Text only

GwylioGermau


germ watch - dont make your mealtime a horror

Cymer ofal – efallai bod germau’n llechu y tu ôl i bob tostiwr, ym mhob oergell ac ar bob bwrdd torri. Os bydd germau’n cael rhwydd hynt i ledaenu o le i le, mae’n bosibl y byddi’n gwneud cawlach o’th bryd bwyd.

Felly, tyrd i ddysgu mwy am beryglon cudd cegin gyffredin. Ac os byddi di'n cofio'r 4 prif reol o safbwynt hylendid (glanhau, coginio, oeri a chroeshalogi), fe elli di warchod dy hun a dy deulu rhag cael gwenwyn bwyd...


Ar y dudalen hon

 

 

 

 



Glanhau

Germ watch leaflet - cleaning image Efallai bod dy ddwylo di’n llawn germau yr eiliad hon - mil a mwy ohonyn nhw. Maen nhw’n anweledig, ac yn gallu lledaenu’n hawdd i fwydydd gan dy wneud di’n sâl fel ci.

Rho stop arnynt cyn ei bod hi’n rhy hwyr! Cofia gadw dy hun a'th gegin yn lân drwy olchi a sychu dy ddwylo’n drylwyr:
  • cyn paratoi bwyd
  • ar ôl cyffwrdd â bwydydd amrwd, yn enwedig cig
  • ar ôl bod yn y tŷ bach
Gwna’n siŵr dy fod yn cadw arwynebau gwaith, byrddau torri ac offer coginio yn lân. Rhaid i ti eu golchi’n drylwyr os bu wyau, dofednod neu gig amrwd arnyn nhw.

Cofia newid cadachau llestri a thyweli sychu yn rheolaidd. Er eu bod nhw’n ymddangos yn lân, mae germau wrth eu boddau yno. Paid â gadael i’r germau ennill y dydd!



Ffaith Ffiaidd: Mae germau niweidiol yn lledaenu’n gynt ar ddwylo gwlyb. Cofia sychu dy ddwylo’n drylwyr ar ôl eu golchi, er dy les di a’th deulu.



Coginio

Germ watch leaflet - cooking image Mae germau fel salmonela ac E. coli yn gallu ymosod unrhyw bryd. Er hynny, fe allwn ni gael gwared arnyn nhw drwy goginio bwyd yn drylwyr:

  • dilyna cyfarwyddiadau’r label yn ofalus bob amser
  • gofala fod y bwyd yn chwilboeth yn y canol – gyda stêm yn codi ohono
  • paid ag ailgynhesu’r bwyd fwy nag unwaith
  • os wyt ti’n ailgynhesu bwyd, gofala ei fod wedi’i goginio’n llwyr drwyddo
Paid â chael dy drechu gan germau’r gegin!

Mae’n hollbwysig coginio dofednod, porc, byrgyrs a selsig yn drylwyr. Os yw’r cig yn binc, neu’r sudd yn llifo’n binc neu’n goch, efallai bod germau yn llechu ynddo! Rho stop arnyn nhw!

Mae’n iawn bwyta rhai mathau o gig, fel darnau o gig eidion neu gig oen, yn waedlyd cyn belled â bo’r rhan allanol wedi’i goginio’n iawn.



Ffaith Ffiaidd: Mae dwywaith cymaint o achosion o wenwyn bwyd yn yr haf. Cofia goginio’r selsig a’r byrgyrs nes eu bod yn chwilboeth drwyddynt, a heb gig pinc ar ôl.



Oeri

Germ watch leaflet - chilling image Er bod yr oergell yn ymddangos yn syml, mae’n uffern ar y ddaear i rai germau niweidiol – felly rhwystra’r germau rhag tyfu drwy gadw bwydydd yn oer. A gwna’n siwr dy fod yn rhoi’r bwydydd cywir yn yr oergell – cofia edrych am ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu chyfarwyddiadau ‘i’w gadw yn yr oergell’ ar y label.

Mae’r oergell yn arf gwych yn y frwydr yn erbyn germau, ond mae’n rhaid ei defnyddio’n effeithiol. Dyma bethau i’w cadw mewn cof:

  • cadw’r oergell ar y tymheredd cywir (tua 5°C)
  • cadw drws yr oergell ar gau cymaint â phosibl
  • gadael i’r bwyd oeri’n gyntaf cyn ei roi yn yr oergell
  • os yw’r oergell yn llawn dop, tro’r tymheredd i lawr er mwyn helpu i ladd unrhyw germau
Er gwaethaf hyn i gyd, mae rhai germau’n gallu datblygu pan maen nhw’n oer, hyd yn oed yn yr oergell. Felly, cofia fwyta unrhyw sbarion bwyd o fewn deuddydd.

Paid â gadael bwyd allan o’r oergell am rhy hir. A chadwa’r bwyd mewn bag neu focs oeri os wyt ti’n cael picnic neu farbeciw yn yr awyr agored.

Os wyt ti’n cael parti, paid â gadael bwyd allan am fwy na 4 awr. Fel arall, bydd y germau’n cael eu parti eu hunain!



Ffaith Ffiaidd: Tu allan i'r oergell, gall dim ond 10 o germau anweledig luosi i 1000 mewn 6 awr. Cofia gadw bwyd mewn bag neu focs oeri pan fyddi di a'r teulu'n bwyta tu allan.


Croeshalogi

Germ watch leaflet - cross contamination image Dyma’r ymgyrch olaf yn y frwydr yn erbyn germau. Paid â gadael i germau ledaenu o gwmpas y gegin ac ymosod ar fwydydd sy’n barod i’w bwyta! Dyma un o brif achosion gwenwyn bwyd.

Ond fe alli di gymryd camau syml i rwystro hyn rhag digwydd:

  • cadw cig amrwd ar wahân i fwyd sy’n barod i’w fwyta

  • cadw cig amrwd ar waelod yr oergell, wedi’i selio, rhag iddo ddiferu ar fwydydd eraill
  • paid byth â defnyddio’r un bwrdd torri ar gyfer cig amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta, heb olchi’r bwrdd (a’r gyllell) yn drylwyr yn gyntaf
  • paid â golchi’r cig cyn ei goginio. Ni fydd hyn yn cael gwared ar y germau niweidiol – dim ond coginio sy’n gwneud hynny – ac fe allet ti dasgu germau ar arwynebau gwaith ac offer eraill
Cofia'r hanfodion diogelwch bwyd - coginio, oeri, glanhau ac osgoi croeshalogi - a phaid a gwneud cawlach o'th bryd bwyd!



Ffaith Ffiaidd: Mae salmonela yn gallu lledaenu’n hawdd o gwmpas y gegin. Helpa i ddiogelu dy deulu trwy gadw cig a dofednod amrwd wedi’u selio yng ngwaelod yr oergell.






Dyma Sglyfyn
Mae'n gymeriad GwylioGermau afiach sydd wrth ei fodd gydag arferion hylendid gwael. Dysga fwy isod.

Gwylia'r hysbysebion
Cyfle i weld Sglyfyn ar waith yn ei hysbyseb teledu newydd.

 

Adnoddau GwylioGermau
a wyt ti'n trefnu digwyddiad i hyrwyddo hylendid bwyd da?

Mae ystod o ddeunyddiau ar gael, gan gynnwys taflenni, posteri ac adnoddau ysgolion yn food.gov.uk

 

Hoffwn wybod mwy am...
 

 

 

Dolen i food.gov.uk