Glanhau


washing up gloves Mae’n hanfodol cadw cegin lân er mwyn sicrhau fod bwyd yn ddiogel. Fel arall, gall bacteria dyfu a lledaenu.


Arwynebau gwaith

Mae’n bwysig iawn cadw arwynebau gwaith a byrddau torri yn lân gan eu bod nhw’n cyffwrdd â’r bwyd yr wyt ti’n mynd i’w fwyta. Os nad ydyn nhw’n gwbl lân, gallai bacteria ledaenu i fwyd a dy wneud di’n sâl.
  • Golcha arwynebau gwaith bob tro cyn dechrau paratoi bwyd.
  • Cer ati i lanhau arwyneb gwaith ar unwaith os wyt ti wedi colli unrhyw fwyd neu ddiod drosto.
  • Golcha arwynebau gwaith yn drylwyr bob tro ar ôl i gig amrwd gyffwrdd â nhw, gan gynnwys dofednod, neu wyau amrwd.
  • Paid byth â rhoi bwyd sy’n barod i’w fwyta, fel salad, bara neu ffrwythau, ar arwyneb gwaith neu fwrdd torri y mae cig amrwd wedi cyffwrdd ag ef, oni bai dy fod wedi’i olchi’n drylwyr yn gyntaf.
Os oes gen ti beiriant golchi llestri, mae hyn yn ffordd effeithiol iawn i lanhau byrddau torri plastig. Gall peiriannau golchi llestri eu golchi ar dymheredd uchel iawn, sy’n lladd bacteria. Fel arall, golcha byrddau torri yn drylwyr gyda dŵr poeth a hylif golchi llestri.

Yn ddelfrydol, mae’n well cael byrddau torri ar wahân ar gyfer cig amrwd a bwyd sy’n barod i'w fwyta.

Cadachau

Mae cadachau budr, llaith yn lle perffaith i facteria luosogi. Felly mae’n bwysig iawn golchi cadachau a sbwnjis cegin yn rheolaidd a’u gadael i sychu cyn eu defnyddio eto.

Yn ddelfrydol, ceisia neilltuo gwahanol gadachau ar gyfer gwahanol dasgau. Er enghraifft, defnyddia un cadach i lanhau arwynebau gweithio ac un arall i olchi llestri. Mae hyn yn helpu i atal bacteria rhag lledaenu.

Os wyt ti am ddewis yr opsiwn mwyaf diogel, gallet ti ddefnyddio lliain papur 'taflu i ffwrdd' i lanhau arwynebau gwaith a byrddau torri. Fel hyn, rwyt ti'n taflu’r tywel papur ar ôl ei ddefnyddio unwaith, felly mae'r tyweli hyn yn llai tebygol o ledaenu bacteria na chadachau yr wyt ti'n eu hailddefnyddio.

Gall llieiniau sychu llestri hefyd ledaenu bacteria, felly mae’n bwysig eu golchi’n rheolaidd a bod yn ofalus sut yr wyt ti'n eu defnyddio. Cofia, os byddi di'n sychu dy ddwylo ar liain sychu llestri ar ôl cyffwrdd â chig amrwd, bydd hyn yn lledaenu bacteria i’r lliain. Yna, os byddi di’n defnyddio’r lliain sychu llestri i sychu plât, bydd y bacteria’n lledaenu i’r plât.

Cyllyll, llwyau ac ati

Mae’n bwysig cadw cyllyll, llwyau pren, spatulas, gefeiliau (tongs) ac ati’n lân er mwyn helpu i atal bacteria rhag lledaenu i fwyd. Mae’n arbennig o bwysig eu golchi’n drylwyr ar ôl eu defnyddio gyda chig amrwd, neu fel arall gallant ledaenu bacteria i fwyd arall.

Os oes gen ti beiriant golchi llestri, mae'n ffordd effeithiol iawn i lanhau offer y gegin, gan fod peiriannau golchi llestri’n gallu golchi ar dymheredd uchel iawn, sy’n lladd bacteria. Fel arall, cer ati i'w golchi'n drylwyr gyda dŵr poeth a hylif golchi llestri.

Dwylo

Mae’n hawdd iawn i ddwylo ledaenu bacteria i bobman yn y gegin, gan ein bod ni’n cyffwrdd â chymaint o bethau, o fwyd i handlen yr oergell, o lieiniau i declynnau agor tuniau. Felly er mwyn cadw'r gegin yn lân mae angen i ti gadw dy ddwylo’n lân.

Golcha dy ddwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr cynnes ar bob un o’r adegau hyn:
  • cyn dechrau paratoi bwyd
  • ar ôl cyffwrdd â chig amrwd, gan gynnwys dofednod
  • ar ôl bod yn y toiled
  • ar ôl cyffwrdd â’r bin
  • ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid anwes
Sycha dy ddwylo’n drylwyr, gan eu bod nhw’n lledaenu bacteria’n fwy rhwydd os ydyn nhw'n wlyb. Yr opsiwn mwyaf diogel yw defnyddio llieiniau papur 'taflu i ffwrdd', neu fel arall defnyddia liain yr wyt ti'n ei ddefnyddio i sychu dwylo yn unig – nid dy ffedog neu liain sychu llestri.





URL: http://www.eatwell.gov.uk/keepingfoodsafe/cleaning/lang=cy&?lang=cy