Ffrwythau a llysiau’r hydref
Hydref, tymor ‘ffrwythlonrwydd ac aeddfedrwydd', a thymor gwych ar gyfer ffrwythau a llysiau! Mae llawer o ffrwythau blasus a dyfir ym Mhrydain yn eu tymor, fel mwyar duon, eirin, afalau, gellyg, pwmpenni, cennin, courgettes, pannas a llawer mwy! Yn yr adran hon, rydym yn edrych ar ychydig o ffrwythau a llysiau’r hydref, y maethynnau sydd ynddynt a'r ffyrdd gorau o'u mwynhau.


Afalau a gellyg
Mae gellygen yn ffrwyth arall blasus a welir yn yr hydref. Mae gellyg 'comice' a 'conference', y mathau mwyaf poblogaidd ym Mhrydain, yn eu tymor o ddiwedd yr hydref i ganol y gaeaf. Mae gellyg yn cynnwys mwynau megis sinc, fitaminau C ac E, a rhai fitaminau B. Maent yn fyrbryd ar eu pennau eu hunain neu mae'n bosibl eu bwyta â chaws. Mae’r Eidalwyr yn hoff o fwyta gellyg gyda pecorino, ac yn y Deyrnas Unedig, maent yn cael eu bwyta gyda Stilton yn draddodiadol.
Wrth goginio gellyg, ychwanega gnau almon neu fanila i ychwanegu at y blas. Neu cymysga stwnsh afal neu stwnsh gellyg gyda llysiau fel moron neu sgwash cnau menyn, i fynd gyda phryd.
Mae mwyar duon yn flasus ar eu pennau eu hunain, wedi’u hychwanegu at grymbl afal neu fel compot i’w weini ag iogwrt. Mae eirin yn hyfryd fel ag y maen, neu mae'n bosibl eu torri’n dafelli gyda brandi a siwgr brown.
Cennin
Maent yn perthyn i deulu’r nionyn/winwnsyn, ond mae arnynt flas mwy tyner a melys. Maent yn cynnwys amrywiaeth o faethynnau gan gynnwys ffoladau, fitaminau B, calsiwm, haearn, potasiwm a magnesiwm.
Mae cennin yn flasus wedi'u stemio neu wedi'u berwi a’u gweini ar yr ochr, neu yn oer mewn salad. Maen nhw’n hyfryd gyda chyw iâr, mewn quiche ac mewn prydau wedi’u tro-ffrïo, ac yn berffaith mewn cawl neu stiw.
Pwmpen
Mae pwmpenni yn berffaith mewn sawl pryd – gellir ei ychwanegu at gawl, cyri, stiw, bara, myffinau a thartenni melys neu sawrus. Mae’n flasus wedi ei rhostio neu ei stwnshio. Gellir defnyddio hadau pwmpen i wneud salad arbennig neu mewn muesli, neu gellir eu rhostio a'u bwyta fel byrbryd.
India-corn
Cofia y dylem fod yn bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Gall dogn fod yn afal neu ellygen gyfan, dyrnaid o aeron, dau ffrwyth bach fel eirin, neu dri llond llwy o lysiau. Ceisia fwyta cymaint o ffrwythau a llysiau gwahanol ag sy’n bosibl, gan y bydd hynny’n rhoi amrywiaeth gwell o faethynnau i ti a fydd yn helpu i dy gadw'n iach.





