Text only

Paratoi


woman preparing carrots

Mae’n bwysig iawn paratoi bwyd yn ddiogel, er mwyn atal bacteria niweidiol rhag lledaenu a thyfu.




Golcha dy ddwylo

fingerprints black Gall dy ddwylo ledaenu bacteria’n rhwydd o amgylch y gegin ac ar fwyd. Dyna pam ei bod yn bwysig dy fod yn golchi dy ddwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr cynnes ar bob un o’r adegau hyn:
  • cyn dechrau paratoi bwyd
  • ar ôl cyffwrdd â chig amrwd, gan gynnwys dofednod
  • ar ôl bod yn y toiled
  • ar ôl cyffwrdd â’r bin
  • ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid anwes
Paid ag anghofio sychu dy ddwylo’n drylwyr hefyd, gan y byddan nhw’n lledaenu bacteria’n fwy rhwydd os ydyn nhw'n wlyb.

Cadw arwynebau gwaith yn lân

Cyn i ti ddechrau paratoi bwyd, mae'n bwysig gofalu bod yr arwynebau gwaith, offer y gegin a'r byrddau torri yn lân. Os ydynt wedi bod mewn cysylltiad â chig, dofednod neu wyau amrwd, bydd angen i ti eu golchi'n drylwyr.

Paid ag anghofio newid clytiau a llieiniau sychu yn rheolaidd. Efallai eu bod yn edrych yn lân, ond maent yn le perffaith i facteria dyfu.

Gwahanu cig/pysgod amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta

woman preparing herbs Mae cig a physgod amrwd yn cynnwys bacteria niweidiol sy’n gallu lledaenu’n rhwydd iawn i unrhyw beth maent yn cyffwrdd ag ef, gan gynnwys bwydydd eraill, arwynebau gweithio, briwfyrddau a chyllyll.

Mae’n arbennig o bwysig cadw cig a physgod amrwd ar wahân i fwyd sy’n barod i’w fwyta, fel salad, ffrwythau a bara. Y rheswm am hyn yw bod y bwydydd hyn yn cael eu coginio cyn i ti eu bwyta, felly ni fydd unrhyw facteria a fydd yn mynd i’r bwydydd hyn yn cael eu lladd.

I atal bacteria rhag lledaenu, cofia'r pethau hyn:
  • Paid â gadael i gig a physgod amrwd gyffwrdd â bwydydd eraill.

  • Paid byth â pharatoi bwyd sy’n barod i’w fwyta gan ddefnyddio bwrdd torri neu gyllell rwyt ti wedi’u defnyddio i baratoi cig amrwd, oni bai eu bod nhw wedi’u golchi’n drylwyr yn gyntaf.

  • Golcha dy ddwylo’n drylwyr ar ôl cyffwrdd â chig a physgod amrwd a chyn i ti gyffwrdd ag unrhyw beth arall.
  • Gorchuddia gig a physgod amrwd bob amser, a’u storio ar silff waelod yr oergell lle nad ydynt yn gallu cyffwrdd â bwydydd eraill na diferu arnyn nhw.
  • Paid â golchi cig amrwd cyn ei goginio. Nid yw golchi'r cig yn cael gwared ar facteria niweidiol – yr unig ffordd o wneud hynny yw coginio'r bwyd yn drylwyr. Os wyt ti'n golchi cig neu bysgod amrwd, mae perygl i ti ddiferu bacteria ar arwynebau gwaith ac offer y gegin.


Darllen y label

Cam pwysig arall wrth baratoi bwyd – er mwyn cadw dy deulu'n ddiogel rhag gwenwyn bwyd - yw darllen y labeli bwyd i sicrhau bod popeth y bydd di'n ei ddefnyddio wedi'i storio'n gywir (yn unol â'r cyfarwyddiadau storio) ac nad yw'r bwyd wedi mynd heibio'i ddyddiad 'defnyddio erbyn'.

Byddi di'n gweld bod y labeli sydd ar unrhyw fwyd sy'n mynd yn 'ddrwg' yn gyflym yn cynnwys cyfarwyddiadau storio sy'n nodi am ba mor hir y gelli di gadw'r bwyd a ph'un a oes angen ei gadw yn yr oergell ai peidio.

Yn aml, bydd gan y math hwn o fwyd becyn arbennig er mwyn ei helpu i gadw'n ffres. Ond unwaith y byddi di'n ei agor, bydd yn mynd yn ddrwg yn gyflym. Dyna pham mae'r cyfarwyddiadau storio hefyd yn dweud am faint y bydd y bwyd yn para ar ôl agor y pecyn. Er enghraifft, efallai y byddi di'n gweld bod y label yn dweud ‘i'w fwyta o fewn deuddydd i'w agor' (eat within 2 days of opening).

