Fitamin K
Mae fitamin K i’w ganfod mewn llysiau deiliog gwyrdd fel brocoli a sbinaets, ac mewn olewau llysiau a grawnfwydydd. Mae ychydig iawn ohono i’w ganfod hefyd mewn cig (fel porc), a chynhyrchion llaeth (fel caws).
Yn ogystal â chael fitamin K o fwyd, rydym hefyd yn ei gael o’n cyrff ein hunain oherwydd ei fod yn cael ei gynhyrchu gan facteria yn ein perfedd.


Faint sydd ei angen arnaf i?
Fitamin sy’n toddi mewn braster yw fitamin K. Mae hyn yn golygu nad ydych ei angen bob dydd oherwydd bod unrhyw fitamin nad yw eich corff ei angen ar unwaith yn cael ei storio yn yr iau ar gyfer y dyfodol.Dylech allu cael yr holl fitamin K sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys.
Mae oedolion angen oddeutu 0.001 mg y kg o bwysau’r corff y dydd. Felly byddai rhywun sy’n pwyso 65 kg angen 0.065 mg y dydd o fitamin K, tra byddai rhywun sy’n pwyso 75 kg angen 0.075 mg y dydd.
Beth mae’n ei wneud?
Mae gan fitamin k sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n helpu i wella clwyfau’n iawn oherwydd bod ei angen i geulo’r gwaed.Mae tystiolaeth gynyddol bod hefyd angen fitamin K i helpu i gryfhau’r esgyrn.
Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?
Nid oes digon o dystiolaeth i wybod beth fyddai effeithiau cymryd llawer iawn o atchwanegiadau fitamin K bob dydd.Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylech gael yr holl fitamin K sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiad fitamin K, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.Ni ddylai 1mg neu lai o Fitamin K y diwrnod achosi unrhyw niwed.





