Text only

Haf o hyd


woman looking upwards

Efallai fod yr haf yn gwneud i ti feddwl am wyliau a thywydd braf, ond mae hefyd yn amser am fwyd blasus – dychmygwch gig coch ar farbiciw, salad ffres a bwydydd egsotig o bedwar ban byd. Dyma dameidiau blasus i dy helpu i gadw’n iach dros yr haf.




Croeso i’r haf

strawberries Dechreua dymor y gwyliau yn dy gartref gyda ffrwythau a llysiau iach sy’n barod mewn dim o dro:
  • Rho ychydig o fefus wedi’u haneru mewn iogwrt Groegaidd braster is. Mae’n bosib i ti wasgaru rhywfaint o ddarnau almon neu gnau mân heb halen ar ei ben.
  • Rho gobynnau corn ar y barbiciw neu dan y gridyll gyda sudd lemwn, pupur du mâl a phowdr tsili coch arnyn nhw i ychwanegu sbeis.
  • Beth am bwdin Melba? Rho eirinen wlanog a llond llaw o fafon yn y meicrodon - neu eu coginio ar wres canolig am 2 i 3 munud - nes bod y ffrwythau’n feddal. Yna, iogwrt braster is neu sorbed ar eu pen.
  • Tro-ffria ddarnau bach o frocoli mewn llwy de o olew had rêp a saws soia halen is. Rho hadau blodau’r haul wedi’u rhostio’n sych ar ei ben i’w wneud yn fwy crensiog.
  • Mae’n bosib torri darnau o bupurau, winwns a thomatos a’u taenu ag olew olewydd. Gellir rhostio nhw gyda garlleg mewn popty poeth am 30 munud i gael blas o Fôr y Canoldir yn dy gartref!


Cadw’n cwl yn yr haul

ice lolly moulds Er bod hufen iâ moethus a lolipops rhew lliwgar yn flasus dros ben yng ngwres yr haul, maen nhw’n gallu bod yn llawn braster a chalorïau. Dyma rai syniadau mwy llesol i ti:
  • Rho dy hoff sudd ffrwythau mewn mowldiau lolipops rhew a’u rhewi am hyd at fis.
  • Mae’n bosib rhewi darnau o orenau a chiwbiau o felon dŵr i wneud ciwbiau rhew gwahanol.
  • Gwna dy loli ‘hufen iâ’ eich hun. Rho ffon loli bren newydd mewn potyn o iogwrt ffrwythau a’i rewi am hyd at fis. Pan ti’n barod i’w fwyta, rho yr iogwrt rhew mewn powlen o ddŵr poeth (neu dan y tap dŵr poeth) i’w ddadmer nes bod posib tynnu’r loli o’r potyn yn hawdd.
  • Rho lwythi o aeron wedi’u rhewi, darnau o rew a sudd ffrwythau mewn peiriant cymysgu i greu diod oer braf.
  • Os oes well gennyt ti brynu pwdin wedi’i rewi, dewis un sy’n isel mewn siwgr a braster. Clicia ar y ddolen isod i ddarllen labeli’n well.


Colli pwysau

scales and apple Mae’r haf yn gyfle delfrydol i feddwl am golli pwysau. Ond cofia, dyw cynlluniau deiet cyflym yn dda i ddim. Byddi ond yn teimlo’n euog am fwyta rhywbeth sydd wedi’i wahardd fel rhan o’r deiet, a rywt ti’n fwy tebygol o fagu mwy o bwysau cyn gynted ag yr ei di’n ôl i fwyta fel o’r blaen.

Beth am roi cynnig ar rywbeth gwahanol sy’n fwy tebygol o lwyddo'r haf hwn? Trwy wneud newidiadau bach syml i’th ffordd o fyw, mae’n bosib i ti gadw trefn ar dy bwysau heb gael dy lethu gan hynny.

