Text only

Cyfrifianellau


Rho gynnig ar y gyfrifiannell BMI i weld a yw dy bwysau di'n iach. Gall ein cyfrifiannell calorïau dy helpu i gyfrifo faint o galorïau y gelli eu llosgi wrth wneud ymarfer corff.



Cyfrifiannell Mynegai Màs y Corff (BMI)

BMI calculator Os wyt ti am weld a yw dy bwysau di'n iach, mae'r Gyfrifiannell Mynegai Màs y Corff (BMI) yn ganllaw da. Bydd yn dweud a yw dy bwysau di'n iach o gymharu â'th daldra. Noda dy daldra a'th bwysau yn y Gyfrifiannell BMI, clicia ar 'Imperial' neu 'Metrig', ac yna clicia ar 'cyfrifo'.

Cyfri'r Calorïau!

Calorie calculator Rho gynnig ar y gyfrifiannell arbennig hon. Bydd yn rhoi syniad bras i ti faint o galorïau yr wyt ti'n eu llosgi wrth wneud ymarfer corff.

Pan fyddwn ni'n symud o gwmpas, rydym ni'n defnyddio egni ychwanegol. Y trymaf wyt ti, y mwyaf o egni yr wyt ti'n ei ddefnyddio yn gwneud yr un gweithgaredd â rhywun ysgafnach, ac mae gweithgareddau egnïol yn defnyddio mwy o egni na rhai haws.

Gall faint o egni mae pobl yn ei ddefnyddio amrywio'n fawr, hyd yn oed os ydyn nhw, i bob golwg, yr un maint neu'r un oed. Mae'r gyfrifiannell yn ganllaw bras i nifer y calorïau y mae'n bosibl eu defnyddio drwy wneud gwahanol weithgareddau.