Noson tân gwyllt
Un ffordd o wneud yn siŵr dy fod yn cael noson tân gwyllt i'w chofio yw cynnig amrywiaeth anhygoel o fwydydd iach a disglair i dy westeion. Mae'n bosibl cadw’r bwyd yn gynnes yn y ffwrn neu ei ailgynhesu ar ôl i’r tân gwyllt orffen neu pan fo'r goelcerth yn llosgi'n ffyrnig!


Gwledd tân gwyllt
Wrth ddewis pa selsig neu fyrgyrs i’w prynu, darllena'r labeli er mwyn dewis y rhai isaf mewn braster a halen. Er mwyn helpu i fwyta llai o fraster, coginia'r cig o dan y gril neu ar y barbiciw yn hytrach na'i ffrïo.
Beth am weini cŵn poeth neu fyrgyrs mewn rhôl grawn cyflawn neu granari? Os wyt ti'n cynnig nionod/winwns, dim ond ychydig o olew sydd ei angen i'w tro-ffrïo. Beth am gynnig salsa tomato neu relish india-corn yn hytrach na sos coch? Fel dewis gwahanol, beth am lenwi bara pitta cynnes gyda chymysgedd o gyw iâr a llysiau wedi’u tro-ffrïo?
Mae tatws pob yn opsiwn iach a gall tatws stwnsh fod yn iach hefyd. Os wyt ti ffansi tatws stwnsh, ychwanega rywfaint o laeth cynnes wrth stwnsio’r tatws yn hytrach na menyn neu fargarîn. Os wyt ti am iddo fod ychydig yn wahanol, gelli ychwanegu moron, rwdan, neu ysbigoglys wedi’u stwnsio, a fydd hefyd yn dy helpu i fwyta dy 5 y dydd!
Neu beth am stwnsio tatws melys yn hytrach na thatws cyffredin? Mae eu lliw yn ddelfrydol ar gyfer noson tân gwyllt ac maent yn flasus iawn hefyd. Mae tatws melys yn cynnwys mwy o fitamin E nag unrhyw fwyd arall sy'n isel mewn braster, ac maent yn llawn beta-caroten (sy’n cael ei droi'n fitamin A yn y corff) a fitamin C, yn ogystal â chopr, haearn, potasiwm a fitamin B6.
I wneud stwnsh tatws melys, cer ati i blicio, berwi a stwnsio tatws melys gydag ychydig o laeth a mymryn o sinamon mân. Mae hefyd yn bosibl eu gweini wedi’u pobi yn eu crwyn neu fel sglodion trwchus (wedges) melys sbeislyd. Gweler y rysáit ar gyfer sglodion trwchus melys isod.
Mae india-corn hefyd yn fwyd iach a diddorol ar gyfer noson tân gwyllt. Mae’n ffynhonnell dda o fwynau fel magnesiwm, potasiwm a ffosfforws. Mae hefyd yn cynnwys llawer o ffeibr deietegol. Mae'n bosibl ei ferwi neu rostio india-corn cyfan a'i weini gyda salsa tomato sbeislyd.
Ffordd arall o fwyta mwy o lysiau yw cynnig rhywfaint o bys slwtsh. Gelli eu prynu mewn tun, ond cofia ddarllen y labeli er mwyn dewis y rhai sy'n is mewn halen a siwgr. Mae’r rhain yn flasus gyda saws mintys.
Cawl
Mae cwpan neu bowlen o gawl poeth yn ffordd ddelfrydol o helpu dy westeion i gadw’n gynnes yn oerfel y gaeaf. Mae cawl cartref yn gyflym a hawdd i’w baratoi a bydd yn cynnwys llawer llai o halen na chawl siop os wyt ti'n defnyddio stoc halen isel.
Mae cawl cyri pannas, cawl tomato sbeislyd neu gawl corbys trwchus yn ddewisiadau da. Gweler y rysáit ar gyfer cawl pys isod.
Neu beth am brynu cartonau o gawl ffres neu duniau o gawl llysiau trwchus, ond cofia edrych ar y label er mwyn dewis opsiynau sy'n is mewn halen.
Beth am weini'r cawl gyda bara ffres? Rho gynnig ar 'baguettes' grawn cyflawn neu granari i fod yn iach!
Beth am rywbeth ychydig yn wahanol...?
Byddai gwreiddlysiau wedi’u rhostio’n bryd blasus ac yn ffordd wych o helpu dy westeion i fwyta digon o ffrwythau a llysiau. Beth am roi cynnig ar bwmpen, rwdan a seleriac, yn ogystal â'r hen ffefrynnau fel pannas a moron?
