Text only

Help


Mae'n bosib y bydd y wybodaeth dechnegol hon yn ddefnyddiol i ti.




Defnyddio'r wefan hon


Gosodiadau'r sgrîn
Mae'r wefan hon wedi'i chynllunio i fod yn eglur ac yn hawdd i'w darllen. I gael y canlyniadau gorau, gosodwch eich sgrîn i gydraniad sgrîn 800 x 600 picsel.

Porwyr
Dylai gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd weithio ar unrhyw gyfrifiadur sy'n rhedeg porwr prif ffrwd fersiwn 4 ac uwch. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, Netscape Navigator neu Internet Explorer. Cysylltwch â'r gwefeistr os ydych chi'n cael unrhyw anawsterau'n gweld y wefan gyda'r porwr rydych chi'n ei ddefnyddio.

Argraffu
Cliciwch ar ‘Fersiwn i'w Argraffu’ yn y golofn ar y dde i gael fersiwn o bob tudalen sydd wedi'i fformatio'n arbennig ar gyfer ei argraffu.

Fformatau ffeil ac ategion


Mae peth gwybodaeth ar y wefan hon yn defnyddio 'ategion'. Mae'r rhain yn eich galluogi i weld ffeiliau nad ydyn nhw’n safonol. Dylai'ch porwr eich rhybuddio os oes angen ichi lawrlwytho ategyn, a bydd yn dangos ichi lle y gallwch chi wneud hyn.

Mae'r wefan hon yn defnyddio ffeiliau o blith y mathau canlynol:

html
Ystyr hyn yw ‘hypertext mark-up language’ a dyma yw'r fformat ffeil syml a ddefnyddir ar y We. Mae'r dudalen hon mewn fformat html. Rydyn ni'n anelu at wneud cymaint o wybodaeth â phosib ar gael yn y fformat hwn. Weithiau bydd data ar gael yn y fformatau eraill a ganlyn:

pdf
Ystyr hyn yw ‘portable document format’. Mae ffeiliau pdf yn ddogfennau y gellir eu hargraffu ac fe'u defnyddir i lawrlwytho ac argraffu dogfennau mawr. I'w darllen bydd yn rhaid ichi gael copi o Adobe Acrobat Reader, a gallwch chi lawrlwytho hwn yn rhad ac am ddim.

Mae Adobe hefyd wedi cynhyrchu ategyn i alluogi defnyddwyr sy'n ddall i ddarllen dogfennau pdf. Yr enw arno yw ategyn Acrobat Access, a gallwch chi ddod o hyd i hwn hefyd ar wefan Adobe.

Os ydych chi'n cael trafferth agor dogfennau pdf, efallai y bydd hi'n haws lawrlwytho'r ffeiliau i'ch cyfrifiadur. Os ydych chi'n dymuno lawrlwytho'r ffeil i'ch cyfrifiadur, dilynwch y weithdrefn hon:

1. gosodwch eich cyrchwr dros y cyswllt
2. cliciwch y botwm dde ar eich llygoden (PC yn unig)
3. dewiswch 'save target as' o'r gwymplen
4. dewiswch leoliad ar eich cyfrifiadur i gadw'r ffeil
5. cliciwch y botwm 'save'

Nawr byddwch chi’n gallu agor y ddogfen yn Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur eich hun.

Macromedia Flash
Mae'r fformat ffeil hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhai elfennau dylunio o'r wefan. Bydd angen meddalwedd Flash arnoch chi, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, i weld y ffeiliau hyn.

Hygyrchedd


Rydyn ni am i'r wefan hon fod yn hygyrch i bob defnyddiwr. Os oes yn well gennych chi fersiwn testun yn unig, yna dewiswch 'Testun yn unig' ar waelod y golofn dde. Os ydych chi'n ddefnyddiwr â nam ar eich golwg a bod rhaglen darllen sgrîn gennych chi, dylai'ch bod wedi cael cynnig opsiwn testun yn unig wrth agor y wefan hon i ddechrau.

Mae Adobe wedi cynhyrchu ategyn i alluogi defnyddwyr sy'n ddall i ddarllen dogfennau pdf. Gwelwch Acrobat Access i gael mwy o wybodaeth.

Mae Llywio heb Lygoden yno i'ch helpu os ydych chi'n cael trafferth defnyddio'r dyfeisiadau pwyntio, fel llygoden, neu os oes yn well gennych chi ddefnyddio llwybrau bysellfwrdd byr. Gallwch chi weld rhestr o’r dewisiadau Llywio heb Lygoden sydd ar gael ar y wefan hon ar y dudalen Llywio heb Lygoden.

Delweddau


Defnyddir delweddau dan drwydded o wahanol ddisgiau delweddau; mae'r wybodaeth hawlfraint fel a ganlyn:

© BananaStock Ltd
Getty Images
Goodshoot.com
Hemera Photo-Objects. Hawlfraint&©;2004 Asiantaeth Safonau Bwyd a'i thrwyddedwyr. Cedwir pob hawl.

Cysylltu â thîm y we


I gysylltu â thîm y we, anfonwch e-bost at y gwefeistr.

Cyswllt â'n gwefan Os hoffech chi greu cyswllt â gwefan eatwell, darllenwch ein telerau ac amodau.

Os hoffech chi greu cyswllt â gwefan eatwell, darllenwch ein telerau ac amodau.