Dewisa ddau beth i’w bwyta a rhywbeth i’w yfed i frecwast a dysga beth mae Cen yn ei feddwl am dy ddewis. Ateba’r cwestiynau wrth i ti chwarae i gael gweld a wyt ti’n deall dy bethau am frecwast!
Wrth argraffu’r dudalen adborth, cofia newid fformat y dudalen i ‘Landscape’.
Gemau cyfrifiadurol rhyngweithiol ac arbedwyr sgrîn yw ‘5 uchel’, wedi’u hanelu at ferched a bechgyn rhwng 11 a 14 mlwydd oed. Mae Betys Siwgr ac Alff Alffa yn dangos i ddefnyddwyr sut mae bwyta deiet iach a chytbwys, gyda digonedd o ffrwythau a llysiau, yn rhoi’r lefelau egni uchaf posib iddyn nhw.
Mae’r teulu germau wedi’u gwahanu ym Maes Awyr Cyw Iâr Amrwd. Helpwch Dad i gasglu pawb at ei gilydd, er mwyn iddyn nhw ddal eu hawyren i’r Costa Del Colon. Ond cofiwch osgoi'r diheintydd!
Mae twrci slei wedi torri i mewn i'r tŷ ac yn bygwth creu hafoc ac amharu ar eich dathliadau. Estynnwch am beth bynnag sydd wrth law i’w defnyddio fel arfau i ddysgu gwers neu ddwy i’r twrci gebyst.
Ewch wyneb yn wyneb â'r cyfaill craff drwy chwarae'r gêm.
Gallwch roi eich hun a’r hyn rydych chi’n ei wybod am y broses o addasu genetig ar brawf yn ein gêm hwyliog ‘gweithdy genynnau’. Wedi ichi fynd drwy’r broses gyda'r athro a’i gynorthwy-ydd, tybed a allwch chi roi’r delweddau yn y drefn gywir yn y pôs GM?
Ydych chi’n gwybod beth yw'r grwpiau bwyd? Yn syml, llusgwch y bwydydd wrth iddyn nhw ymddangos i'r rhan gywir o'r plât. Dylai symud y cyrchwr dros wahanol rannau lliw y plât ddangos enwau pob grŵp bwyd. Pob lwc!