth yw’ch opsiynau os byddwch chi’n derbyn cynnyrch nad ydych chi ei eisiau.Beth alla’ i ei wneud os nad ydw i’n hapus â’r gwasanaeth rydw i’n ei gael pan rydw i’n prynu nwyddau o gartref?
Yn gyntaf, cysylltwch â’r busnes a rhoi cyfle iddyn nhw gywiro pethau.Rhowch eich cwyn mewn du a gwyn, a chynnwys:
- dyddiad yr hysbyseb, y catalog neu’r wybodaeth ar y wefan lle clywsoch chi am y cynnyrch
- dyddiad archebu
- manylion yr hyn y gwnaethoch chi ei archebu
- y swm a dalwyd a’r dull talu
- unrhyw gyfeirnodau, fel rhif archebu neu rif cwsmer
- y rheswm dros gwyno
- unrhyw wybodaeth berthnasol arall
- sut yr hoffech i’r sefyllfa gael ei datrys
Gallwch chi ddefnyddio ein cyfleuster chwilio trwy god post ‘Sut i gwyno’ i ddod o hyd i’ch gorfodwr cyfraith bwyd awdurdod lleol agosaf.
Mae gan wasanaethau safonau masnach lleol bwerau dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000 i wneud cais am orchymyn llys yn erbyn unrhyw un neu unrhyw fusnes sydd, i bob golwg, wedi torri’r rheoliadau. Mae ganddyn nhw hefyd ddyletswydd i ystyried unrhyw gŵyn y byddan nhw'n ei derbyn ynghylch torri rheoliadau.
Efallai y gall eich Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol neu’ch gwasanaeth Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor hefyd. Os ydych chi wedi archebu bwyd o dramor, mae’n bosib na fydd rhyw lawer neu ddim y gallan nhw ei wneud.
Pwy ddylwn i gysylltu â nhw os ydw i’n meddwl bod yr hysbyseb ar gyfer cynnyrch bwyd yn gamarweiniol?
Cysylltwch â’r gwasanaeth safonau masnach yn awdurdod lleol yr ardal y mae’r busnes yn gweithredu ynddi. Gallwch chi ddefnyddio ein cyfleuster chwilio trwy god post ‘Sut i gwyno’ i ddod o hyd i’ch gorfodwr cyfraith bwyd awdurdod lleol agosaf.Cofiwch y bydd rheolau hysbysebu’n amrywio gan ddibynnau ar y wlad y mae'r busnes yn gweithredu ynddi. Fe allai honiadau ynglŷn â chynhyrchion fod yn llai dibynadwy y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (UE).
Pecynnu a danfon
Alla’ i archebu cig a chynhyrchion llaeth o dramor?
Gallwch chi archebu cig a chynhyrchion llaeth os ydyn nhw’n dod o wlad yn yr UE. Ond ni ddylech chi archebu cig a chynhyrchion llaeth, gan gynnwys cig mewn can, cig wedi’i sychu a chawsiau, o wledydd y tu allan i’r UE.Pa mor gyflym y dylai bwyd gael ei ddanfon os yw’n cael ei anfon trwy’r post neu gyda negesydd?
Os bydd bwydydd y mae angen eu rheweiddio (fel pysgod, cynhyrchion cig, bwydydd wedi’u coginio, llawer o gynhyrchion llaeth a saladau parod) yn cael eu hanfon trwy’r post neu gyda negesydd, fe ddylid eu danfon cyn gynted â phosib, dros nos yn ddelfrydol, a dylid eu cadw’n oer hyd nes iddyn nhw gyrraedd pen eu taith.Pan fyddwch chi’n archebu, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod pryd i ddisgwyl i’r archeb gyrraedd. Os bydd bwydydd y mae angen eu rheweiddio’n cyrraedd yn hwyr, fe allai hyn olygu nad ydyn nhw wedi’u cadw’n ddigon oer. O’r herwydd, mae’n well peidio â derbyn bwyd ar ôl yr amser danfon bwriadedig sydd wedi'i argraffu ar y pecyn.
Sut ddylai bwyd gael ei becynnu os yw’n cael ei anfon trwy’r post?
