Text only

Cyngor ar fwyta i fyfyrwyr


beans on toast

Os wyt ti'n mynd i’r coleg neu’r brifysgol, mae’n debyg y byddi di'n byw oddi cartref am y tro cyntaf. Dy gyfrifoldeb di felly fydd bwyta yn gall.

Ac yn waeth byth, mae disgwyl i ti wneud hynny gyda phum punt, hob 2 gylch a thostiwr yn unig!

Os wyt ti wedi llwyddo i osgoi’r gegin tan hyn, dyma ambell i awgrym ar sut i fwyta deiet cytbwys ac iach, a hynny ar arian bach!




Sut i fwyta'n iach ar arian bach...

Shopping with a trolley full of food Faint o arian sydd gen ti? - Beth am gynllunio faint wyt ti am wario ar fwyd bob wythnos, a pheidio â gwario mwy na hynny. Fel arall, mae'n bosibl y byddi di'n bwyta fel brenin ar ddechrau’r tymor ac yna’n gorfod ailgylchu bagiau te erbyn y diwedd!

Prydau iach heb strach - Mae bwyd wedi’i brosesu yn ddewis drud oherwydd dy fod yn talu am y gwaith prosesu. Mae’n llawer rhatach ac yn aml yn fwy maethlon i brynu cynhwysion a pharatoi dy brydau dy hun.

Cymharu prisiau - Cofia chwilio am y pris gorau. Er enghraifft, cer i’r siop lysiau neu'r farchnad leol i weld a oes gwell bargeinion i’w cael nag yn yr archfarchnad. Rwyt ti hefyd yn gallu arbed arian drwy brynu brandiau’r archfarchnad yn hytrach na’r brandiau mawr.

Pryna yn dymhorol - Mae’n amlwg y byddi di'n talu mwy yng nghanol y gaeaf am fefus sydd wedi'u mewnforio o gornel anghysbell o'r byd, felly mae’n rhatach i ti brynu ffrwythau a llysiau yn eu tymor.

Paid â chael dy ddenu gan gynigion arbennig - Mae cael rhywbeth 20 ceiniog yn rhatach, tri am bris dau neu gael 15% ychwanegol yn grêt os yw’n rhywbeth defnyddiol. Ond paid â llenwi dy gypyrddau gyda bwydydd di-angen dim ond am eu bod yn 'gynigion arbennig'!

Coginia ddigon ar gyfer sawl pryd - Gall fod yn ddrud i brynu gwahanol gynhwysion ar gyfer pob pryd, felly mae’n syniad da i goginio digon o fwyd i wneud sawl pryd. Ar ôl coginio, cofia oeri'r bwyd yn gyflym (o fewn awr neu ddwy), yna’i rewi mewn dognau. Cofia wneud yn siŵr dy fod yn ailgynhesu’r bwyd nes ei fod yn chwilboeth drwyddo.

Paid â gwastraffu - Pan fyddi di’n prynu bwyd sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym, cynllunia dy brydau i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei fwyta neu’i rewi.

Bywta digon o fwydydd â starts

pasta tricolor Dylet fwyta digon o garbohydradau â starts fel rhan o ddeiet cytbwys ac iach. Felly ceisia seilio pob pryd ar fwyd â starts, fel y rhai isod. Y newyddion da yw bod y bwydydd hyn fel arfer yn rhad, os wyt ti'n siopa’n ddoeth.

Ceirch uwd - Mae'n bosibl prynu bag 1kg o geirch uwd am dipyn llai na £1, ac mae’n bryd sy’n dy lenwi ar ddechrau’r diwrnod. Os nad wyt ti'n hoffi uwd sydd wedi’i baratoi yn ffordd draddodiadol yr Alban gyda dŵr a halen, ceisia ei baratoi gyda llaeth a mêl. Neu beth am ychwanegu 'chydig o ffrwythau ffres neu rhai wedi'u sychu?

Bara - Mae bara yn ffynhonnell dda o garbohydradau â starts. Cofia ddewis fara grawn cyflawn yn hytrach na bara gwyn, gan ei fod yn fwy maethlon ac yn dy lenwi fwy.

