Sinc
Elfen hybrin yw sinc sydd i’w ganfod yn gyffredin yn yr amgylchedd. Mae ffynonellau bwyd da o sinc yn cynnwys cig, pysgod cregyn, llaeth a chynhyrchion llaeth fel caws, bara, a chynhyrchion grawnfwyd fel bywyn gwenith.


Ar y dudalen hon?
Dylech allu cael yr holl sinc sydd ei angen arnoch chi o’ch deiet bob dydd. Mae hyn oddeutu:5.5 i 9.5 mg y dydd i ddynion
4 i 7 mg y dydd i fenywod
Beth mae’n ei wneud?
Mae gan sinc sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n:- helpu i wneud celloedd ac ensymau newydd
- ein helpu i brosesu’r carbohydrad, braster a phrotein yn y bwyd rydym yn ei fwyta
- helpu i wella clwyfau
Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?
Mae cymryd llawer iawn o sinc yn gostwng faint o gopr y gall y corff ei amsugno. Gall hyn arwain at anaemia ac at wanhau’r esgyrn.Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylech allu cael yr holl sinc sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau sinc, mae’n bwysig peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.Mae’r Asiantaeth yn cynghori yn erbyn cymryd mwy na 25 mg o atchwanegiadau sinc y dydd. Ond dylech barhau i gymryd mwy os mai hynny yw cyngor eich meddyg.





