Text only

Ynglŷn ag eatwell


eatwell yw gwefan cyngor a gwybodaeth i ddefnyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae'n llawn cyngor dibynadwy ac ymarferol am fwyta'n iach, deall labeli bwyd a sut all yr hyn rydyn ni'n ei fwyta effeithio ar ein hiechyd.

Bwriad y wefan yw'ch helpu chi i wneud dewisiadau iachach, p'un a ydych chi'n dewis beth i'w fwyta neu'n siopa am fwyd.

Ar sawl tudalen mae yna gysylltau i www.food.gov.uk lle gallwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am bynciau penodol, fel y sail wyddonol i'r cyngor a roddir.

Mae www.food.gov.uk yn cynnwys gwybodaeth drylwyr a'r holl newyddion diweddaraf oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, gan gynnwys polisi ac ymchwil yr Asiantaeth. Hefyd, mae yna wybodaeth fanwl a chyfarwyddyd i bobl sy'n gweithio mewn meysydd sy'n ymwneud â bwyd.

Ynglŷn â’r Asiantaeth Safonau Bwyd

Sefydlwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan Ddeddf Seneddol yn 2000 i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Dyma yw egwyddorion arweiniol yr FSA:
  • rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf
  • bod yn agored ac yn hygyrch
  • bod yn llais annibynnol
Er mai asiantaeth y Llywodraeth yw'r FSA, mae'n annibynnol. Mae hyn yn golygu ei bod yn gweithio hyd braich o'r Llywodraeth gan nad yw'n adrodd i weinidog penodol, a chan ei bod yn rhydd i gyhoeddi unrhyw gyngor mae'n ei roi.

Cysylltu â ni

Mae rhestr A i Z o feysydd gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gael ar www.food.gov.uk, gyda manylion cyswllt staff yr Asiantaeth sy'n gweithio mewn meysydd penodol.