Teithio'r Byd
Os wyt ti'n bwriadu mynd i deithio yn dy ‘flwyddyn i ffwrdd’ cyn i ti ddechrau yn y coleg neu brifysgol, darllena'r cyngor hwn i dy helpu i gadw'n iach ar dy daith. Mae cyngor ar sut i baratoi ar gyfer dy daith a gwneud y mwyaf o'r profiad ar ôl cyrraedd. Hwyl a fflag!


Cyn gadael
Dyma ychydig o gyngor i dy helpu i baratoi ar gyfer dy daith.
- Cofia ymchwilio i'r ardal yr wyt ti'n teithio iddo. Darllena lyfrau a gwefannau teithio i ganfod safon bwyd a dŵr yr ardal. Bydda'n ofalus iawn mewn mannau lle nad yw dŵr yn ddiogel i’w yfed.
- Cofia baratoi. Os wyt ti'n ymweld â rhywle lle nad yw’r dŵr yn ddiogel, cer â thabledi sterileiddio dŵr gyda ti. Gall hancesi dwylo antiseptig fod yn ddefnyddiol hefyd os nad yw cyfleusterau golchi dwylo ar gael bob amser. Gallai powdr ail-hydradu (sydd ar gael mewn fferyllfeydd) dy helpu i wella os wyt ti’n gorfod mynd yn ôl ac ymlaen i’r toiled.
- Cofia holi am unrhyw frechiadau y bydd eu hangen arnot. Dylai ein cyngor dy helpu i osgoi gwenwyn bwyd, ond efallai y bydd angen brechiadau arnot hefyd i dy imiwneiddio yn erbyn afiechydon difrifol fel teiffoid a hepatitis A, sy’n gallu cael eu trosglwyddo mewn bwyd a dŵr.
- Cofia brynu yswiriant iechyd ar gyfer dy daith gyfan. Fel arall, os wyt ti'n wael neu’n cael damwain dramor, gallai gostio ffortiwn i ti gael triniaeth neu hedfan yn ôl i’r DU.
- Cofia ddiogelu dy hun rhag yr haul. Gall twymyn haul achosi'r un symptomau â gwenwyn bwyd.
- Bydda'n ofalus gydag alergeddau bwyd. Os oes gen ti alergedd i fwyd penodol, dysga sut i’w ddisgrifio yn ieithoedd y gwledydd yr wyt ti'n ymweld â nhw. Cer â dy feddyginiaeth gyda thi bob tro. A chofia sicrhau bod dy gyd-deithwyr yn gwybod am dy alergedd er mwyn iddyn nhw allu helpu mewn argyfwng.
Cofia yfed ddigon
Os nad wyt ti'n hollol siŵr bod y dŵr tap lleol yn ddiogel i’w yfed, defnyddia ddŵr wedi’i ferwi, ei sterileiddio neu ddŵr potel i’w yfed, i olchi bwyd ac i lanhau’ch dannedd. Mae dŵr swigod ychydig yn asidig, felly mae bygiau’n llai tebygol o oroesi ynddo, ac nid yw mor hawdd i werthwr anonest ei newid am ddŵr tap. Cofia wneud yn siwr fod y dŵr potel wedi’i selio bob tro.
Mae’n syniad osgoi rhew hefyd, oni bai dy fod yn ei wneud dy hun gyda dŵr diogel. Mae hyn yn cynnwys rhew a ddefnyddir i gadw bwyd yn oer yn ogystal â diodydd gyda rhew.
Dylai diodydd poeth, gwin, cwrw, diodydd ysgafn a sudd ffrwythau mewn poteli a chartonau fod yn ddiogel i’w hyfed.
Cadw cydbwysedd
- Reis neis Ceisia fwyta llawer o garbohydradau â starts a’u gwneud yn brif ran o bob pryd. Mae’r rhain yn cynnwys bara (fel chapatti, naan a pitta), pasta, reis, nwdls, tatws, iamau a llyriad.
- Digon o ffrwythau Ceisia fwyta llawer o lysiau a ffrwythau (anelu at o leiaf pum dogn y dydd), ond dewisa rai y gelli eu golchi neu eu plicio dy hun. Ceisia osgoi salad oni bai dy fod yn gallu ei olchi dy hun gyda dŵr diogel. Mae llysiau a ffrwythau o bob math yn dda i ti – boed yn ffres, wedi'u rhewi, mewn tun neu fel gwydraid o sudd.
- Digon o brotein Cofia sicrhau dy fod yn bwyta bwydydd sy’n cynnwys protein bob dydd, fel cig, pysgod, wyau, ffa a ffacbys (ond cofia sicrhau bod y bwyd wedi’i goginio’n iawn bob tro ac yn chwilboeth drwyddo).
- Caws, caws a mwy o gaws Ceisia fwyta neu yfed digon o gynnyrch llaeth, ond cofia osgoi llaeth heb ei basteureiddio a cheisia ddewis opsiynau braster isel os yw'n bosibl.
- Dant melys Ceisia fwyta llai o fwydydd a diodydd sy’n cynnwys llawer o fraster a siwgr, fel cacennau, bwydydd wedi’u ffrïo’n ddwfn a phwdinau.