Tatws - Mae tatws pob yn rhad ac mae modd eu paratoi mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae'n bosibl eu llenwi â chynhwysion rhad fel caws, tiwna tun a ffa pob. Neu mae'n bosibl eu berwi, eu rhostio, eu stwnshio neu eu ffrio. Ond cofia y byddi di fel arfer yn talu mwy am datws newydd bach, yn arbennig os ydynt wedi'u pecynnu o flaen llaw ac wedi'u golchi, yn hytrach na rhai rhydd.

Reis - Mae reis hefyd yn ffynhonnell dda o garbohydrad â starts ac yn berffaith gyda phrydau fel cyri a tsili. Mae hefyd yn bosibl ei ddefnyddio i wneud risotto neu ei ychwanegu at salad. Gwna'n siŵr dy fod yn storio reis wedi’i goginio yn yr oergell a’i ailgynhesu nes ei fod yn chwilboeth drwyddo.

Pasta - Mae fel arfer yn rhatach prynu swmp o basta ar y tro. Mae’n dy lenwi, mae'n isel mewn braster (os nad wyt ti'n ei foddi mewn saws hufennog) ac yn hawdd iawn i’w goginio. Beth am arbrofi drwy baratoi dy sawsiau dy hun gyda thomatos a llysiau, cyw iâr a physgod, yn hytrach na phrynu sawsiau pasta parod, sy’n gallu bod yn ddrud?

Ffrwythau a llysiau - bwyta pump y dydd!

fruit salad Dylai pawb fod yn bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Maent yn cyfrif p'un a'u bod nhw’n ffres, mewn tun, wedi'u sychu, wedi’u rhewi neu mewn sudd (ond dim ond fel un un dogn y dydd y mae sudd yn cyfrif, dim ots faint yr wyt ti'n ei yfed).

Ceisia osgoi coginio llysiau gormod, oherwydd mae’r rhan fwyaf o fitaminau’n cael eu colli yn y dŵr. Mae’n well eu coginio am amser byr ac mewn cyn lleied o ddŵr â phosibl.

Os oes gen ti le yn y rhewgell, ceisia brynu llysiau wedi’u rhewi. Mae hyn yn syniad da oherwydd mae'n bosibl cymryd yr hyn sydd ei angen allan o’r rhewgell, ac felly does dim gwastraff.

Tomatos tun - Gellir defnyddio’r rhain i baratoi pob math o sawsiau, maen nhw’n isel mewn braster ac yn cyfrif tuag at dy ddognau dyddiol o ffrwythau a llysiau.

Moron - Moron yw un o’r llysiau rhataf i’w prynu yn rhydd, ond mae bagiau o foron bach yn gallu bod yn ddrud. Gelli eu hychwanegu at gawl neu gaserol, neu’u bwyta’n amrwd fel byrbryd.

Nionod/Winwns - Mae nionod/winwns fel arfer yn rhad iawn ac yn ddefnyddiol i ychwanegu blas at bron iawn unrhyw bryd. Mae nionod/winwns coch yn dueddol o fod yn ddrutach, felly ceisia gadw at y rhai gwyn.

Pys wedi’u rhewi - Dim ond sosban o ddŵr sydd ei hangen a gellir eu coginio mewn ychydig funudau. Mae ychwanegu pys at bryd yn ffordd hawdd o gynyddu'r ffrwythau a llysiau yn dy ddeiet. Gelli eu gweini ar wahân neu fel rhan o brydau reis neu basta.

Afalau - Wrth gwrs, mae cost afalau yn amrywio yn ôl y math ac amser y flwyddyn, ond mae rhai yn rhad iawn. Mae afal canolig yn cyfrif fel un dogn ac yn fyrbryd iachus.

Sudd ffrwythau - Mae sudd ffrwythau crynodedig, sydd fel arfer yn yr un rhes â diodydd ysgafn, yn dueddol o fod yn llawer rhatach na’r mathau sydd ar gael yn yr adran oer.

Bwyta digon o brotein

egg boiled Ffa pob - Mae ffa pob ar dost yn bryd traddodiadol i fyfyrwyr ac mae’n ddewis iach iawn, yn enwedig os wyt ti'n defnyddio bara grawn cyflawn, sbred braster isel a ffa heb siwgr a halen ychwanegol.

