Cysylltu â ni
Mae yna wybodaeth ar y dudalen hon am sut i gysylltu ag aelod o staff yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a sut i anfon adborth ynglŷn ag eatwell. Hefyd, mae yna ffurflen i'w llenwi os oes gennych chi wefan yr hoffech chi gael cyswllt rhyngddi ac eatwell.
Staff yr Asiantaeth
Os ydych chi am ffonio aelod o staff yr Asiantaeth Safonau Bwyd, gwelwch ein rhestr A i Y o feysydd gwaith yr Asiantaeth.
Efallai na fydd y cysylltiadau ar y rhestr yn gallu ateb pob cwestiwn, ond dylen nhw allu rhoi manylion cyswllt rhywun a all ichi.
Eich sylwadau
Os ydych chi eisiau anfon adborth atom ni ynglŷn ag eatwell, anfonwch e-bost at y gwefeistr.
Dolenni â'n gwefannau
Creu hyperddolenni i ni yn yr Asiantaeth Safonau BwydNid oes rhaid i chi gael caniatâd i greu dolen uniongyrchol i dudalennau ar ein gwefannau ni. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r wybodaeth sydd ar ein gwefannau.
Fodd bynnag, nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i mewn i fframiau ar eich gwefan. Rhaid i dudalennau'r Asiantaeth Safonau Bwyd gael eu llwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr.
Hyperddolenni a grëwyd gennym ni yn yr Asiantaeth Safonau BwydNid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau allanol yr ydym yn creu dolenni â hwy. Nid yw'r ffaith eu bod wedi eu rhestru ar ein gwefan yn golygu ein bod yn eu cefnogi. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau hyn.