Text only

Nadolig mewn gwahanol rannau o’r byd


Christmas presents

Mae Sam Montel, ein harbenigwr maeth ar-lein, wedi mynd ar daith yng nghar llusg Siôn Corn i edrych ar fwydydd traddodiadol y Nadolig mewn gwahanol rannau o’r byd.



Yn y DU

christmas pudding Mae bwyd wedi bod yn ganolog i draddodiad y Nadolig erioed, ac mae ymgynnull o gwmpas y bwrdd am wledd wych ar Ddydd Nadolig yn gymaint rhan o’r Nadolig ag addurno’r goeden a chanu carolau.

Dros y canrifoedd, mae gŵyl hynafol heuldro’r gaeaf, i ffarwelio â’r hen flwyddyn a chroesawu’r flwyddyn newydd, wedi’i chyfuno â’r neges Gristnogol.

Arferai’r ŵyl ganol gaeaf hon gael ei dathlu gyda gwleddoedd ysblennydd, ac roedd rhai o’r traddodiadau rydym yn eu cysylltu â’r Nadolig, fel addurno tai gyda chelyn ac uchelwydd, yn rhan o’r dathliadau paganaidd yn wreiddiol.

Byddai pobl mewn tai Elisabethaidd crand yn gwledda ar elyrch wedi’u rhostio a pheunod goreurog adeg y Nadolig. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddai pen baedd neu ŵydd yn aml ar y fwydlen, ond yn fwy diweddar mae twrci wedi ennill ei blwyf ar fwrdd cinio Nadolig llawer o bobl yn y DU.

Y pwdin Nadolig traddodiadol oedd uwd eirin, y tybir ei bod yn dyddio yn ôl i’r oesau cynnar, pan fyddai gŵyl y gaeaf yn cael ei dathlu gydag uwd tenau.

Yn ddiweddarach, ychwanegwyd alcohol at y ‘potes’ llawn sbeis hwn, yn ogystal â siwgr, a ffrwythau sych. Ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif dechreuodd pobl fwyta pwdin oedd yn debycach i’r pwdin Nadolig rydym yn gyfarwydd ag ef heddiw. Yn draddodiadol caiff ei weini mewn fflam o frandi, gyda saws brandi neu fenyn brandi.

Gwahanol rannau o’r byd

fish three Ffrainc
Yn Ffrainc, mae’r arlwy’n bur debyg i’r cinio Nadolig Prydeinig traddodiadol, gyda thwrci, saws llugaeron, mins peis a phwdin. Ond mewn rhai ardaloedd efallai mai pysgod fel lleden neu gerpyn yw canolbwynt y pryd. Y teisennau sy’n tynnu dŵr i’r dannedd sy’n helpu i wneud Nadolig Ffrengig yn unigryw. Mae’r bûche de Noël, cacen wedi’i rholio a’i llenwi gyda hufen cnau castan, a’i gorchuddio â marsipán cartref yn enghraifft wych. Dywed yr hanes i’r teisennau hyn gael eu creu yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gogyddion crwst ym Mharis a gafodd eu hysbrydoli gan foncyffion Nadolig yn llosgi drwy’r nos ar noswyl Nadolig.

Yr Almaen
Mae’r Almaenwyr yn enwog am eu danteithion o fisgedi a chacennau sbeislyd fel torth sinsir a stollen. Pobwyd y stollen gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar ddeg yn Dresden ar siâp y baban Iesu wedi ei rwymo mewn cadachau. Cacen llawn ffrwythau’n sy’n araf yn codi yw hon, yn sych a blasus ac yn arogli’n hyfryd – mae’n berffaith gyda phaned o goffi ar ôl noson o addoli a miri ar Noswyl Nadolig.

Gwledydd Llychlyn
Yng ngwledydd Llychlyn, mae pobi'n rhan bwysig o baratoadau’r Nadolig yn draddodiadol. Yn aml bydd y teulu’n dod ynghyd i wneud torth sinsir neu 'pepparkakor' ar ffurf sêr, calonnau a lleuadau, moch a siapau eraill, neu dai sinsir.

Yn y Ffindir, mae’r traddodiad hwn yn deillio yn ôl i’r bymthegfed ganrif ac yn Norwy gelwir y dadmer mawr, sy’n dilyn cawodydd eira trwm cyntaf y flwyddyn, yn ‘ddadmer bisgedi', oherwydd dywedir bod y dadmer yn cael ei achosi gan wres yr holl boptai’n sy’n pobi bisgedi!

Kalaallit Nunnat (Greenland)
Yma ceir un o’r bwydlenni Nadolig mwyaf anarferol. Ar ôl coffi, cacennau a charolau, caiff y danteithfwyd 'mattak' ei rannu. Croen morfil gyda stribed o fraster morfil y tu mewn iddo yw hwn. Mae i fod i flasu fel cneuen goco ffres, ond mae’n rhy wydn i’w gnoi felly mae pobl Kalaallit Nunaat fel arfer yn ei lyncu. Y Nadolig yw’r un noson o’r flwyddyn pan fo’r dynion yn draddodiadol yn edrych ar ôl y menywod, yn gweni coffi iddyn nhw a’i droi ar eu cyfer.