Byddi di hefyd yn gweld dyddiadau 'defnyddio erbyn' (use by) ar fwyd sy'n mynd yn ddrwg yn gyflym. Ni ddylet ddefnyddio unrhyw fwyd ar ôl y dyddiad 'defnyddio erbyn' hyd yn oed os yw'r bwyd yn edrych ac yn arogli'n iawn, oherwydd gallai gynnwys bacteria niweidiol.

Mae dyddiadau 'ar ei orau cyn' (best before) i wneud fwy ag ansawdd bwyd yn hytrach na diogelwch. Felly os yw bwyd wedi mynd heibio'r dyddiad 'ar ei orau cyn', nid yw'n golygu y bydd y bwyd yn dy wneud di'n sâl. Yn hytrach, mae'n bosibl y bydd yn dechrau colli'i flas neu ei ansawdd. Yr unig eithriad yw wyau - ni ddylet fwyta wyau ar ôl y dyddiad 'ar ei orau cyn'.

Paratoi dofednod dy hun

Mae mwyafrif y dofednod a'r helgig sydd wedi’u ffermio ac sy’n cael eu gwerthu yn y DU eisoes wedi’u diberfeddu cyn i ti eu prynu.

Mae hyn yn golygu bod y perfeddion ac organau mewnol eraill wedi'u tynnu allan eisoes.

Fodd bynnag, mae ffermwyr sy'n lladd llai na 10,000 o adar y flwyddyn yn cael gwerthu dofednod, a helgig sydd wedi’u ffermio, gyda'u perfeddion dal y tu mewn iddyn nhw.

Efallai y gweli di’r math hwn o ddofednod a helgig sydd wedi'u ffermio ar werth wrth giât y fferm, neu mewn marchnadoedd lleol. Mae’n bosib bod helgig gwyllt, fel ffesantod, nad ydyn nhw wedi’u diberfeddu, ar werth hefyd.

Peryglon diberfeddu dofednod a helgig gartref

Mae tynnu perfeddion ac organau mewnol eraill allan o ddofednod a helgig yn cynyddu’r perygl o halogi arwynebau gwaith ac offer cegin â bacteria niweidiol.

Os bydd stumog neu berfeddion aderyn yn rhwygo pan fyddan nhw’n cael eu tynnu, gall bacteria ledaenu o gynnwys y perfeddion. Gallai hyn halogi’r cig – neu fwydydd eraill – ac achosi gwenwyn bwyd.

Cyngor cyffredinol

Mae bob amser yn well gofyn i’r cyflenwr ddiberfeddu’r dofednod neu'r helgig ar dy ran, pan fyddi di’n ei brynu.

Os nad yw hyn yn bosibl, rydym ni’n argymell dy fod yn cymryd y rhagofalon hyn:
  • defnyddio bag oeri wedi’i inswleiddio i gludo’r aderyn adref
  • rhoi'r dofednod neu'r helgig mewn oergell yn gyflym – cyn pen 1-2 awr yn ddelfrydol
  • cadw'r dofednod neu'r helgig amrwd ar wahân i fwyd sydd wedi’i goginio
  • rhoi'r dofednod neu'r helgig amrwd ar waelod yr oergell i’w atal rhag diferu ar fwyd arall
  • golchi dwylo, gan ddefnyddio dŵr cynnes a sebon, bob tro ar ôl trin cig, dofednod neu helgig amrwd a chyn cyffwrdd â bwyd arall
  • glanhau'r ardal baratoi yn drylwyr cyn dechrau diberfeddu’r aderyn ac ar ôl ei ddiberfeddu
Pan fyddi di'n diberfeddu dofednod neu helgig
  • wrth drin a thynnu’r perfeddion, gwna hyn ddigon pell oddi wrth fwydydd eraill er mwyn osgoi halogi arwynebau gwaith a bwydydd eraill
  • defnyddia gadachau, llieiniau a menig taflu i ffwrdd lle bynnag y bo'n bosibl
  • dylid tynnu’r perfeddion yn ofalus o du ôl yr aderyn, a thynnu’r galon o’r gwddf
  • ceisia osgoi rhwygo’r perfeddion a gollwng eu cynnwys
  • cofia gadw'r arwynebau gwaith a'r offer yn lân ac yn sych tra dy fod yn eu defnyddio
Ar ôl diberfeddu dofednod neu helgig
  • paid â golchi cig dofednod neu helgig gan y gallai'r dŵr dasgu a lledaenu bacteria o amgylch y gegin
  • defnyddia bapur taflu i ffwrdd i sychu clotiau gwaed oddi ar yr aderyn
  • rho'r perfeddion ac unrhyw ddeunydd anfwytadwy arall yn ofalus mewn bin sbwriel – rho nhw mewn cynhwysydd wedi’i selio cyn eu taflu
  • golcha offer ac arwynebau gwaith yn drylwyr mewn dŵr cynnes â sebon ar ôl eu defnyddio ac, os yw’n bosibl, eu diheintio
  • golcha dy ddwylo’n drylwyr mewn dŵr cynnes â sebon ar ôl trin dofednod amrwd a’u sychu’n drylwyr