Bwyta’n iach adeg Gŵyl y Bara Croyw
Mae Gŵyl y Bara Croyw’n adeg ar gyfer prydau mawr â’r teulu a choginio cartref, gyda bwyd yn chwarae rhan ganolog yn y dathliadau.
Ond hyd yn oed os ydych chi am fwyta’n iach, gall fod yn anodd yr adeg hon o’r flwyddyn, oherwydd bod cymaint o fwyd o gwmpas. Gall llawer o fwydydd traddodiadol hefyd gynnwys llawer o fraster, yn enwedig braster dirlawn, a siwgr a halen wedi’u hychwanegu.
Felly rydym ni’n dangos ichi yma sut gallwch chi gymryd rhan yn yr holl ddathliadau ond ar yr un pryd cwtogi ar swm y braster a'r siwgr a halen wedi'u hychwanegu rydych chi'n eu bwyta.


Beth mae hyn oll yn ei olygu?
Fel rheol, gwneir matzo â gwenith, ond gellir ei wneud â rhyg, barlys, ceirch neu wenith yr Almaen. Fe ddaw ar sawl ffurf – mewn haenau mawr, fel craceri bach, ac fel blawd matzo a blawd cacen. Yn ystod Gŵyl y Bara Croyw, defnyddir matzo ar yr holl ffurfiau hyn i gymryd lle’r holl gynhyrchion bara, blawd a grawn. Ni ellir bwyta unrhyw fwydydd eraill sydd wedi’u gwneud o rawn eplesadwy (neu sy’n deillio ohono).
Gelwir bwydydd sy’n bodloni cyfraith ddietegol yr Iddewon yn ‘kosher’. Fodd bynnag, nid yw’r holl fwydydd kosher yn kosher ar gyfer Gŵyl y Bara Croyw. Mae hyn oherwydd y gallan nhw fod yn cynnwys chometz. Bydd rhywun mwy traddodiadol neu graff yn prynu bwydydd â label ‘Kosher ar gyfer Gŵyl y Bara Croyw’ yn unig.
Bydd mwyafrif y bobl Iddewig yn dathlu pryd mawr o’r enw ‘seder’ ar noson gyntaf Gŵyl y Bara Croyw, a bydd llawer yn ei ddathlu eto ar yr ail noson. Mae’n achlysur bwyta mawr. Bydd teulu a ffrindiau’n dod at ei gilydd i ailadrodd stori’r Ecsodus o’r Aifft ac i fwyta bwydydd symbolaidd gan gynnwys ŵy wedi’i ferwi’n galed mewn dŵr halen, perlysiau chwerw, charoset (cnau mâl, afal wedi’i gratio, sinamon a gwin) ac, wrth gwrs, matzo.
Mae osgoi chometz, bwyta matzo a mynychu’r seder yn ganolog i Ŵyl y Bara Croyw.
Pethau iach i’w rhoi ar matzo
Felly ceisiwch feddwl am yr hyn sydd ar eich matzo a faint rydych chi’n ei fwyta. Ewch i’r arfer o weini'ch matzo â salad, dysgl o gawl neu lysiau amrwd, crensiog wedi'u torri. Bydd hyn yn ei wneud yn fwy maethlon a bydd yn eich llenwi fwy.
Rhowch gynnig ar y rhain:
- tiwna mewn can wedi’i ddraenio, gyda mayonnaise â llai o galorïau
- eog ffres wedi’i haenu a llysiau wedi’u torri
- pennog wedi’i dorri
- cyw iâr neu dwrci rhost heb y croen
- cig mwg o’r deli – ond cofiwch ei fod yn hallt, felly bwytewch hwn mewn meintiau bach a gwyliwch am yr halen yn yr holl bethau ychwanegol fel ciwcymbr wedi’i biclo
- ŵy a nionyn neu mayonnaise ŵy – defnyddiwch mayonnaise â llai o fraster neu ddresin braster isel
- caws â llai o fraster
- caws colfran
- pysgod gefilte wedi’u berwi a’u sleisio’n denau (pysgod traddodiadol wedi’u torri’n fân, sydd fel rheol wedi’u ffurfio’n beli neu’n gacennau pysgod) a chraine (rhuddygl poeth a betys cochion)
Awgrymiadau ar gyfer bwyta’n iach
Dyma rai awgrymiadau ymarferol i’ch helpu i fwyta’n iach yn ystod Gŵyl y Bara Croyw eleni:
- Bwytewch yn araf a cheisiwch beidio â gorfwyta yn ystod prydau. Os ydych chi’n teimlo’n llawn, does dim angen cael mwy, yn nac oes? Ceisiwch baratoi swm realistig o fwyd fel bod pawb yn gallu mwynhau ychydig mwy. Nid oes angen ichi goginio digon ar gyfer dau bryd i bawb!
