Text only

Datrys Dryswch y 'Dolig!


christmas presents Rydym ni wedi dwyn deg o'r prif gwestiynau sy'n ymwneud â thwrci ynghyd yn yr adran hon i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnat i sicrhau dy fod yn coginio dy dwrci yn ddiogel!


Twrci o ba faint sydd ei angen arnaf ar gyfer fy nghinio Nadolig?

turkey being held on a tray Os wyt ti am dwrci cyfan, bydd angen tua 450g (1lb) y pen. Felly, os wyt ti’n coginio ar gyfer chwech o bobl, bydd angen twrci 3-4kg arnat. Dylai hwn fod yn ddigon mawr ar gyfer cinio da ac ychydig o fwyd dros ben ar gyfer Gŵyl San Steffan. Os wyt ti am goron twrci, bydd angen ychydig bach yn llai arnat.

Am ba mor y hir y gallaf gadw twrci amrwd yn yr oergell cyn i mi ei goginio?

Bydd dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (‘use by’) ar y pecyn os bydd wedi’i lapio. Dylet naill ai ei goginio neu ei rewi cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’.

Os nad oes unrhyw gyfarwyddiadau ar y label, dylid ei gadw yn yr oergell a’i goginio o fewn 48 awr. Mae hyn yn wir am gig amrwd ffres a chig amrwd wedi’i ddadmer fel ei gilydd.


Faint o amser sydd ei angen i ddadmer twrci?

snowflake Mae’n well dadmer bwyd yn yr oergell. Os nad yw’n bosibl dadmer dy dwrci yn yr oergell, gelli ei ddadmer mewn ystafell oer neu yn y garej, ond bydd angen i ti fod yn wyliadwrus o unrhyw newidiadau eithafol mewn tymheredd, gan fod hyn yn effeithio ar yr amser mae’n ei gymryd i ddadmer. Fel canllaw bras, dylet ganiatáu:

  • 10 i 12 awr ar gyfer pob cilogram mewn oergell ar 4°C
  • 3 i 4 awr ar gyfer pob cilogram mewn ystafell oer (o dan 17.5°C)
  • 2 awr ar gyfer pob cilogram ar dymheredd yr ystafell (tua 20°C)
Er mwyn cyfrifo’r amser dadmer, darllena’r pecyn. Os nad oes unrhyw gyfarwyddiadau dadmer, gelli ddefnyddio ein cyfrifiannell dadmer yn y ddolen isod (Clicia ar 'Cymraeg')

Cofia, dylet ddadmer dy dwrci mewn dysgl fawr wedi’i gorchuddio. Bydd hyn yn atal yr hylif sy’n dod o’r twrci rhag diferu ar fwydydd eraill. Bydd y twrci’n dadmer yn gynt os byddi di’n tynnu’r giblets a’r gwddf.


Gyda beth y dylwn i orchuddio’r twrci wrth iddo ddadmer?

Gelli ddefnyddio dysgl â chaead, ond os nad oes caead i’r ddysgl, bydd ffoil alwminiwm neu glingffilm yn iawn. Gwna’n siŵr ei fod yn gorchuddio’r cig i gyd, dyna’r cyfan.

Mae’n bwysig gorchuddio cig wrth iddo ddadmer er mwyn sicrhau nad yw’r hylif o’r cig amrwd yn diferu ar fwydydd eraill.

Am ba mor hir y mae angen coginio twrci?

turkey on a plate Bydd cyfarwyddiadau coginio ar labeli’r rhan fwyaf o dyrcwn, a dylet ddilyn y rhain. Os nad oes unrhyw gyfarwyddiadau, defnyddia’r canlynol fel canllaw bras (mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw i 180ºC):

  • ar gyfer twrci o dan 4.5kg, dylet ganiatáu 45 munud ar gyfer pob kg ac ychwanegu 20 munud
  • ar gyfer twrci sy’n pwyso rhwng 4.5kg a 6.5kg, dylet ganiatáu 40 munud ar gyfer pob kg
  • ar gyfer twrci dros 6.5kg, dylet ganiatáu 35 munud ar gyfer pob kg
Gelli ddefnyddio ein cyfrifiannell coginio ar y ddolen isod er mwyn cyfrifo’r amserau coginio (Cofia glicio ar 'Cymraeg')

Cofia sicrhau bod yr aderyn wedi’i goginio iawn cyn ei weini. Dyma’r tair prif ffordd o wneud yn siŵr bod dofednod (cig adar) wedi’i goginio:

  • dylai’r cig fod yn chwilboeth drwyddo
  • pan fyddi di’n torri rhan fwyaf trwchus y cig, ni ddylai fod yn binc o gwbl
  • os bydd suddion yn llifo pan fyddi di’n procio’r twrci, neu’n gwasgu’r glun, dylai’r suddion hynny fod yn glir


A yw'n bosibl coginio fy nhwrci cyn diwrnod Dolig a’i ailgynhesu?

christmas baubles Ydy. Dylet sicrhau bod y twrci wedi’i goginio’n drylwyr tan ei fod yn chwilboeth, ac nad oes unrhyw gig pinc ar ôl, a bod y suddion yn rhedeg yn glir. Yna, dylet ei orchuddio a’i oeri, a hynny o fewn awr neu ddwy yn ddelfrydol. Byddai ei gerfio neu ei dorri yn ddarnau llai yn ei helpu i oeri’n gynt.

