Llysieuwyr a figaniaid


cashew nuts Y peth pwysig i’w gofio os wyt ti’n llysieuwr yw bod angen i ti fwyta deiet cytbwys i ofalu dy fod yn cael yr holl faethynnau sydd eu hangen ar dy gorff.


Bwyta’n iach


spaghetti big Mae’r prif negeseuon bwyta’n iach yr un fath i bawb. Fel rhan o ddeiet cytbwys ac iach, dylai pob un ohonom geisio gwneud y canlynol:
  • bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol y dydd
  • seilio prydau ar fwydydd â starts fel pasta, reis, grawnfwydydd a chodlysiau fel ffa, pys a chorbys. Dylai’r rhain gyfrif am oddeutu traean dy ddeiet
  • ceisio bwyta llai o fwyd sy'n uchel mewn braster dirlawn a mwy o fwyd sy'n llawn braster annirlawn, megis olewau llysiau (gan gynnwys olew blodyn yr haul, olew hadau rêp ac olew olewydd), afocados, cnau a hadau
  • rhoi cynnig ar grilio, pobi, potsio, berwi, stemio, sych-ffrïo neu goginio bwyd yn y microdon yn hytrach na’i ffrïo neu ei rostio mewn olew
  • bwyta rhywfaint o fwydydd protein fel cynnyrch llaeth, wyau neu godlysiau a bwyta amrywiaeth o’r bwydydd hyn
  • bwyta llai o siwgr
  • cadw llygad ar faint o halen yr ydym ni'n ei fwyta – mae’n syniad da edrych ar labeli bwyd a cheisio peidio ag ychwanegu halen at fwyd wrth goginio
  • yfed tua 1.2 litr (6 i 8 gwydraid) o hylif y dydd neu fwy os wyt ti'n gwneud ymarfer corff
Ond mae hefyd angen i ti sicrhau dy fod yn cael digon o faethynnau, yn enwedig protein, haearn a seleniwm, sy’n gallu bod yn brin mewn deiet nad yw’n cynnwys cig.

Cael y maethynnau sydd eu hangen ar dy gorff


Bwyta digon o brotein

lentils Mae’n bwysig sicrhau dy fod yn cael digon o brotein.

Mae’r bwydydd hyn i gyd yn ffynonellau da, felly ceisia gynnwys cymysgedd o’r rhain yn dy ddeiet bob dydd, ac amrywio’r mathau yr wyt ti'n eu dewis:
  • codlysiau (fel corbys a ffa)
  • cnau a hadau
  • wyau
  • soia a chynhyrchion soia fel tofu
  • mycoprotein, a werthir fel Quorn™
  • proteinau gwenith, fel grawnfwydydd, bara, reis ac indrawn
  • llaeth a chynnyrch llaeth
Mae protein yn cynnwys asidau amino, ac mae rhai yn cael eu galw'n ‘asidau amino hanfodol’ gan nad yw’r corff yn gallu eu cynhyrchu ei hun.

Mae’n bwysig cael rhai o’r gwahanol asidau amino hanfodol hyn ar yr un pryd. Soia, quinoa a hadau cywarch (hemp seeds) yw'r unig ffynonellau llysieuol lle ceir y gymysgfa gymhleth o asidau amino hanfodol (mae'r cymysgedd cyfan i'w gael mewn cig, dofednod, pysgod ac wyau hefyd).

Er bod hyn yn swnio’n gymhleth, mae’n hawdd cael yr holl asidau amino hanfodol sydd eu hangen ar dy gorff drwy fwyta gwahanol fathau o fwydydd protein ar yr un pryd. Yn wir, mae'n debyg y byddi di eisoes yn gwneud hyn yn aml, er enghraifft drwy gael:

  • ffa pob ar dy dost
  • llaeth gyda dy rawnfwyd brecwast
  • reis gyda dhal corbys
  • salad reis a ffa
  • tsili llysieuol (gyda ffa Ffrengig) gyda reis neu tortillas
  • bara a chaws
  • cawl wedi’i wneud â chorbys, ffa neu bys hollt gyda darn o fara
  • hwmws a bara pitta
Nid yw’n syniad da dibynnu ar un math o brotein gan ei bod yn bosibl y byddi di'n eithrio rhai maethynnau o'th ddeiet. Os wyt ti, er enghraifft, yn dibynnu ar gaws fel dy ffynhonnell o brotein, efallai dy fod yn cael gormod o fraster dirlawn.

Os nad wyt ti'n bwyta llaeth a chynnyrch llaeth, cer am ddiodydd soia, reis neu geirch wedi’u cyfnerthu â chalsiwm.

Bwyta digon o seleniwm

Brazil nuts Mae’n bwysig gofalu dy fod yn cael digon o seleniwm gan ei fod yn helpu ein systemau imiwnedd i weithredu’n iawn.

Cig, pysgod a chnau yw’r ffynonellau gorau o seleniwm, felly os wyt ti'n llysieuwr caeth, mae’n bwysig gofalu dy fod yn bwyta digon o gnau.

Mae cnau Brasil yn ffynhonnell dda iawn o seleniwm, felly ceisia fwyta rhywfaint bob dydd. Gall bwyta bag bach o gnau cymysg heb eu halltu fod yn ffordd gyfleus o fwyta dy gymeriant dyddiol o seleniwm, ond gofala ei fod yn cynnwys cnau Brasil.

Mae bara ac wyau hefyd yn cynnwys rhywfaint o seleniwm.

Os wyt ti'n bwyta deiet sy'n llysieuol yn bennaf, ond hefyd yn bwyta pysgod, mae'n debygol dy fod yn cael digon o seleniwm.

Bwyta digon o haearn

broccoli Er mai cig yw’r ffynhonnell haearn orau, gellir ei ganfod hefyd mewn:
  • codlysiau
  • llysiau gwyrdd fel berw dŵr, brocoli, llysiau gwyrdd y gwanwyn ac ocra
  • bara
  • grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig
Cofia ei bod yn haws amsugno haearn o fwyd os ydym ni’n ei fwyta gyda bwyd sy’n cynnwys fitamin C, felly cofia fwyta rhywfaint o ffrwythau neu lysiau, neu wydraid o sudd ffrwythau gyda dy bryd.

Ceisia osgoi te neu goffi gyda dy brydau gan fod y rhain yn ei gwneud hi’n anoddach i’r corff amsugno haearn. Mae’n well aros am o leiaf hanner awr ar ôl bwyta cyn cael te neu goffi.

Beth mae llysieuwyr yn ei fwyta?


Nid yw llysieuwyr yn bwyta unrhyw gig, pysgod, bwyd môr na is-gynhyrchion anifeiliaid fel gelatin, ond mae’r rhan fwyaf o lysieuwyr yn bwyta rhai cynhyrchion anifeiliaid fel llaeth, caws (wedi'i wneud â renet llysieuol) a wyau.

Mae rhai yn bwyta deiet sy'n llysieuol yn bennaf, ond mae rhai hefyd yn bwyta pysgod.

Beth mae figaniaid yn ei fwyta?


Nid yw figaniaid yn bwyta unrhyw fwyd sy’n deillio o anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys cig, pysgod, cynnyrch llaeth a mêl.

Os wyt ti'n figan, mae angen i ti ofalu dy fod yn cael digon o brotein a haearn (gweler uchod), ond gall hefyd fod yn anodd i ti gael digon o fitamin B12.

Mae’r rhain yn ffynonellau da o fitamin B12 i figaniaid:
  • rhin burum
  • bara cyfnerthedig
  • grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig





URL: http://www.eatwell.gov.uk/healthydiet/vegaveg/lang=cy&?lang=cy