Text only

Bwyd yr 21ain ganrif


coriander

Mae’n edrych yn debyg bod degawd gyntaf yr 21ain ganrif yn adeiladu ar dueddiadau bwyta’r 1990au, gyda hyd yn oed mwy o amrywiaeth o brydau parod a byrbrydau erbyn hyn.


Ar y dudalen hon

 

 

 

 



Pryd y dydd

Erbyn hyn mae’n bosibl bwyta bwyd o wledydd gwahanol bob noson o’r wythnos.

Mae dylanwad Gwlad Thai yn amlwg ar ein bwyd, er enghraifft, ac mae pobl ym Mhrydain wedi datblygu awydd mawr am y blasau aromatig a geir mewn bwyd sydd wedi’i ddylanwadu gan Wlad Thai.

Ond yn ogystal â’r twf mewn bwyd rhyngwladol, diddorol yw gweld hen ffefrynnau Prydeinig yn dod yn ôl yn boblogaidd gyda naws gyfoes iddynt - mae pwdinau traddodiadol fel pwdin bara menyn, a hyd yn oed seigiau ofal, i’w gweld ar fwydlenni bwytai unwaith eto.

Mae yna fwy o fwyd iach ar gael nawr nag a fu erioed - mae’n dibynnu ar eich dewis.

Ffeithiau am fwyd

Mae’r manwerthwyr mawr yn archwilio sut i ddatblygu beth maen nhw’n ei alw’n ‘prydau parod cartref’, er mwyn cystadlu gyda siopau cludfwyd a datblygu ffyrdd newydd o ddenu siopwyr prysur.

Dewis

Fodd bynnag, mewn ffyrdd eraill, mae rhai tueddiadau’n awgrymu fod arferion bwyta yn newid yn ôl i’r hyn roedden nhw’n arfer bod a bod dominyddiaeth bwyd safonedig wedi’i gynhyrchu’n ddiwydiannol yn dod i ben.

Mae llwyddiant bwyd organig, cig premiwm a chynhyrchion arbenigol eraill wedi adfywio diddordeb mewn cynhyrchu ar raddfa lai.

Tra bod y dorth fawr wen yn parhau i gael y gyfran fwyaf o’r farchnad, mae archfarchnadoedd nawr yn gwerthu mwy na 200 gwahanol fath o fara, o foccaccia i naan, sy’n dod o bob cwr o’r byd.

Siopa

Mae siopa ar y rhyngrwyd wedi arwain at ailgyflwyno gwasanaeth cludo siopa pobl i’w cartrefi, er bod y rhain yn dueddol o fod yn wasanaethau a gynigir gan yr archfarchnadoedd mawr yn hytrach na chwmnïau lleol.

Ond tra bod ambell i hen agwedd ar goginio a bwyta yn dod yn ôl, mae’r newid sydd wedi digwydd ers yr 1950au wedi bod yn sylweddol.

Yn yr amser hwnnw roedd Prydain yn dal i ddogni bwyd wedi’r Ail Ryfel Byd, ac i ddathlu dyfodiad Elisabeth II i’r Orsedd ym 1953 cafodd pawb 1lb ychwanegol o siwgr a 4 owns o fargarîn. Pa mor ddiolchgar fyddem ni i gael hynny nawr?