- Bwytewch brydau rheolaidd. Mae prydau rheolaidd a byrbrydau iach yn eich helpu i gwtogi ar y cacennau, y bisgedi a’r bwydydd eraill nad ydyn nhw mor iach, sef bwydydd y mae digonedd ohonyn nhw ar gael yr adeg yma. Gallai bwyta’n rheolaidd yn ystod y dydd hefyd ei gwneud yn haws ichi fwyta ychydig yn llai yn ystod eich pryd gyda’r nos.
Cael y cydbwysedd iawn
- Ceisiwch fwyta ffrwythau a llysiau i’ch llenwi. Bwytewch lawer ohonyn nhw gyda phob pryd ac fel byrbrydau. Gallech baratoi salad ffrwythau fel gorffeniad blasus i bryd seder – byddwch chi eisoes wedi bwyta’n dda, a bydd angen ichi gadw ychydig o le ar gyfer yr ‘afikoman’ (yn draddodiadol, y darn o matzo a fwyteir yn olaf yn y seder).
- Neu gallech chi dorri llysiau fel eu bod ar gael yn rhwydd yn yr oergell. Gallai bod â’r byrbrydau iach hyn wrth law helpu i leihau’r temtasiwn i gael tamaid arall o gacen neu ddarn arall o siocled!
- Mae’n syniad da cwtogi ar bob math o fraster rydych chi’n ei fwyta, yn enwedig brasterau dirlawn, oherwydd gall gormod o fraster dirlawn gynyddu swm y colesterol yn y gwaed, sy’n cynyddu’ch risg o ddatblygu clefyd y galon. Dewiswch fwydydd sydd â llai o fraster lle bo’n bosibl. Mae enghreifftiau’n cynnwys llaeth sgim neu hanner sgim, iogwrt a chaws braster isel a dofednod a chig heb fraster.
- Gwyliwch am halen cudd mewn bwydydd, yn enwedig mewn ciwbiau stoc, powdr cawl, piclau a physgod a chig wedi’u halltu. Mae’n hawdd bwyta gormod o halen heb sylweddoli, gan ei fod yn aml yn gudd yn y bwydydd hyn.
- Dylem ni i gyd fod yn ceisio bwyta llai o fwydydd sy’n cynnwys siwgr ychwanegol, fel melysion, cacennau a bisgedi, ac yfed llai o ddiodydd meddal a byrlymog siwgrog. Gall cael bwydydd a diodydd siwgrog yn rhy aml achosi pydredd dannedd, yn enwedig os byddwch chi’n eu cael nhw rhwng prydau.
Darllenwch labeli
Gallwch chi ddefnyddio’r canlynol i’ch helpu i ddarganfod a yw bwydydd yn cynnwys llawer neu ychydig o fraster, braster dirlawn, halen a siwgrau wedi’u hychwanegu.
Os yw’r swm fesul 100g rhwng y ffigyrau a nodir isod, yna lefel ganolig yw hynny.
Cofiwch fod y swm o fwyd penodol rydych chi’n ei fwyta’n effeithio ar faint o fraster, braster dirlawn, halen neu siwgrau wedi’u hychwanegu y byddwch chi’n eu cael ohono.
Braster
Mae mwy nag 20g o fraster fesul 100g yn uchel
Mae 3g neu lai o fraster fesul 100g yn isel
Braster dirlawn
Mae mwy na 5g o fraster dirlawn fesul 100g yn uchel
Mae 1.5g o fraster dirlawn fesul 100g yn isel
Halen
Mae mwy nag 1.5g o halen fesul 100g (neu 0.6g o sodiwm) yn uchel
Mae 0.3g neu lai o halen fesul 100g (neu 0.1g o sodiwm) yn isel
Siwgrau wedi’u hychwanegu
Edrychwch am y ffigwr ‘Carbohydrates (of which sugars)’.
Mae mwy na 15g o siwgrau fesul 100g yn uchel
Mae 5g neu lai o siwgrau fesul 100g yn isel
Cyfanswm y siwgrau yn y bwyd yw hyn. Mae’n cynnwys siwgrau o ffrwythau a llaeth, yn ogystal â’r siwgrau sydd wedi'u hychwanegu at y bwyd. Gallwch wirio’r rhestr cynhwysion i ddarganfod a yw’r bwyd yn cynnwys llawer o siwgrau wedi’u hychwanegu.
Os mai ffigwr ar gyfer ‘Carbohydrates’ yn unig y gallwch chi’i weld, ac nid ar gyfer ‘Carbohydrates (of which sugars)’, bydd y ffigwr hwn hefyd yn cynnwys carbohydradau â startsh. Gallwch chi dal wirio’r rhestr cynhwysion i weld a yw’r bwyd yn cynnwys llawer o siwgrau wedi’u hychwanegu.