Llysieuwr ar daith
- Haearn Mae'n bosibl cael haearn o lysiau gwyrdd deiliog, codlysiau, bara cyflawn a ffrwythau wedi'u sychu. Gall bwydydd gyda llawer o fitamin C helpu’r corff i amsugno haearn os yw’n cael ei fwyta ar yr un pryd, felly ceisia yfed gwydraid o sudd ffrwythau gyda dy fwyd.
- Fitamin B12 Mae cynnyrch llaeth ac wyau’n cynnwys fitamin B12, ond os wyt ti'n figan, mae'n bosibl ei gael o rawnfwydydd brecwast wedi’u hatgyfnerthu neu ddiodydd soia wedi’u hatgyfnerthu.
- Calsiwm Mae digon o galsiwm mewn cynnyrch llaeth, ond mae hefyd i’w gael mewn llysiau gwyrdd deiliog (fel berw dŵr ac ocra, ond nid ysbigoglys), cnau almon, codlysiau (fel ffa, corbys a ffacbys) a ffrwythau wedi'u sychu. Mae ffynonellau calsiwm eraill yn cynnwys ffa soia, tofu, diodydd soia gyda chalsiwm ychwanegol, ffigys sych, pwdin reis a ffa pob.
- Protein Os wyt ti'n teithio yn Asia, mi fyddi di'n debygol o ddod ar draws llawer o brydau’n cynnwys tofu (ceuled ffa), sy’n ffynhonnell dda o brotein. Mae hefyd yn bosibl cael protein o brydau ffa a chodlysiau (fel dhal), cnau, hadau, cynnyrch llaeth ac wyau.
Osgoi gwenwyn bwyd
Bwyta allan
- mannau bwyta a thoiledau budr
- byrddau, llestri, cyllyll a ffyrc a llestri gwydr budr
- staff gyda dwylo neu ewinedd budr
- biniau wedi’u gorlenwi neu fagiau ysbwriel y tu allan (gallai’r rhain ddenu plâu a phryfed)
- bwyd amrwd sy’n cael ei arddangos wrth ymyl bwydydd parod neu bod yr un teclynnau’n cael eu defnyddio ar gyfer y ddau
- Golcha a sycha dy ddwylo bob tro cyn bwyta neu, os nad yw hynny’n bosibl, defnyddia hancesi antiseptig.
- Dewisa fwyd sydd wedi’i goginio’n ffres ac yn drylwyr, a gwna'n siwr ei fod yn boeth.
- Cofia fwyta ffrwythau ffres y gelli eu golchi a’u plicio dy hun, a phaid â bwyta salad os nad wyt ti'n gallu ei olchi yn iawn gyda dŵr diogel.
- Paid â bwyta cig neu bysgod cregyn heb eu coginio’n iawn.
- Paid â bwyta bwyd sydd wedi’i adael allan ar dymheredd ystafell neu heb ei orchuddio am gyfnod hir. (Os nad wyt ti'n siŵr pa mor hir mae’r bwyd wedi bod allan, paid â’i fwyta.)
- Ceisia osgoi prydau bwffe lle mae bwyd hŷn wedi’i orchuddio â bwyd ffres.
- Ceisia osgoi prydau sy’n debygol o gynnwys wyau amrwd neu wyau sydd heb eu coginio ddigon, fel mayonnaise a mousse cartref.
- Paid â phrynu hufen iâ o safleoedd annibynadwy fel cabanau neu gerti. Cofia ei brynu mewn siopau neu gaffis bob tro.
Bwyta i mewn
- Gofala bob tro dy fod yn coginio cig a physgod cregyn yn iawn, fel eu bod yn chwilboeth trwyddynt.
- Gofala nad oes unrhyw ddarnau pinc mewn cyw iâr, byrgyrs, selsig a chebabs.
- Wrth ailgynhesu bwyd, gofala ei fod yn chwiboeth trwyddo.
- Paid â gadael bwyd allan o’r oergell am gyfnod hir – cofia fwyta'r bwyd neu ei roi yn ôl cyn gynted â phosibl.
- Cofia gadw bwydydd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta ar wahân.
- Golcha lysiau a ffrwythau yn iawn cyn eu bwyta, ac os wyt ti'n gallu, cofia eu plicio nhw os wyt ti am eu bwyta’n amrwd.
- Cofia orchuddio bwyd a'i ddiogelu rhag unrhyw bryfaid, yn enwedig os wyt ti'n bwyta yn yr awyr agored.
Sut fydda i’n gwybod os ydw i wedi cael gwenwyn bwyd?
Dyma sut i adnabod symptomau gwenwyn bwyd. Y symptomau cyffredin yw:Mae'n bosibl hefyd y byddi di'n datblygu twymyn. Gall symptomau gymryd oriau neu ddyddiau i ymddangos.
Os wyt ti'n sâl
Cofia yfed ddigon o hylif a chymryd powdr ailhydradu wedi’i doddi mewn dŵr diogel.Cer i weld meddyg os oes gen ti neu un o dy gyd-deithwyr ddolur rhydd gwaedlyd, twymyn, yn teimlo'n ddryslyd, neu os nad yw’r dolur rhydd yn gwella o fewn 72 awr.





