'Dolig Diogel ac Iach
P'un a dy fod yn coginio i un neu dri deg un, gall ein cyngor ar ddofednod y 'Dolig - yn ogystal â'n cyfrifianellau dadmer a choginio - dy helpu i amddiffyn dy hun, dy deulu a'th ffrindiau rhag gwenwyn bwyd.


Dadmer y twrci
Felly, cyn i ti ddechrau coginio, gwna'n siwr nad oes unrhyw rew ar ôl y tu mewn i'r twrci. Mae hefyd yn bosibl profi y rhannau mwyaf trwchus gyda fforc, i weld a yw'r cig yn teimlo fel ei fod wedi rhewi.
Mae'n bwysig iawn cyfrifo'r amser dadmer ymlaen llaw, fel dy fod yn gwybod faint o amser i'w ganiatau - gallai gymryd o leiaf cwpl o ddiwrnodau i dwrci mawr ddadmer (gweler bras amcan o'r amseroedd isod neu beth am ddefnyddio ein cyfrifiannell dadmer?).
Beth i'w wneud
I ddechrau, tynna'r twrci o'r pecyn, ei roi ar ddysgl fawr a'i orchuddio. Mae angen y ddysgl fawr er mwyn dal yr hylif sy'n llifo o'r twrci wrth iddo ddadmer. Tynna'r giblets a'r gwddf allan cyn gynted â phosibl, gan fod hyn yn cyflymu'r broses ddadmer.Rho’r ddysgl mewn lle oer a glân (yr oergell yn ddelfrydol) lle na fydd y twrci yn cyffwrdd â bwydydd eraill. Os nad yw'n bosibl dadmer y twrci yn yr oergell, gelli ddefnyddio ystafell oer neu’r garej. Cofia y bydd tymheredd yr ystafell lle caiff y twrci ei gadw yn effeithio ar yr amser dadmer.
Os wyt ti'n dadmer y twrci mewn man oer, fel y garej neu'r sied, cofia gadw llygad ar unrhyw newidiadau eithafol mewn tymheredd, os yw'n troi'n oer iawn (neu'n gynnes iawn), gallai hyn olygu na fydd y twrci'n dadmer yn iawn neu efallai na fydd yn cael ei gadw'n ddigon oer. Gorchuddia'r twrci a gofala nad oes unrhyw anifeiliaid anwes na phlant ifanc yn mynd yn agos ato.
Gelli hefyd ddadmer y twrci ar dymheredd ystafell, ond gofala nad yw'n cyffwrdd â bwydydd eraill nac yn diferu arnynt.
Mae angen cael gwared ar yr hylif sy’n llifo o’r twrci yn rheolaidd, er mwyn sicrhau nad yw'n gorlifo ac yn lledaenu bacteria. Ond bydda'n ofalus nad yw'r hylif yn tasgu ar arwynebau gwaith, llestri, clytiau neu fwydydd eraill. A chofia olchi dy ddwylo'n drylwyr ar ôl trin twrci amrwd, giblets neu unrhyw gig amrwd arall.
Pa mor hir y dylid dadmer y twrci?
I weld faint o amser sydd ei angen i ddadmer y twrci, edrycha ar y deunydd pacio. Os nad oes unrhyw gyfarwyddiadau dadmer, defnyddia'r amseroedd canlynol (neu ein cyfrifiannell dadmer Twrci) fel canllaw bras o'r amser y bydd yn ei gymryd i ddadmer dy dwrci, ond cofia ofalu ei fod wedi dadmer yn iawn cyn ei goginio.- Mewn oergell ar dymheredd o 4ºC (39ºF), cofia ganiatáu tua 10 i 12 awr y cilogram, ond cofia na fydd pob oergell ar y tymheredd hwn.
- Mewn ystafell oer (is na 17.5ºC, 64ºF) cofia ganiatáu tua 3 i 4 awr y cilogram, a mwy o amser os yw'r ystafell yn arbennig o oer.
- Ar dymheredd ystafell (tua 20ºC, 68ºF) cofia ganiatáu tua 2 awr y cilogram.
