Text only

Coginio


woman cooking Mae'n bwysig ein bod ni'n coginio bwyd yn iawn er mwyn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. Os wyt ti'n bwyta bwyd heb ei goginio’n iawn, fe allai roi gwenwyn bwyd i ti.


Sicrhau bod bwyd yn ddigon poeth

Er mwyn sicrhau fod bwyd wedi’i goginio’n iawn, rhaid gwneud yn siwr ei fod yn ‘chwilboeth’ trwyddo. Mae hyn yn golygu y dylai stêm fod yn dod ohono.

Defnyddia gyllell fach i dorri'r bwyd er mwyn gwneud yn siwr ei fod yn chwilboeth yn y canol. Yn gyffredinol, os yw bwyd yn chwilboeth yn y canol, yna fe fydd yn chwilboeth trwyddo. Ond os wyt ti’n coginio pryd mawr iawn, efallai y bydd angen i ti roi'r gyllell mewn sawl man, mae'n bosibl na fydd pob rhan o’r pryd yn ddigon poeth.

Mae defnyddio thermomedr coginio neu brob tymheredd yn ffordd dda o weld a yw bwyd wedi'i goginio'n iawn. Dylai'r bwyd gyrraedd tymheredd o 70°C am fwy na 2 funud yn y canol neu yn rhan fwyaf trwchus y bwyd.

Mae rhai bwydydd yn newid lliw pan maent yn barod ac wedi'u coginio. Mae edrych ar y lliw yn arbennig o ddefnyddiol wrth edrych ar gig.

Sicrhau bod cig wedi’i goginio’n iawn

Mae’n bwysig iawn sicrhau fod dofednod, porc, a chynhyrchion cig fel byrgyrs, selsig a cebabs wedi’u coginio'n drylwyr trwyddynt.

Er mwyn sicrhau fod byrgyrs, selsig, darnau o gyw iâr neu borc wedi'u coginio'n iawn, torra i mewn i’r canol i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gig pinc ar ôl. Dylai’r cig hefyd fod yn chwilboeth yn y canol.

Os wyt ti'n edrych i weld a yw cyw iâr cyfan neu unrhyw aderyn arall wedi'i goginio'n iawn, rho gyllell neu sgiwer lân yn y darn fwyaf trwchus o'r goes (rhwng rhan isaf y goes a’r glun) nes bod y suddion yn rhedeg. Ni ddylai'r suddion redeg yn binc nac yn goch.

Dylid coginio arennau, iau/afu a mathau eraill o offal yn drylwyr nes eu bod yn chwilboeth drwyddynt.

Cig gwaedlyd

Mae’n iawn bwyta stêcs a darnau cyfan eraill o gig eidion a chig oen yn waedlyd, cyn belled â bod y tu allan wedi’i goginio neu'i ‘selio’ yn iawn. Mae stêcs yn cael eu selio fel rheol mewn padell ffrïo dros wres uchel.

Mae’n bwysig selio cig i ladd unrhyw facteria a allai fod ar y tu allan. Mae'n bosibl gweld bod darn o gig wedi’i selio'n iawn gan fod y tu allan yn newid lliw.

Mae’n iawn gweini golwythion (joints) cig eidion a chig oen yn waedlyd hefyd, cyn belled â bod y golwyth yn un darn o gig, yn hytrach na golwyth wedi’i rolio (wedi’i wneud o wahanol ddarnau o gig wedi’u rholio at ei gilydd).

Ond ni ddylid gweini golwythion porc a golwythion wedi’u rholio yn waedlyd. I wneud yn siŵr bod y bwydydd hyn wedi’u coginio’n iawn, rho sgiwer yng nghanol y darn o gig (joint). Ni ddylai'r suddion redeg yn binc nac yn goch.

Cofia, ni ddylet fwyta’r mathau hyn o gig yn waedlyd:
  • dofednod
  • porc
  • byrgyrs, selsig, nygets cyw iâr
  • golwythion wedi’u rholio
  • cebabs
Mae'r mathau hyn o gig yn gallu bod yn llawn bacteria, ac nid ar y tu allan yn unig. Felly os nad ydyn nhw wedi’u coginio’n iawn, mae'n bosibl na fydd y bacteria i gyd yn cael eu lladd.

Bwyd dros ben

Os oes gen ti fwyd wedi’i goginio nad wyt ti'n mynd i’w fwyta ar unwaith, cofia ei oeri mor gyflym â phosibl (o fewn awr neu ddwy yn ddelfrydol) ac yna’i storio yn yr oergell. Gofala fod dy oergell rhwng 0°C a 5°C.

Paid â chadw bwyd dros ben am fwy na deuddydd.

Pan fyddi di'n ail-gynhesu bwyd, gwna'n siŵr ei fod yn chwilboeth trwyddo. Os nad yw'r bwyd yn chwilboeth, efallai nad yw'n ddiogel i’w fwyta. Paid ag ail-gynhesu bwyd fwy nag unwaith.

Mae tua thraean y bwyd yr ydym yn ei brynu yn cael ei daflu i'r bin pan fyddai'r rhan fwyaf ohono wedi bod yn addas i'w fwyta. Un o'r prif resymau dros daflu bwyd i'r bin yw bod pobl yn coginio ac yn paratoi gormod ohono. Ceisia goginio cymaint o fwyd â sydd ei angen arnat ti a dim mwy. Ond os wyt ti'n coginio gormod, mae defnyddio bwyd dros ben yn ffordd dda o leihau'r bwyd sy'n cael ei wastraffu a hefyd yn arbed arian, cyn belled â dy fod yn gwneud hynny'n ddiogel.

Sosbenni alwminiwm

Mae’n well peidio â defnyddio sosbenni, hambyrddau pobi a ffoil alwminiwm, neu unrhyw declynnau coginio eraill sydd wedi'u gwneud o alwminiwm, i goginio (neu storio) bwyd sy'n cynnwys llawer o asid, fel:
  • tomatos
  • riwbob
  • bresych
  • llawer o fathau gwahanol o ffrwythau meddal
Y rheswm am hyn yw bod alwminiwm yn gallu effeithio ar flas y mathau hyn o fwyd.

Mae astudiaethau wedi dangos bod defnyddio offer coginio alwminiwm yn cyfrannu prin ddim at swm yr alwminiwm yr ydym yn ei gael yn ein bwyd.