Ymwadiad
Darperir gwefan eatwell yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r deunydd sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau'r Llywodraeth (neu sy'n ymwneud â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti) 'fel ag y mae', heb unrhyw gynrychiolaeth nac ardystiad a heb warant o unrhyw fath p'un a'i mynegir neu'i awgrymir, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben arbennig, peidio â thresmasu, cysondeb, diogelwch a chywirdeb.
Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd a gynhwysir yn y wefan hon yn rhydd rhag ymyrraeth neu wallau, y caiff diffygion eu cywiro, ac y bydd y wefan hon neu'r gweinydd sy'n sicrhau ei bod ar gael, yn rhydd rhag firysau neu'n cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau.
Ni fyddwn yn atebol am golled neu ddifrod ar unrhyw gyfrif, yn cynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod canlyniadol neu anuniongyrchol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o ddefnyddio, neu golli'r gallu i ddefnyddio, data neu elw sy'n deillio o ddefnyddio gwefan eatwell yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu sy'n gysylltiedig â hynny.
Rheolir a dehonglir y Telerau ac Amodau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n deillio dan y Telerau ac Amodau hyn yn destun awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.