Unwaith y mae’n oer, dylet ei gadw yn yr oergell am hyd at ddeuddydd, neu ei roi yn y rhewgell. Os yw’r cig wedi’i rewi, gwna’n siŵr ei fod wedi’i ddadmer yn iawn cyn ei ailgynhesu. Yna gelli ei ailgynhesu ddydd Nadolig gan sicrhau ei fod yn chwilboeth.

Sut ydw i’n coginio coron twrci?

Aderyn cyfan â’r coesau wedi’u tynnu yw coron twrci, a gelli ei goginio yn yr un ffordd yn union â thwrci cyfan. Mae’n well dilyn y cyfarwyddiadau coginio ar y label, ond os nad oes yna unrhyw gyfarwyddiadau, gelli ddefnyddio ein cyfrifianellau coginio ar y ddolen isod.

Dylet sicrhau bob amser bod y twrci wedi’i goginio’n iawn cyn ei fwyta. Wrth dorri rhan fwyaf trwchus y cig, dylai fod yn chwilboeth, heb unrhyw gig pinc, a dylai’r suddion rhedeg yn glir.

A yw’n bosibl defnyddio thermomedr coginio neu amserydd pop-up er mwyn gwybod pan mae’r twrci wedi’i goginio?

cooking thermometer Mae thermomedr neu brôb coginio yn ffordd hawdd o wybod pan mae’r twrci wedi’i goginio. Dylai’r rhan fwyaf trwchus y cig (sef y rhan rhwng y frest a’r glun) gyrraedd tymheredd o 70oC am fwy na 2 funud. Dylet sicrhau bod y cig yn chwilboeth drwyddo, nad oes unrhyw gig pinc a bod y suddion yn rhedeg yn glir.

Mae tri math o thermomedr ar gael: prob tymheredd, a ddefnyddir i wirio’r tymheredd pan wyt ti’n tynnu’r aderyn allan o’r popty (cofia lanhau’r prob ar ôl ei ddefnyddio er mwyn osgoi lledaenu germau); thermomedr coginio, sy’n cael ei adael yn yr aderyn wrth iddo goginio; ac amersydd ‘pop-up’ sydd yn y twrci pan fyddi di’n ei brynu, a phan fydd y twrci’n barod, bydd yr amserydd yn ymddangos.

A oes rhaid bwyta twrci sydd dros ben yn oer neu a yw’n bosibl ei ailgynhesu?

Gelli di weini cig sydd dros ben yn oer yn syth o’r oergell, ei ailgynhesu, neu ei ddefnyddio i wneud pryd newydd.

Os wyt ti’n gweini twrci oer, ceisia beidio tynnu mwy nag sydd ei angen arnat allan o’r oergell, gan adael y gweddill yn yr oergell. Paid â gadael plât o dwrci neu gig oer allan drwy’r dydd, mewn bwffe mewn ystafell gynnes er enghraifft. Rho’r twrci yn ôl yn yr oergell cyn gynted ag y medri, yn ddelfrydol, o fewn awr.

Os wyt ti’n ailgynhesu bwyd sydd dros ben, gwna’n siŵr ei fod yn chwilboeth drwyddo a phaid â’i ailgynhesu fwy nag unwaith.

Os wyt ti’n defnyddio bwyd sydd dros ben er mwyn coginio pryd poeth newydd, fel cyri neu gaserol, rhaid i ti ofalu bod y pryd newydd yn cael ei goginio’n drylwyr. Os nad yw’r pryd cyfan yn cael ei fwyta ar unwaith, gelli di storio gweddill y cyri yn yr oergell am hyd at ddeuddydd neu ei roi yn y rhewgell, a’i ailgynhesu cyn i ti ei fwyta. Gwna’n siŵr dy fod yn ailgynhesu dy fwyd tan ei fod yn chwilboeth drwyddo, a phaid â’i ailgynhesu fwy nag unwaith.

Am ba mor hir y galla i gadw’r twrci sydd dros ben?

turkey sandwich Gelli di gadw’r twrci sydd dros ben yn dy oergell am hyd at ddeuddydd. Ar ôl coginio’r twrci, dylet ei oeri cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol o fewn awr neu ddwy, a’i gadw yn yr oergell. Os oes gen ti lawer o fwyd dros ben, gallet ei rannu yn ddognau llai a’i gadw yn y rhewgell am hyd at dri mis.




Gift ideas
Gift ideasCheck out our shocking Christmas ad and find out what else you could be serving up with your leftover turkey this yuletide...

 

Turkey tussle
Watch the adsThese festive tv and radio ads will give you some useful cooking tips to make sure your turkey doesn't ruin Christmas...

 

Dolen i food.gov.uk