Cyw iâr - Mae cyw iâr yn dueddol o fod yn rhatach os wyt ti’n prynu llawer ar y tro. Felly, os oes gen ti rewgell, mae'n bosibl ei dorri'n ddarnau (gan gael gwared ar y croen i leihau’r braster) ac yna’i rewi mewn dognau bach. Rhaid dadmer a choginio’r cyw iâr yn drylwyr bob tro a sicrhau ei fod yn chwilboeth drwyddo ac nad oes unrhyw ddarnau pinc ar ôl.

Codlysiau - Mae ffa sych a chorbys yn ffynonellau rhad o brotein a maethynnau eraill ar gyfer pobl sy'n bwyta cig yn ogystal â llysieuwyr. Cofia ddilyn y cyfarwyddiadau ar y label o ran coginio.

Wyau - Mae wyau yn hawdd i’w coginio a gellir eu paratoi mewn nifer o wahanol ffyrdd. Gelli wneud wy wedi’i sgramblo ar dost, neu omled gydag unrhyw lysiau sydd dros ben, neu dorri wy wedi’i ferwi’n galed a’i roi mewn brechdan neu salad.

Pysgod tun - Mae mecryll a sardinau yn ffynonellau da o brotein ac asidau brasterog Omega 3, a chan fod pysgod tun yn cadw am amser hir (cofia edrych ar y dyddiad ‘ar ei orau cyn'), maent yn gwneud byrbryd da iawn ar ddarn o dost neu wedi’u cymysgu mewn pasta.

Llaeth - Mae’n llawn calsiwm a fitaminau, felly mae gwydraid o laeth yn ddiod iach unrhyw amser o’r dydd. Dewisa laeth hanner-sgim neu sgim fel dewis isel mewn braster.

Troseddau anhylan!

Foil containers Mae rhai pobl yn meddwl bod tomenni o lestri budr yn y sinc a bwyta bwyd amheus yn rhan allweddol o fywyd myfyriwr. Ond os nad wyt ti'n credu y byddai gwenwyn bwyd yn ychwanegu at y profiad, dyma ambell i reol sy’n rhaid i ti eu dilyn:

Bwyd tecawê sydd dros ben - Does dim byd o’i le gyda bwyta ychydig o bizza neu gyri dros ben i frecwast, cyn belled â'i fod wedi bod yn yr oergell. Ond ni ddylet ei fwyta os yw’r bwyd wedi bod allan ar dymheredd yr ystafell dros nos. O dan yr amodau cywir, gall un bacteriwm luosi i filoedd o filiynau mewn deuddeg awr. Cofia oeri bwyd dros ben o fewn awr neu ddwy ac yna’i roi yn yr oergell. Os wyt ti’n ailgynhesu'r bwyd, gwna'n siŵr ei fod yn chwilboeth drwyddo cyn ei fwyta.

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ (use by) - Mae’r term ‘defnyddio erbyn’ neu ‘use by’ yn golygu union hyn. Does yna ddim ffordd o’i chwmpas hi - nid oes modd bod yn siŵr a yw’r bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl i’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ fynd heibio. Gallai dy wneud di'n sâl os wyt ti'n mentro ei fwyta. Defnyddir dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ neu ‘best before’ ar fwydydd nad ydynt yn mynd yn ddrwg mor gyflym. Ar ôl i’r dyddiad hwn basio, efallai na fydd y blas a’r ansawdd cystal, ond nid yw’n debygol o dy wneud di’n sâl.

Bwyd wedi llwydo - Unwaith i ti sylwi ar dyfiant blewog ar dy fwyd, paid â thorri’r darn hwnnw i ffwrdd ac yna bwyta’r gweddill. Mae llwydni a ffyngau eraill yn cynhyrchu tocsinau anweledig sy’n gallu effeithio ar weddill y bwyd a dy wneud di’n sâl. Felly, mae’n well rhoi bwyd sydd wedi llwydo yn y bin.

Bwyd ar y llawr - Nid yw lloriau yn lân, felly gall unrhyw fwyd sy’n disgyn ar y llawr - hyd yn oed am eiliad - fod wedi’i orchuddio â baw a bacteria wedi i ti ei godi. Felly, os yw dy dost yn glanio ar yr ochr sydd â menyn arno, cofia ei daflu yn syth i'r bin!