Barbeciw
Beth bynnag rydych chi'n ei goginio, dyma awgrymiadau diogelwch bwyd i gadw bwyd yn ddiogel i'ch ffrindiau ac i'ch teulu.
Gall heintiau fel E.coli O157, campylobacter a salmonella achosi salwch difrifol. Ond gallwch chi gadw draw o wenwyn bwyd trwy gymryd rhai camau syml.
Pan fyddwch chi'n cael barbeciw, daw'r risg fwyaf o wenwyn bwyd o gig amrwd neu gig heb ei goginio'n ddigonol.


Coginio bwyd yn iawn ar y barbeciw
Os ydych chi'n coginio ar y barbeciw ar gyfer llawer o bobl, fe allech chi goginio'r cig yn y gegin a'i orffen ar y barbeciw i roi blas ychwanegol arno.
Cofiwch, pan fyddwch chi'n aildwymo bwyd ar y barbeciw, gwnewch yn siŵr ei fod yn chwilboeth trwyddo cyn ei weini.
Hefyd:
- Arhoswch nes bod y siarcol yn eirias, gydag arwyneb llwyd powdrog, cyn dechrau coginio.
- Gwnewch yn siŵr bod bwyd sydd wedi'i rewi wedi'i ddadmer yn llwyr cyn ichi ei goginio.
- Trowch y bwyd yn rheolaidd, a'i symud o gwmpas y barbeciw, er mwyn coginio pob rhan ohono'n gyfartal.
- Gwiriwch fod canol y bwyd yn chwilboeth.
- Peidiwch â chymryd bod cig sydd wedi'i golosgi ar y tu allan o reidrwydd wedi'i goginio'n iawn y tu mewn.
Cadw cig amrwd ar wahân i fwyd sy'n barod i'w fwyta
- Golcha dy ddwylo'n drylwyr bob tro ar ôl trin cig amrwd.
- Defnyddia offer gwahanol ar gyfer cig amrwd a chig sydd wedi'i goginio.
- Paid byth â rhoi bwyd sydd wedi'i goginio ar blât neu arwyneb sydd wedi'i ddefnyddio ar gyfer cig amrwd.
- Cofia gadw cig amrwd mewn cynhwysydd wedi'i selio, ar wahân i fwydydd sy'n barod i'w bwyta, fel rholiau byrgyrs neu salad.
- Paid â rhoi cynhyrchion cig amrwd drws nesaf i gig sydd wedi'i goginio neu wedi'i goginio'n rhannol ar y barbeciw.
- Paid ag ychwanegu saws neu farinâd at fwyd sydd wedi'i goginio os yw eisoes wedi'i ddefnyddio ar gyfer cig amrwd.





