Text only

1960au


Fanny Cradock

Yn dilyn caledi’r 1950au cynnar, cododd incwm ar ddiwedd yr 1950au ac yn ystod yr 1960au a dechreuodd arferion bwyta pobl newid.

I’r nifer cynyddol o berchnogion teledu, ychwanegodd Fanny Craddock (llun) elfen o soffistigeiddrwydd i goginio’r 60au.


Ar y dudalen hon

 

 

 

 

 



Pryd y dydd

Mae’r 1960au yn enwog am fod yn ddegawd o newid, gyda gwahanol fwydydd ac arferion coginio yn cael eu cyflwyno i’r gegin.

Wrth i bobl ddechrau mynd ar wyliau parod, cafodd pobl eu hysbrydoli i goginio prydau fel spaghetti Bolognese.

Arweiniodd y twf graddol o gymunedau Indiaidd a Tsieineaidd at agor bwytai a siopau cludfwyd Indiaidd a Tsieineaidd a dechreuodd pobl Prydain fwynhau’r bwydydd hyn.

Ond parhaodd pysgodyn a sglodion i fod yn hen ffefryn ymysg Prydeinwyr.

Ffeithiau bwyd

Ar ôl blynyddoedd o ddogni, roedd pobl yn bwyta mwy o gig a siwgr nag erioed.

Parhaodd bwyd tun, a oedd wedi dod yn ffefryn yn ystod yr 1930au, i fod y bwyd cyfleus mwyaf cyffredin, gan ddarparu ffrwythau a llysiau allan o dymor a chigoedd a physgod hawdd i’w paratoi.

Daeth y dorth sleis fawr wen hyd yn oed yn fwy poblogaidd.

Ym 1961, dyfeisiwyd dull newydd o awyru bara i greu’r dafell safonol - a elwid yn broses Chorleywood - a phrynodd llawer o’r melinwyr blawd diwydiannol a oedd yn gwerthu torthau sleis gwyn mawr yn bennaf y siopau bara annibynnol lleol.

Mentrodd gwneuthurwyr grawnfwydydd y tu hwnt i’r creision ŷd a’r grawnfwydydd brecwast gwenith cyflawn i gynhyrchu grawnfwydydd wedi’u gorchuddio â siwgr.

Kellogg’s a Birds Eye oedd hysbysebwyr mwyaf brwd y cyfnod, ac un o hysbysebion mwyaf poblogaidd y degawd oedd yr ymgyrch hyrwyddo ffa pob o dan y slogan Beanz Meanz Heinz.

Siopa

Roedd bwydydd mwy amrywiol ar gael yn y siopau yn yr 1960au.

Cynyddodd cynhyrchion bwyd Sainsbury’s ddwywaith o 2000 i 4000 yn ystod y degawd. Roedd twf teithiau awyrennau’n golygu bod modd hedfan ffrwythau a llysiau i’r wlad. Roedd tomatos o Ynysoedd Dedwydd ar gael yn ystod y gaeaf. Dechreuodd afocados ymddangos yn y siopau.

Y prif beth newydd yn yr 1960au oedd bwyd wedi’i rewi. Cynhyrchodd cwmnïau fel Birds Eye, Findus a Ross doreth o gynhyrchion newydd wedi’u rhewi.

Ym 1968, sefydlwyd cadwyn arbenigol newydd o siopau o’r enw Bejam i werthu bwydydd wedi’u rhewi’n unig ac roedd gan hyd yn oed Harrods ei bryd pysgodyn a sglodion wedi rhewi ei hun.

Parhaodd y chwyldro siopa. Ym 1960, agorodd Tesco archfarchnad enfawr yn Cheltenham gyda llawr gwerthu o 390m2 ac erbyn 1968 roedd wedi mabwysiadu’r term ‘uwchfarchnad’ ar gyfer siop newydd yn Crawley a oedd yn gwerthu bwyd a nwyddau eraill ar ei llawr 3720m2.

Dechreuodd siopau hunanwasanaeth ac archfarchnadoedd ddylanwadu ar y ffordd roedd bwyd yn cael ei baratoi a’i werthu.

Gan fod bwyd bellach yn cael ei becynnu, roedd cynllun y pecyn yn bwysicach gan fod gan y cwsmer fwy o ddewis.

Ym 1964, roedd siopau’n gallu pennu eu prisiau eu hunain, a rhoddodd hyn fantais fawr i’r manwerthwyr mawr a oedd yn gallu prynu eu nwyddau’n rhatach.

Hyd hynny, o dan y deddfau cynnal pris ailwerthu, roedd gwneuthurwyr bwyd yn pennu’r pris ar gyfer pob eitem. Roedd y pris i’w weld ar becynnau a thuniau.

Blas

Erbyn canol yr 1960au, roedd mewnfudwyr o Hong Kong wedi agor bwytai a siopau cludfwyd Tsieineaidd ym mhob tref fawr a chanolig yn Lloegr bron iawn.

Arweiniodd alltudiad Asiaid Dwyrain Affrica o Uganda, a’u fföedigaeth cyn hynny o Kenya, at gynnydd tebyg mewn bwytai Indiaidd.

Golygodd y bwytai newydd hyn bod Prydeinwyr yn dechrau cael blas ar fwyd mwy estron ac roedd mwy o bobl yn gallu fforddio bwyta mewn bwytai.

Yn yr 1960au dechreuodd y ffasiwn sydd wedi trawsnewid patrwm bwyta Prydain yn raddol – sef poblogrwydd coginio gwledydd eraill.

Wynebau bwyd

Mae’n anodd dychmygu Nigella Lawson hyd yn oed yn gwisgo ffrog ddawns i gyflwyno’i sioe goginio. Ond yn y gyfres deledu Kitchen Magic, roedd y cogyddion enwog Fanny a Johnny Craddock yn gwisgo ffrog a siwt i arddangos sut i goginio o flaen cynulleidfa stiwdio.

Erbyn diwedd y degawd roedd y cogydd teledu poblogaidd Graham Kerr, sef y ‘Galloping Gourmet’, yn teithio i bedwar ban byd yn darparu ryseitiau i wylwyr ac yn annog mwy a mwy o Brydeinwyr i dderbyn prydau a chynhwysion tramor.