Text only

Picnic


sandwich layered

Pan fyddwch chi’n mynd ar bicnic, peidiwch â thynnu'r bwyd allan o'r oergell tan y funud olaf, a defnyddiwch fag oer i'w gadw'n oer nes y byddwch chi'n barod i fwyta. Mae’n arbennig o bwysig cadw’r bwydydd a ganlyn yn oer:

  • bwyd sy’n cynnwys hufen, fel treiffl, cacennau hufen a phwdinau
  • cig a dofednod
Cofiwch olchi ffrwythau a llysiau salad yn drylwyr cyn gadael y tŷ. Ceisiwch olchi’ch dwylo bob tro cyn bwyta ond, os na allwch chi wneud hyn, fe allech chi ddefnyddio cadachau dwylo antiseptig tafladwy yn lle.

Pan fyddwch chi’n bwyta yn yr awyr agored, fe ddylech chi hefyd gofio rhoi gorchudd dros y bwyd ar bob cyfle posib – er mwyn ei ddiogelu rhag pryfed, adar ac anifeiliaid anwes, a all gario bacteria.