Cynhaeaf y cloddiau
Wrth i'r hydref ein cyrraedd, mae llawer o'r cloddiau'n fannau perffaith i fynd i chwilio am aeron gwyllt a chasglu madarch.Gall y cynhaeaf hwn gyfrannu at ein deiet dyddiol, ond mae angen gofalu eu bod yn ddiogel i'w bwyta.


Cymer ofal y cynhaeaf hwn!
Er enghraifft, mae eirin ysgaw ar gael o ddiwedd yr haf ac maen nhw'n boblogaidd ar gyfer gwneud jam a gwin, a gellir defnyddio blodau ysgaw i wneud cordial yn ystod y gwanwyn. Mae cawl danadl, diod 'dandelion and burdock', a jin eirin i gyd yn enghreifftiau o ryseitiau traddodiadol sy'n gwneud y defnydd gorau o'r hyn a gynigir gan y cloddiau yn ystod gwahanol dymhorau.
Fodd bynnag, nid yw'r ffaith bod modd bwyta un rhan o blanhigyn yn golygu y gellir bwyta pob rhan. Mae angen coginio rhai planhigion hefyd, er mwyn lladd tocsinau. Er enghraifft, mae coginio eirin ysgaw'n lladd tocsinau sy'n bresennol yn yr eirin amrwd, ond ni ddylid byth bwyta dail, rhisgl na gwreiddiau'r ysgawen.
Gwna'n siŵr ar bob adeg dy fod yn gwybod yn union beth wyt ti'n ei gasglu. Os oes gen ti unrhyw amheuon, paid â’u casglu. Gallai llyfrau sy’n disgrifio planhigion a madarch fod yn ddefnyddiol neu'n well fyth, cer â rhywun profiadol gyda thi, sy’n gwybod pa blanhigion y gellir eu bwyta.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod sut bethau yw mwyar duon ac mae'r rhain yn ffynhonnell ddefnyddiol o fitamin C a hefyd yn cynnwys potasiwm, calsiwm, magnesiwm a ffosfforws. Mae llond cwpan o fwyar duon yn cyfateb i ddogn o dy bum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd. Mae mefus a cheirios ymhlith yr aeron eraill sydd ar gael yn gynharach yn y flwyddyn.
Ffeithiau ffyngaidd
Mae tair llond llwy fwrdd yn cyfrif fel dogn ac, fel y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau, mae madarch yn yn isel mewn braster a chalorïau. Ond cofia eu bod nhw'n amsugno llawer o fraster wrth eu ffrio, felly ceisia ddefnyddio ychydig bach o olew yn unig. Mae'n bosibl ychwanegu madarch at gaserol, cyri a saws pasta, neu eu grilio gydag ychydig iawn o olew olewydd a garlleg.
Fodd bynnag, mae'n hawdd iawn gwneud camgymeriad gyda madarch. Os wyt ti'n casglu madarch gwyllt, mae'n bwysig sicrhau dy fod yn gwybod yn union pa fath yr wyt ti'n eu gasglu. Paid byth â bwyta madarch gwyllt os nad wyt ti'n siŵr beth ydyn nhw.
Darganfod danteithion...
Danteithion diogel neu ddrwg?
Darllena ein cyngor ar beth i wneud a beth i beidio â gwneud wrth chwilota yn y cloddiau:
Gwna'n siŵr dy fod yn gwybod beth yw'r ffrwyth, y dail neu fadarchen yr wyt ti wedi dod o hyd iddo. Edrycha ar sawl peth er mwyn bod yn siŵr (edrycha ar y dail, y blodau, lliw a siâp yr aeron, y tymor ac ati). Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod beth yw mwyar duon, ond mae madarch yn anoddach. Os nad wyt ti'n siŵr, paid â'i fwyta.
Gofala dy fod yn glanhau dy gynhaeaf yn dda, lle bynnag yr wyt ti wedi'i gasglu.
Cofia roi darn bach o'r madarch, yr aeron neu'r dail heibio fel y gellir canfod beth yw'r cynnyrch os byddi di'n cael poen yn dy fol.
Paid â gadael i blant gasglu neu fwyta bwyd gwyllt heb oruchwyliaeth.
Paid â bwyta planhigyn neu ffrwyth nad yw'n edrych yn iach e.e. os yw'n ymddangos ei fod wedi llosgi, wedi'i gleisio neu fod unrhyw arwydd o lwydni.
Paid â bwyta planhigion nac aeron sy'n tyfu ar hen safleoedd diwydiannol, ar ymyl ffyrdd prysur neu lle mae modd gweld bod y tir wedi'i halogi gydag olew neu ludw.
Cofia, os wyt ti'n mynd allan i chwilio am gynnyrch, paid â chymryd mwy na sydd ei angen arnat, fel bod digon o'r planhigyn ar ôl i atgynhyrchu. Mae'n anghyfreithlon dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i ddadwreiddio unrhyw blanhigyn gwyllt heb ganiatâd perchennog neu feddiannydd y tir. Mae hefyd yn anghyfreithlon pigo, dadwreiddio, casglu hadau neu werthu unrhyw rywogaethau sy'n arbennig o brin neu'n agored i niwed. Mae'r rhestr gyfredol ar gael ar wefan y Cydbwyllgor Gwarchod Natur.





