Text only

Gemau


Munud i'w sbario? Rho gynnig ar ein dewis o gemau.




Gemau rhyngweithiol yn ymwneud â bwyta'n iach a diogelwch bwyd

Rhowch gynnig ar gemau'r FSA sy’n ymwneud â bwyta'n iach a diogelwch bwyd. Yn addas i blant 5 i 11 oed.

Tân 'dani! Rhowch gynnig ar ein gêm barbeciw

barbecue game Ydy'r cig wedi'i goginio'n iawn?

Byddwch yn cŵl! Llenwch yr oergell

fridge game Gwnewch yn siŵr fod y bwyd wedi'i storio'n ddiogel ac nad oes unrhyw beth yn diferu heintiau cas.

Llenwch eich plât!

balanced diet game Dysgwch beth sy'n gydbwysedd iach o fwyd.

Brenin y brecwast!

breakfast game image Dewisa ddau beth i’w bwyta a rhywbeth i’w yfed i frecwast a dysga beth mae Cen yn ei feddwl am dy ddewis. Ateba’r cwestiynau wrth i ti chwarae i gael gweld a wyt ti’n deall dy bethau am frecwast!

Wrth argraffu’r dudalen adborth, cofia newid fformat y dudalen i ‘Landscape’.

FSA Cymru: 5 Uchel!

Gemau cyfrifiadurol rhyngweithiol ac arbedwyr sgrîn yw ‘5 uchel’, wedi’u hanelu at ferched a bechgyn rhwng 11 a 14 mlwydd oed. Mae Betys Siwgr ac Alff Alffa yn dangos i ddefnyddwyr sut mae bwyta deiet iach a chytbwys, gyda digonedd o ffrwythau a llysiau, yn rhoi’r lefelau egni uchaf posib iddyn nhw.

Alff Alffa

Play the game Alf Alpha Ciplun o Alff Alffa

Betys Siwgr

Play the game Sugabeat Princess Ciplun o Betys Siwgr

Germau ar Daith

germ travel game Mae’r teulu germau wedi’u gwahanu ym Maes Awyr Cyw Iâr Amrwd. Helpwch Dad i gasglu pawb at ei gilydd, er mwyn iddyn nhw ddal eu hawyren i’r Costa Del Colon. Ond cofiwch osgoi'r diheintydd!

Twrci Gwyllt

Turkey Berserkey game Mae twrci slei wedi torri i mewn i'r tŷ ac yn bygwth creu hafoc ac amharu ar eich dathliadau. Estynnwch am beth bynnag sydd wrth law i’w defnyddio fel arfau i ddysgu gwers neu ddwy i’r twrci gebyst.

Ewch wyneb yn wyneb â'r cyfaill craff drwy chwarae'r gêm.

Gweithdy genynnau

Gene machine game Gallwch roi eich hun a’r hyn rydych chi’n ei wybod am y broses o addasu genetig ar brawf yn ein gêm hwyliog ‘gweithdy genynnau’. Wedi ichi fynd drwy’r broses gyda'r athro a’i gynorthwy-ydd, tybed a allwch chi roi’r delweddau yn y drefn gywir yn y pôs GM?

Anwen a Robin

Alisha and Ronnie - balanced diet game Helpwch Anwen a Robin i gynllunio deiet cytbwys am ddiwrnod.

Gwnewch blât o fwyd cytbwys

make a balanced plate game Ydych chi’n gwybod beth yw'r grwpiau bwyd? Yn syml, llusgwch y bwydydd wrth iddyn nhw ymddangos i'r rhan gywir o'r plât. Dylai symud y cyrchwr dros wahanol rannau lliw y plât ddangos enwau pob grŵp bwyd. Pob lwc!

Bocs bwyd iach

a healthy lunchbox game Allwch chi wneud bocs bwyd iach? Yn syml, llusgwch y bwyd rydych chi’n tybio sy'n iach ymlaen i'r briwfwrdd i weld a yw'n gytbwys. Mwynhewch!

Rhowch drefn ar y prydau

unmuddle the meals game Yn y gêm hon, bydd angen ichi lusgo'r cynhwysion o bob pryd bwyd i'r grŵp bwyd cywir.