Torra'r llysiau’n ddarnau o’r un maint a’u gosod mewn tun rhostio gydag ewynnau garlleg cyfan (nid oes angen eu plicio), ychwanega ychydig o olew olewydd neu olew hadau rêp drostynt, ac yna ychwanegu rhywfaint o fêl a mwstard grawn cyflawn. Rhostia'r llysiau mewn ffwrn boeth tan eu bod yn feddal. Gelli eu gweini â chebabs cyw iâr neu ffiled eog wedi’i grilio.
Mae tsili côn carne yn opsiwn iach i'w roi mewn tatws pob neu gelli ei weini â reis brown â chnau. I greu opsiwn iachach, cofia ddefnyddio briwgig sy'n isel iawn mewn braster ac os wyt ti'n defnyddio ffa Ffrengig tun, dewisa rai heb halen neu siwgr wedi' ychwanegu. (Os wyt ti'n defnyddio ffa Ffrengig wedi'u sychu, darllena ein cyngor ar goginio codlysiau.) Ychwanega lond llaw o india-corn neu bys wedi’u rhewi i gael mwy o lysiau.
Ar gyfer llysieuwyr, neu fel opsiwn arall blasus ar gyfer pobl sy’n bwyta cig, beth am gynnig byrgyrs ffa sbeislyd gyda ratatouille, neu gyri neu tsili llysieuol?
Diodydd disglair
Byddai pwnsh ffrwythau sbeislyd cynnes yn siŵr o fod yn boblogaidd!
Gelli ei baratoi drwy gymysgu’r un faint o sudd afal a sudd llugaeron. Ychwanega sleisiau o oren a lemwn a ffon sinamon, ac yna chynhesu'r cymysgedd yn araf.
Rho'r pwnsh mewn fflasg i’w gadw’n gynnes.
Ryseitiau tân gwyllt
Rho gynnig ar rai o’r ryseitiau blasus hyn ar Noson Tân Gwyllt.Sglodion trwchus (wedges) melys sbeislyd gyda tzatziki
Digon i 4
3 taten felys fawr, wedi’u sgrwbio
3 llwy fwrdd o olew olewydd
3 llwy fwrdd o gymysgedd sesnin fajita
Ar gyfer y tzatziki:
½ ciwcymbr mawr
200 ml iogwrt Groegaidd braster isel
1. Cynhesa'r popty ymlaen llaw i 220°C/450°F/marc nwy 8. Torra pob taten felys yn ei hanner, ar ei hyd. Yna torra pob hanner yn dri i wneud sglodion trwchus.
2. Cymysga'r olew a’r sesnin fajita mewn powlen fach. Brwsia'r cymysgedd dros y sglodion.
3. Rho'r sglodion mewn tun rhostio nad yw’n glynu a'u pobi am 15-20 munud neu nes eu bod nhw’n gras ac yn frown.
4. I wneud y tzatziki, torra'r ciwcymbr yn ei hanner ar ei hyd a thynna'r hadau allan gyda llwy de. Torra'r ciwcymbr sydd ar ôl yn ddarnau a’i gymysgu gyda’r iogwrt. Gorchuddia'r cymysgedd a’i roi o'r neilltu tan y byddi di ei angen.
Stiw llysiau a ffacbys
Digon i 4
1 llwy fwrdd o olew olewydd
1 nionyn/winwnsyn coch, wedi’i sleisio’n denau
2 clof garlleg, wedi’u gwasgu neu eu torri’n fân
1/2 llwy de o gwmin mân
1 llwy fwrdd o harissa
125g o fricyll wedi'u, wedi’u torri’n fras
2 foronen fawr, wedi’u plicio a’u torri’n drwchus
1 pupryn coch, gan dynnu'r tu mewn allan, a’i dorri’n fras
400ml o stoc llysiau isel mewn sodiwm poeth
Tun 410g o ffacbys, wedi’u rinsio a’u draenio
225g o domatos ceirios, wedi’u torri’n hanner
2 lwy fwrdd o goriander ffres, wedi’i dorri’n fras
Cwscws wedi’i goginio, i’w weini
1. Cynhesa'r olew mewn sosban fawr, ychwanega'r nionyn/winwnsyn a'i goginio am oddeutu 5 munud, tan iddo ddechrau meddalu. Ychwanega'r garlleg, y cwmin a'r harissa a'i goginio am funud arall.
