Text only

Mae Bygiau'n Hoffi'r Haul!


bugs like it hot

Nid torheulwyr yw’r unig rai sy’n mwynhau tywydd poeth. Mae bygiau gwenwyn bwyd yn hoffi gwres hefyd. Gall dim ond 10 byg anweledig yn dy fwyd luosi i 1,000 mewn chwech awr, 100,000 mewn naw awr a hanner a mwy na miliwn mewn 12 awr. A phan fydd hi’n boeth iawn, gall bygiau luosi hyd yn oed yn gynt.

Felly yn yr haf mae’n bwysicach fyth dy fod yn cadw bwyd yn oer ac yn ddiogel!



Cadw’n cŵl

bugs like it hot 1
  • Ar ôl i ti fod yn siopa, rho'r bwyd yr wyt ti wedi'i brynu i gadw yn syth.
  • Gwna’n siŵr bod y rhan oeraf o dy oergell yn 5˚C neu’n is.
  • Os wyt ti'n cael bwffe, cofia gadw'r bwyd allan o’r oergell am gyn lleied o amser â phosibl – awr neu ddwy ar y mwyaf.
  • Os wyt ti'n mynd allan am y dydd neu am bicnic, rho unrhyw fwyd mewn bag oeri gyda briciau iâ neu gartonau o ddiod wedi’u rhewi.

  • Paid â gadael bwyd allan yn yr haul.


Wyt ti'n gwybod pa fath o fwydydd sydd angen eu cadw’n oer?

bugs like it hot 6 Bwyd yr wyt ti wedi’i goginio neu eu baratoi, neu fwyd gyda dyddiad ‘defnyddio erbyn’, megis:
  • salad
  • dipiau
  • llaeth, hufen ac iogwrt
  • pwdinau a chacennau hufen

  • brechdanau
  • ham a chigoedd eraill wedi’u coginio
  • reis wedi’i goginio