Cyfrifiannell dadmer twrci
Mae'n bosibl defnyddio'r cyfrifiannell hwn fel canllaw bras o ba mor hir y bydd yn ei gymryd i'r twrci ddadmer, ond cofia wneud yn siŵr ei fod wedi dadmer yn drylwyr cyn ei goginio. Gwna'n siŵr nad oes unrhyw rew ar ôl ynddo a chofia brofi darn mwyaf trwchus y cig gyda fforc, i weld a yw'n teimlo fel ei fod wedi rhewi.Canllaw dadmer
Paratoi dofednod
Cofia, gall bacteria hefyd ledaenu o gig a dofednod amrwd i arwynebau gwaith, byrddau torri, llestri ac offer coginio. Felly, er mwyn cadw bwyd y Nadolig yn ddiogel, cofia wneud y canlynol:
- Golcha dy ddwylo gyda dŵr cynnes a sebon bob amser, a chofia eu sychu'n drylwyr, ar ôl cyffwrdd dofednod amrwd.
- Paid â golchi'r twrci (na mathau eraill o ddofednod) – mae hyn oherwydd y gall bacteria dasgu ar arwynebau gwaith, dysglau a bwydydd eraill. Bydd coginio'n drylwyr yn lladd unrhyw facteria, felly nid oes angen i chi olchi dofednod.
- Glanha arwynebau gwaith, byrddau torri, llestri ac offer coginio yn drylwyr bob amser ar ôl iddynt gyffwrdd â dofednod amrwd.
- Paid byth â defnyddio'r un bwrdd torri ar gyfer dofednod amrwd a bwyd sy'n barod i'w fwyta heb ei olchi'n drylwyr mewn dŵr sebon cynnes. (Os yw'n bosibl, defnyddia fwrdd torri ar wahân ar gyfer cig a dofednod amrwd yn unig).
- Gadw dofednod amrwd ar wahân i fwydydd eraill bob amser.
- Storio dofednod amrwd ar waelod yr oergell fel nad yw'n diferu ar fwydydd eraill.
Dal i fod â chwestiwn am baratoi dy ginio Nadolig? Cofia ei anfon atTurkeymail@foodstandards.gsi.gov.uk
Coginio'r twrci
Mae’n bwysig iawn dy fod yn cynllunio’r amser coginio ymlaen llaw, er mwyn gwneud yn siŵr bod y twrci yn y popty mewn da bryd i sicrhau ei fod wedi’i goginio’n drylwyr. Gall gymryd nifer o oriau i dwrci mawr goginio trwyddo.
Sut i wneud yn siŵr bod y twrci wedi’i goginio
Amcanion bras yn unig yw’r canllawiau hyn; gofala bod y twrci wedi'i goginio'n iawn bob amser cyn i ti ei weini, gan y gallai bwyta twrci (neu unrhyw fath o ddofednod) nad yw wedi'i goginio'n iawn achosi gwenwyn bwyd.Dyma'r tair prif ffordd i ddweud a yw dofednod wedi'i goginio'n iawn:
- dylai'r cig fod yn chwilboeth drwyddo.
- pan wyt ti'n torri darn mwyaf trwchus y cig, ni ddylai unrhyw ran o'r cig fod yn binc.
- os oes unrhyw sudd yn llifo allan wrth i ti dorri'r twrci, neu wrth i ti bwyso rhan uchaf y goes, dylai fod yn glir.
Pa mor hir i'w goginio
Mae'r amseroedd coginio hyn yn seiliedig ar dwrci sydd heb ei stwffio. Mae'n well coginio dy stwffin mewn tun rhostio ar wahân, yn hytrach na thu fewn i'r twrci, fel y bydd y twrci'n coginio'n haws ac y bydd canllawiau coginio'n fwy cywir. (Os wyt ti'n coginio dy dwrci gyda'r stwffin y tu mewn iddo, bydd angen i ti ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer y stwffin sydd yn y twrci a chofio y bydd yr aderyn yn coginio'n arafach.)Cofia y gallai rhai poptai, fel y rhai â chymorth ffan, goginio'r twrci'n gyflymach - darllena llawlyfr y gweithgynhyrchwr os yw'n bosibl. Cofia wneud yn siŵr bob amser bod y cig wedi'i goginio'n iawn cyn ei weini.