2. Ychwanega'r bricyll a’r holl lysiau at y sosban a'i droi. Ychwanega'r stoc a gadael iddo ferwi. Ychwanega sesnin, gan roi caead ar y sosban a gadael i'r cwbl fudferwi am 15 munud.
3. Ychwanega’r ffacbys a’r tomatos bach a’i goginio am 10 munud arall, neu tan i’r llysiau fod yn feddal.
4. Ychwanega'r coriander a’i weini gyda cwscws.
Cawl Pys
Digon i 4
1 llwy fwrdd o olew olewydd
1 nionyn/winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
1 daten fawr, wedi’i phlicio a’i thorri’n giwbiau bach
450g o bys wedi'u rhewi
1 litr o stoc llysiau neu gyw iâr isel mewn sodiwm
Pupur du mân ffres
4 llwy fwrdd o iogwrt Groegaidd braster isel
Cennin syfi ffres i addurno, wedi’u torri’n fras
1. Rho'r olew mewn sosban fawr a’i gynhesu’n araf.
2. Ychwanega'r nionyn/winwnsyn a’i goginio am oddeutu 5 munud, tan iddo ddechrau meddalu. Ychwanega'r daten a choginio'r cwbl am 5 munud arall, a'i droi.
3. Ychwanega'r pys, y stoc a'r sesnin. Gad i bopeth ferwi, gostynga'r gwres a gadael iddo fudferwi am 15 munud neu tan i’r tatws goginio.
4. Gad i’r cymysgedd oeri am dipyn, yna rho'r cwbl mewn prosesydd a’i gymysgu tan ei fod yn llyfn. Rho'r cawl yn ôl yn y sosban a’i gynhesu tan iddo fod yn chwilboeth.
5. Cyn ei weini, rho 1 llwy fwrdd o’r iogwrt ym mhob powlen a’i addurno gyda’r cennin syfi ffres.
Gorffen gyda chlec
Mae bananas wedi’u pobi yn sicr o fod yn boblogaidd ymysg yr hen a’r ifanc, yn enwedig gyda saws siocled neu sgŵp o hufen iâ.
Gorchuddia'r bananas (yn eu crwyn) mewn ffoil a’u coginio yng ngholsion olaf y goelcerth.
Mae afalau wedi’u pobi yn opsiwn iachach nag afal taffi. Tynna galon yr afal allan a’i lenwi gyda rhesins. Yna, rho ychydig o siwgr brown ar yr afal a’i orchuddio â ffoil. Mae hefyd yn bosibl coginio’r rhain yng ngholsion olaf y goelcerth neu yn y ffwrn.
Os wyt ti am gynnig rhywbeth gwahanol, beth am gompot ffrwythau wedi'u sychu cynnes gyda llwyaid o iogwrt Groegaidd hufennog. I wneud y compot, rho gymysgedd o ffrwythau wedi'u (mae'n bosibl defnyddio afalau, prŵns, bricyll, ffigys a gellyg) mewn powlen gwrth-wres fawr.
Ychwanega'r un faint o sudd oren a dŵr berwedig drosto. Gorchuddia'r cymysgedd a’i adael dros nos. Cyn gweini, rho'r cymysgedd mewn sosban fach a’i gynhesu’n araf, gan ychwanegu rhywfaint o sudd os oes angen.
Cadw bwyd yn ddiogel
- Golcha dy ddwylo’n drylwyr bob tro cyn paratoi bwyd ac eto ar ôl cyffwrdd cig amrwd a bwydydd eraill. Os wyt ti'n coginio ac yn bwyta tu allan, er mwyn dy arbed rhag gorfod mynd yn ôl ac ymlaen i’r tŷ i olchi dy ddwylo, cer â phowlen o ddŵr poeth, sebon, a chadach neu hancesi dwylo gwrthfacteria gyda thi i’r ardd.
- Cofia gadw bwydydd amrwd a bwydydd wedi'u coginio ar wahân. Defnyddia lestri ac offer ar wahân ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd wedi’u coginio a thaflu unrhyw farinadau dros ben os cawsant eu defnyddio gyda chig amrwd.
- Gofala dy fod yn coginio byrgyrs a selsig tan i’r suddion redeg yn glir a dy fod wedi cael gwared ar yr holl ddarnau pinc neu goch sydd ynddynt.
- Os wyt ti'n defnyddio bwyd wedi’i rewi, gofala dy fod wedi’i ddadmer yn iawn cyn i ti ddechrau coginio.





