Salad yr haf
Yn yr Haf, mae llawer o gynhwysion salad maethlon a blasus ar gael. Felly, beth am gymysgu salad arbennig i gael pryd hyfryd, iach?
Mae hefyd yn bwysig bwyta digon o ffrwythau a llysiau, gan gynnwys saladau, oherwydd y gall hyn helpu i atal clefyd y galon a rhai mathau o ganser, ac mae’n dda er mwyn cadw'n iach yn gyffredinol. Dylai pawb geisio bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd. Mae powlen bwdin o salad yn un dogn ac os wyt ti'n bwyta salad cymysg mawr gyda llawer o lysiau, gallai hyn gyfrif fel mwy nag un.


Tomatos
Maeth
Mae tomatos yn llawn fitamin C ac yn cynnwys fitamin A a B, potasiwm, haearn a ffosfforws. Maen nhw hefyd yn cynnwys sylwedd o’r enw lycopen, sef y pigment sy’n gwneud tomatos yn goch. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall lycopen helpu i’n diogelu rhag rhai afiechydon, gan gynnwys clefyd cardiofasgiwlar a rhai mathau o ganser, fel canser y prostad.
Awgrymiadau gweini
Mango, tomato a winwnsyn coch gyda dresin sbeislyd.
Letys
Heddiw, tyfir cannoedd o wahanol fathau o letys ledled y byd. Yr haf yw’r amser perffaith i fwynhau’r ffefrynnau o Brydain, fel cos, Webb, iceberg a’r little gem.
Neu rho gynnig ar letys dail rhydd fel lollo rosso neu ddail derw. Mae mwy o flas i’r rhain ac maen nhw’n dywyllach na letys crwn.
Maeth
Mae pob math o letys yn isel mewn calorïau ac mae’r rhan fwyaf yn cynnwys fitaminau a mwynau, gan gynnwys calsiwm, haearn, potasiwm, fitamin C, ffolad a maetholion gwrthocsidiol a elwir yn garotenau. Mae’r mathau tywyll yn cynnwys mwy o faethynnau fel arfer.
Awgrymiadau gweini
Berwr y gerddi, sleisiau gellyg a chnau pecan.
Ciwcymbr
Maeth
Fel llawer o lysiau salad eraill, mae ciwcymbr yn isel iawn mewn calorïau. Mae’n cynnwys dŵr yn bennaf, sy’n golygu ei fod yn ddelfrydol i’w fwyta mewn tywydd poeth. Mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o galsiwm, ffosfforws a photasiwm.
Awgrymiadau gweini
Salad Groegaidd traddodiadol gyda darnau o giwcymbr, tomato, caws feta ac olewydd du.
Afocados
Maeth
Mae afocados yn cynnwys llawer o fitaminau a mwynau, gan gynnwys fitamin E, potasiwm a fitamin B6. Maent hefyd yn uchel mewn asidau brasterog mono-annirlawn, sy’n gallu helpu i leihau lefelau colesterol yn y gwaed. Felly, mae afocados yn ddewis iach, ond oherwydd eu bod yn cynnwys fwy o fraster na’r rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau, paid â’u bwyta nhw yn rhy aml. Mae hanner afocado yn cyfrif fel un dogn o ffrwythau a llysiau.
Awgrymiadau gweini
Sleisiau o afocado a thomato, corgimwch a dail letys.
Syniadau eraill
Gelli hefyd wneud dresin hyfryd gartref. I ddechrau, rho gynnig ar wneud vinaigrette. Cymysga finegr gwin coch, mwstard a shibwns/slots mân mewn powlen fach, yna ychwanega rywfaint o olew olewydd. I wneud dresin syml yn fwy sbeislyd, ychwanega rywfaint o gwmin, hadau carwe neu baprica.
Gall perlysiau ffres fel persli, teim, taragon, cennin syfi a basil roi blas bendigedig i’r dresin.
Paid â bwyta gormod o mayonnaise a salad parod sydd wedi’i orchuddio mewn mayonnaise (fel coleslaw), gan fod y rhain yn uchel mewn braster. Ceisia ddefnyddio iogwrt plaen braster isel yn hytrach na mayonnaise.