Portiwgal a Sbaen
Mewn sawl ardal ym Mhortiwgal a Sbaen, mae’r fwydlen Nadoligaidd yn canolbwyntio ar fwydydd môr. Mae teuluoedd ym Mhortiwgal sydd wedi ymgasglu o gwmpas crèche y geni, yn gwledda ar bryd traddodiadol y gwyliau sef penfras sych, y bacalhau. Yn Sbaen, gall y cinio gynnwys draenogyn môr gwyn wedi ei rolio mewn briwsion bara, olew olewydd, nionod a lemonau.

Ym Mhortiwgal, caiff pwdin y rabanadas ei weini adeg y Nadolig, wedi ei wneud o dafelli o fara gwyn wedi eu mwydo mewn wyau a gwin, â’u gorchuddio â siwgr, â’u ffrio nes eu bod yn crensian. Ffefryn arall yw bolo rei, cacen ar siâp cylch wedi ei gorchuddio â ffrwythau sgleiniog, cnau wedi’u chwalu a siwgr eisin. Yn Sbaen, defnyddir cnau almwn a marsipán i wneud llawer o’r melysion traddodiadol. Er enghraifft, mae turrón yn debyg i nougat, wedi ei wneud o fêl a chnau almwn, a’i wreiddiau yn niwylliannau cyn Gristnogol Môr y Canoldir.

Diwrnod Sant Niclas

sweets jelly beans Mewn sawl gwlad ledled Ewrop mae pen-blwydd Sant Niclas, 6 Rhagfyr, yn ddiwrnod pwysig o ddathlu, yn arbennig gan blant. Esgob Pabyddol oedd Sant Niclas y dywedwyd ei fod yn hynod o garedig i blant. Yn Slofacia, mae plant yn derbyn melysion ar y diwrnod hwn os ydyn nhw wedi ymddwyn yn dda, neu ddarn o lo, tatws a nionod os ydyn nhw wedi bod yn ddrwg.

Yn yr Iseldiroedd, mae pobl yn dathlu diwrnod Saint Niclas gyda phwnsh poeth neu siocled llaeth a chnau chastan wedi’u berwi a’u bwyta gyda menyn a halen. Yn aml bydd pobl o’r Iseldiroedd yn bwyta 'oliebollen' dros gyfnod yr ŵyl, sef toesennau blawd a rhesins wedi’u ffrïo a’u hysgeintio â siwgr.

Gwlad Groeg
Yng Ngroeg, mae pobl yn dathlu 1 Ionawr i anrhydeddu Sant Basil, y Siôn Corn Groegaidd. Ar y diwrnod hwn, mae plant yn derbyn anrhegion a chaiff darn arian lwcus ei goginio mewn cacen sbwng o’r enw vasilopeta. Wrth weini’r pryd, caiff y dafell gyntaf ei rhoi i’r naill ochr ar gyfer Sant Basil a’r ail dafell i Iesu Grist. Aelodau’r teulu sy’n cael gweddill y gacen, fesul oedran.

Wcráin
Yn yr Wcráin, ceir hen draddodiad o ymprydio am 39 diwrnod cyn y Geni. Bydd teuluoedd yn disgwyl nes iddyn nhw weld y seren gyntaf yn yr awyr cyn cychwyn swper 12 cwrs, un cwrs i anrhydeddu pob un o’r deuddeg disgybl.

Mae’r bwydydd yn cynnwys pysgod, borscht (cawl betys), bresych wedi’u stwffio gyda miled, ffrwythau sych wedi’u coginio a danteithfwyd sy’n arbennig i Noswyl Nadolig sef kutya, wedi’i wneud o rawn cyflawn a’u mwydo am oriau, a’i flasu gyda mêl a hadau pabi wedi’u malu.

Latfia
Fel arfer, pryd bwyd Nadolig arbennig Latfiaidd fyddai pys brown wedi’u coginio gyda saws cig moch, peis bach, bresych a selsig. Yn Latfia, mae’n draddodiad bod Siôn Corn yn dod ag anrhegion ar bob un o’r 12 diwrnod Nadolig yn cychwyn ar Noswyl Nadolig.

America Ladin
Mewn nifer o wledydd America Ladin, twrci yw sail prydau’r Nadolig, sy’n fwyd cynhenid i wledydd gogledd a de America. Yn draddodiadol caiff y twrci ei weini ar Noswyl Nadolig a’i baratoi gan ychwanegu sbeis yn unol â’r ardal arbennig o America Ladin. Er enghraifft, ym Mrasil caiff y twrci ei goginio mewn rỳm, gyda nionod, garlleg, tomatos, sudd leim a pherlysiau eraill, a’i weini efallai gyda reis lliw a llysiau.

Ethiopia
Mae dathliad y Nadolig yn Ethiopia, sef y Ganna, yn digwydd ar 7 Ionawr. Fel arfer bydd bwyd sy’n cael ei weini’r adeg hon yn cynnwys 'injera', sef crempog wedi ei gwneud o does chwerw. Mae’r injera yn gweithredu fel plât a fforc. Efallai mai 'Doro wat', cawl cyw iâr gyda sbeis, fydd y prif fwyd, a chaiff ei weini mewn basgedi hardd. Defnyddir darn o’r injera i godi’r cawl.

Felly, ym mha ran bynnag o’r byd fyddi di yn ystod tymor y dathlu, mwynha'r gwledda a’r dathlu. Nadolig Llawen i ti! Felices Navidades! Joyeux Nöel! Hyvaa joula! God jul! Jutdlime pivdluarit ukiortame pivdluaritlo! Sretan Bozic! Zalig Kerstfeest! Kala Christouyenna! Boas Festas! Srozhdestvom Kristovym! Fröhliche Weinachten!