Mae’n rhaid cadw bwydydd y mae angen eu rheweiddio (fel pysgod, cynhyrchion cig, bwydydd wedi’u coginio, llawer o gynhyrchion llaeth a saladau parod) yn oer tra’u bod yn cael eu cludo. Weithiau, byddan nhw’n cael eu pecynnu mewn bocs wedi’i inswleiddio gyda gel oerydd, neu mewn bag oer.Os byddwch chi’n archebu bwyd y mae angen ei reweiddio a hwnnw’n teithio pellter hir, gofynnwch i’r cyflenwyr beth y byddan nhw’n ei wneud i’w gadw’n oer nes iddo gyrraedd pen ei daith.
Dylid hefyd cadw'n oer cynhyrchion sydd wedi’u pecynnu dan wactod, fel pysgod mwg.
Beth ddylwn i ei wneud os bydd pecynnu bwyd wedi’i ddifrodi?
Dylid anfon bwyd mewn math o becynnu sy’n gryf ac yn gyfan. Os yw pecyn wedi'i agor neu wedi'i ddifrodi neu os yw'n gollwng, mae’n well peidio â bwyta’r bwyd. Mae’n bosib y byddwch chi’n gallu ei wrthod pan fydd yn cyrraedd. Fel arall, cysylltwch â’r cyflenwr i ddweud wrtho.A ddylai bwyd rydw i’n ei archebu o archfarchnad gael ei ddanfon mewn fan reweiddiedig?
Yn aml, fe fydd eich siopa’n cael ei ddanfon mewn fan reweiddiedig, ac mae hyn yn arfer da gan ei bod yn ffordd effeithiol i gadw bwyd yn oer. Ond nid yw’n hanfodol rheweiddio bwyd bob amser pan mae'n cael ei gludo, cyn belled â’i fod yn cyrraedd pen ei daith yn gyflym. Os ydych chi’n pryderu ynglŷn â’r ffordd mae’ch bwyd yn cael ei ddanfon, cysylltwch â’r archfarchnad.Beth ddylwn i ei wneud os yw bwydydd y mae angen eu rheweiddio’n gynnes pan mae’n nhw’n cyrraedd?
Os nad yw bwydydd y mae angen eu rheweiddio'n cael eu cadw'n ddigon oer yn ystod eu siwrnai, fe allen nhw eich gwneud chi'n sâl. Felly os yw’r math hwn o fwyd yn cyrraedd ac mae’n amlwg nad yw’n oer, mae’n well peidio â’i fwyta. Mae’n bosib y byddwch chi’n gallu ei wrthod pan fydd yn cyrraedd, gan ddibynnu ar delerau’ch contract â’r cyflenwr. Cofiwch, mae’n syniad da gwirio addewidion gwasanaeth y busnes cyn archebu.Y gyfraith
Ydy rheoliadau diogelwch bwyd yr UE yn berthnasol i fwyd rydw i’n archebu o gartref?
Os byddwch chi’n archebu bwyd o gartref, yna bydd rheolau diogelwch bwyd y wlad y mae'r busnes yn gweithredu ynddi’n berthnasol. Os byddwch chi’n archebu bwyd oddi wrth fusnes yn y DU, yna rheolau’r DU fydd yn berthnasol. Yn yr UE, mae rheolau diogelwch bwyd wedi’u seilio ar yr un Cyfarwyddebau’r Comisiwn Ewropeaidd (CE), felly dylai bwydydd a archebir o Aelod-wladwriaethau eraill yr UE gydymffurfio â safonau tebyg. Y tu allan i’r UE, mae’r rheolau’n amrywio o wlad i wlad, felly ni allwch chi fod yn siŵr y bydd yr un safonau â’r rhai yn yr UE yn berthnasol.Beth yw’r gofynion labelu ar gyfer cynhyrchion bwyd sy’n cael eu marchnata yn y DU?
Yn gyffredinol, mae’n rhaid labelu cynhyrchion bwyd mewn ffordd sy’n hawdd i’w deall, gyda phrint sy’n ddigon eglur i’w ddarllen. Rhaid i’r label nodi’r manylion a ganlyn:- enw’r bwyd
- rhestr o’r cynhwysion
- dyddiad ‘Defnyddio erbyn’ (‘Use by’) neu ‘Ar ei orau cyn’ (‘Best before’)
- unrhyw gyfarwyddiadau arbennig ynglŷn â sut i storio neu ddefnyddio’r cynnyrch
- enw’r gwneuthurwr, y paciwr neu’r gwerthwr
Mewn gwledydd y tu allan i’r UE, mae’r cyfreithiau labelu’n amrywio. Bydd cynhyrchion sy’n cael eu prynu o'r tu allan i’r UE yn dilyn rheolau’r wlad y mae’r bwyd yn cael ei allforio ohoni.