Os wyt ti eisiau colli ychydig o bwysau, dyma gynghorion da i dy helpu di feddwl mwy am beth wyt ti’n ei fwyta. Defnyddia nhw bob dydd. Mae’n hawdd defnyddio’r arferion hyn gartref neu dramor.
  1. Meddylia cyn cael cegaid arall. Wyt ti wirioneddol eisiau byrbryd neu blatiad arall? Gellir yfed wydraid o ddŵr yn lle hynny. Yn aml, rydyn ni’n meddwl ein bod ni eisiau bwyd pan mai syched sydd arnon ni.
  2. Rho dy gyllell a fforc neu lwy i lawr wrth gnoi. Siarada fwy a bwyta llai.
  3. Paid â bwyta o flaen y bocs. Mae’r teledu’n tynnu’n sylw oddi ar y bwyd a byddwn yn dueddol o fwyta gormod heb sylweddoli.
  4. Ceisia fwyta mwy o lysiau gyda dy bryd a chael ffrwyth fel byrbryd neu i bwdin. Bydd hyn yn llenwi dy fol ac yn dy helpu i fwyta 5-y-dydd.
  5. Paid â cholli prydau bwyd. Efallai ei bod yn swnio’n od, ond efallai y bydd hyn yn gwneud i ti fwyta mwy o galorïau yn y tymor hir.
  6. Cofia gadw’n heini! Darllen yr adran isod.


Cadw’n heini

woman jumping Nawr bod yr haf wedi cyrraedd, mae’n amser delfrydol i gadw’n heini. Ond ’sdim rhaid i ti ymuno â’r gampfa chwaith.

Mae’n bosib i ti fynd i’r parc i chwarae pêl-droed, sglefrolio neu redeg o gwmpas gyda dy blant.

Os wyt ti’n mynd ar wyliau, cofia bacio dy sgidiau cerdded (a map!) er mwyn crwydro’r ardal. Os byddet ti’n mynd i lan y môr, mae’n bosib i ti nofio, rhedeg ar y traeth, chwarae pêl-foli’r traeth, gwneud aerobeg dŵr neu chwaraeon dŵr.

Ac ar ôl cyrraedd adref, ceisia fod yn fwy egnïol trwy wneud gweithgarwch yn rhan o’th ffordd o fyw.

Beth bynnag ddewisia di, gwna yn siŵr fy fod yn ei fwynhau. Paid â dal ati os yw’n dy ddiflasu.

Os oeddet ti’n cael trafferth dechrau neu barhau i wneud ymarfer corff yn y gorffennol, beth oedd y rheswm am hynny?

Efallai dy fod wedi rhoi’r ffidil yn y to am dy fod yn ei drin fel ‘rhaglen’ neu ‘gynllun’ ymarfer corff. Ceisia feddwl amdano fel rhywbeth sy’n gallu gwella dy iechyd ac sy’n rhan o dy fywyd bob dydd. Pwy a ŵyr – efallai y byddet ti hyd yn oed yn ei fwynhau!

Os wyt ti’n meddwl fy fod eisiau hwb i gadw at dy ffordd o fyw egnïol newydd, gofynna y cwestiynau canlynol i ti dy hun. Ysgrifenna dy atebion er mwyn dy helpu i ganolbwyntio.
  1. Pa fath o weithgaredd dwi’n ei fwynhau?
  2. Pa les wnaiff hyn i mi?
  3. Pryd a pha mor aml fydda i’n gallu gwneud hyn?
  4. Beth fydd yn fy rhwystro i rhag gwneud hyn?
  5. Sut fydda i’n gallu dal ati i gyrraedd y nod?
  6. Pa gymorth sydd ei angen arnaf gan bobl eraill i wneud hyn?
Wrth i ti wneud gweithgaredd, dylet deimlo’n gynnes a mymryn allan o wynt ond dylet allu cynnal sgwrs. Dylai oedolion geisio gwneud 30 munud o weithgarwch eithaf dwys bum gwaith yr wythnos – ond cofia, mae unrhyw weithgaredd ychwanegol yn welliant mawr.

Torri syched

water fizzy Dylet yfed o leiaf 6 i 8 gwydraid o hylif bob diwrnod (tua 1.2 litr) a mwy mewn tywydd poeth neu pan fyddi di’n weithgar.

Os wyt ti’n dadhydradu, yna bydd dy wrin yn dywyllach. Dylai dy wrin fod yn lliw melyn golau, tebyg i liw gwellt.

Cofia – tro nesaf y byddi di’n teimlo’n sychedig, rwyt ti eisoes wedi dadhydradu – mae angen yfed dŵr cyn y bydd dy geg yn teimlo’n sych. Wyt ti’n sychedig nawr?