Ceisio ‘gwneud iawn’
Felly ceisiwch ‘wneud iawn’ am bethau a fydd yn achosi ennill pwysau: os bydd eich pwysau yr un fath ar ddiwedd Gŵyl y Bara Croyw ag ydoedd ar y cychwyn, mae hynny’n gyflawniad. Dyma rai syniadau i’ch helpu i wneud iawn:
- Mwynhewch eich hoff fwydydd yn ystod y dathlu – ond nid mewn meintiau mawr bob tro!
Bwytewch fwy o ffrwythau a llysiau, cwtogwch ar y bwydydd brasterog ac osgowch gymryd ychwaneg. - Byddwch mor actif ag y gallwch chi, a pharhewch â’ch gweithgareddau chwaraeon neu weithgareddau corfforol eraill pan fo’n bosibl. Ewch am dro yn y prynhawn ar ôl prydau yom tov (dathliadol), neu ewch am dro yn gynnar min nos ar ddyddiau eraill. Gall parhau â’ch gweithgaredd wneud gwir wahaniaeth, a helpu i arafu unrhyw ennill pwysau yn ystod Gŵyl y Bara Croyw.
Wyau a mwy o wyau
Nid oes angen ichi boeni, gan nad oes cyfyngiad wedi’i argymell ar gyfer faint o wyau y dylem ni eu bwyta, ac mae wyau yn ddewis da fel rhan o ddeiet cytbwys, iach. Fodd bynnag, mae’n syniad da bwyta deiet mor amrywiol â phosibl. Yn gyffredinol, golyga hyn beidio â bwyta gormod o wyau – ond wedi’r cwbl, dim ond unwaith y flwyddyn mae Gŵyl y Bara Croyw yn digwydd!
Mae wyau’n cynnwys colesterol, ac mae lefelau uchel o golesterol yn ein gwaed yn cynyddu ein risg o glefyd y galon. Ond mae’r colesterol rydym ni’n ei gael o’n bwyd – ac mae hyn yn cynnwys wyau – yn cael llai o effaith ar y colesterol yn ein gwaed nag effaith swm y braster dirlawn rydym ni’n ei fwyta.
Syniadau ar gyfer byrbrydau a chinio iach
Gelli chi atal dy hun rhag teimlo’n newynog trwy fwyta prydau’n rheolaidd gydol y dydd, a rhoi cynnig ar ein hawgrymiadau ar gyfer byrbrydau rhwng prydau. Os byddi di’n bwyta ychydig yn aml yn ystod y dydd, fe weli ei bod lawer yn haws cyfyngu ar y swm y byddi di'n ei fwyta yn ystod y prif bryd gyda’r nos.
Byrbrydau iach
Dewisiadau ar gyfer byrbrydau iach- Salad ffrwythau ffres a iogwrt
- Ffrwythau sych wedi’u stiwio gydag iogwrt naturiol a chnau
- Yn hytrach na dewis macarŵns almon (traddodiadol yn ystod Gŵyl y Bara Croyw), ‘bisgedi Pesach’ a thamaid o gacen sbwng, dewisa un ohonyn nhw, a hynny unwaith y dydd yn unig efallai. Ychwanega ychydig o ffrwythau at dy fyrbryd i’th lenwi.
- a sheet of matzo and low-fat soft cheese topped with some chopped banana or strawberries. There’s usually a good variety of lower fat 5% fat cheeses available at your local kosher deli
- matzo crackers and low-fat soft cheese with a thin covering of jam – you could pretend it's cheesecake!
- bowl of soup and matzo crackers if you're really hungry
- carrot, celery, pepper and cucumber sticks with a low-fat dip (such as tomato salsa) and a few matzo crackers
- bowl of salad with low-fat or fat-free dressing and a few matzo crackers
Cinio iach
- Taten drwy’i chroen a chaws colfran, tiwna neu saws cig, wedi’i gweini â salad cymysg mewn dresin â llai o fraster
- Dysgl fawr o gawl llysiau cymysg gyda matzo
- Cyw iâr rhost gyda thaten drwy’i chroen a llysiau wedi’u coginio
- Salad tatws mewn mayonnaise â llai o fraster wedi’i weini gydag eog, tiwna neu gaws â llai o fraster. Gallech ei weini gyda salad cymysg mawr ac ychydig o graceri matzo, yna iogwrt braster isel a ffrwythau
- Matzo (gwylia faint o sbred rwyt ti’n ei ddefnyddio), â rhywbeth iach ar ei ben – edrych ar ein hawgrymiadau uchod