Oes yn rhaid i gyflenwyr ddarparu gwybodaeth labelu ar-lein neu mewn catalog?
Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gyflenwi gwybodaeth labelu ar-lein neu mewn catalog – bydd hyn yn dibynnu ar bolisi’r cyflenwr.Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dyddiadau ‘Defnyddio erbyn’ ac ‘Ar ei orau cyn’?
Mae ‘Defnyddio erbyn’ (‘Use by’) yn golygu hynny’n union. Ni ddylech chi ddefnyddio unrhyw fwyd neu ddiod ar ôl diwedd y dyddiad ‘Defnyddio erbyn’ a ddangosir ar y label. Hyd yn oed os yw’n edrych yn iawn ac yn arogli’n iawn, fe allai ei ddefnyddio ar ôl y dyddiad hwn beryglu’ch iechyd ac achosi gwenwyn bwyd.Fe fyddwch chi fel rheol yn gweld dyddiad 'Defnyddio erbyn’ ar fwyd sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym, fel pysgod, cynhyrchion cig, llawer o gynhyrchion llaeth a saladau parod. Fel rheol, mae angen cadw bwyd sydd â dyddiad ‘Defnyddio erbyn’ arno yn yr oergell.
Ar y cyfan, defnyddir dyddiadau ‘Ar ei orau cyn’ (‘Best before’) ar fwydydd sy’n para’n hirach, fel bwydydd wedi’u rhewi, wedi’u sychu neu mewn can. Fe ddylai fod yn ddiogel bwyta bwyd ar ôl y dyddiad ‘Ar ei orau cyn’, ond ni fydd y bwyd ar ei orau bellach. Ar ôl y dyddiad hwn, efallai y bydd y bwyd yn dechrau colli ei flas a’i ansawdd.
Fodd bynnag, ni ddylech chi fwyta wyau ar ôl y dyddiad ‘Ar ei orau cyn’. Mae hyn oherwydd bod wyau’n gallu cynnwys bacteria salmonella a allai ddechrau lluosogi ar ôl y dyddiad hwn.
Fel yn achos pob cynnyrch bwyd, fe ddylech chi ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau storio bob amser. Os yw’r label yn nodi ‘Keep refrigerated’ fe ddylech chi roi’r bwyd yn yr oergell cyn gynted ag y bydd yn cyrraedd.
Alla’ i werthu cynhyrchion bwyd rydw i wedi’u prynu o gartref i bobl eraill?
Gallwch chi werthu cynhyrchion bwyd rydych chi wedi’u prynu fel hyn, cyn belled â bod y cynhyrchion yn cydymffurfio â holl ofynion perthnasol cyfraith bwyd y DU, er enghraifft o ran labelu a hylendid bwyd. Os ydych chi’n bwriadu gwerthu bwyd, mae’n bosib y bydd yn rhaid ichi hefyd gydymffurfio â rheoliadau sy’n berthnasol i fusnesau bwyd. Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael cyngor. Os nad yw cynhyrchion bwyd yn cydymffurfio â chyfraith y DU, fe allai fod yn drosedd eu gwerthu neu eu rhoi i bobl eraill.Cysylltiadau defnyddiol
Mae’n bosib y bydd y sefydliadau canlynol yn gallu rhoi mwy o wybodaeth ichi am brynu bwyd o gartref:
Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio
ebost: distance.selling@dti.gov.uk
Cymdeithas Genedlaethol Cyngor ar Bopeth (NACAB)
Consumers International
e-bost odte@consint.org
Y Swyddfa Masnachu Teg
e-bost enquiries@oft.gsi.gov.uk
I ddod o hyd i fanylion am eich gwasanaeth safonau masnach lleol, chwiliwch yn ôl cod postneu edrychwch am eich awdurdod lleol yn y llyfr ffôn.