Fel canllaw cyffredinol, mewn popty wedi'i gynhesu ymlaen llaw i 180ºC (350ºF, Marc Nwy 4):
- ar gyfer twrci dan 4.5 cilogram, cofia ganiatáu 45 munud y cilogram ac 20 munud ychwanegol
- ar gyfer twrci sy'n pwyso rhwng 4.5 cilogram a 6.5 cilogram, cofia ganiatáu 40 munud y cilogram
- ar gyfer twrci dros 6.5 cilogram, cofia ganiatáu 35 munud y cilogram
Amserau coginio ar gyfer adar eraill
Cofiwch, mae adar eraill fel gŵydd a hwyaden angen amseroedd a thymheredd coginio gwahanol.Dylai'r popty fod yn gynhesach ar gyfer hwyaden a gŵydd bob amser, er mwyn toddi'r braster dan y croen. Mae angen eu brasteru'n rheolaidd hefyd.
Gŵydd: Dylid coginio gŵydd mewn popty ar wres o 220ºC/425ºF/Marc Nwy 7, am 35 munud y cilogram, ar ôl i'r popty gael ei gynhesu ymlaen llaw.
Awgrym: Pricia'r croen cyn coginio’r gŵydd a chael gwared ar unrhyw fraster hanner ffordd drwy'r amser coginio.
Hwyaden: Dylid coginio hwyaden am 45 munud y cilogram ar wres o 200ºC/400ºF/Marc Nwy 6.
Awgrym: Pricia'r croen cyn coginio’r hwyaden a chael gwared ar unrhyw fraster hanner ffordd drwy'r amser coginio.
Cyw iâr: Dylid coginio cyw iâr mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw ar wres o 180ºC/350ºF/marc Nwy 4 am 45 munud y cilogram, ac 20 munud ychwanegol ar y diwedd.
Awgrym: Gorchuddia'r cyw iâr â ffoil wrth ei goginio, gan dynnu’r ffoil oddi arno am y 30 munud olaf er mwyn i’r croen droi’n frown. Er mwyn atal y cig rhag mynd yn sych, cofia ei frasteru bob hanner awr yn ystod ei goginio.
Canllaw Coginio Dofednod
Gellir defnyddio'r canllaw defnyddiol i gyfrifo’r amseroedd coginio, ond cofia mai canllaw bras ydyw yn unig a dylet bob amser wneud yn siŵr fod yr aderyn wedi'i goginio'n iawn cyn ei weini. Defnyddia'r awgrymiadau uchod i ddysgu sut i wneud hyn.Canllaw coginio
Remember, some ovens, such as fan assisted ovens, might cook the poultry more quickly. Follow the pointers in the 'How to check your bird is cooked' section above, to decide when it's done.
Still got a question on cooking your turkey? Send it to Turkeymail@foodstandards.gsi.gov.uk
Bwyd sydd dros ben
Pan fyddi di'n gweini twrci oer, paid â chymryd mwy na sydd ei angen arnat allan o'r oergell. Paid â gadael plât o dwrci neu gigoedd oer allan drwy'r dydd, mewn bwffe er enghraifft. Rho'r bwyd yn yr oergell cyn gynted â phosibl, o fewn awr yn ddelfrydol.
Os wyt ti'n ail-gynhesu twrci sydd dros ben, neu unrhyw fwyd arall, cofia wneud yn siŵr ei fod yn chwilboeth drwyddo cyn ei fwyta. A phaid â'i ail-gynhesu fwy nag unwaith. Yn ddelfrydol, ceisia fwyta bwyd sydd dros ben o fewn 48 awr.
Dal â chwestiwn am sut i gadw'r bwyd sydd dros ben yn ddiogel? Cofia ei anfon at Turkeymail@foodstandards.gsi.gov.uk






Gwrando