Text only

Fitamin E


oil bottles small Mae fitamin E i’w ganfod mewn amrywiaeth eang o fwydydd. Y ffynonellau gorau yw olewau planhigion fel soia, corn ac olew olewydd. Mae ffynonellau da eraill yn cynnwys cnau a hadau, a bywyn gwenith (mewn grawnfwydydd a chynhyrchion grawnfwydydd).


Faint sydd ei angen arnaf i?

Fitamin sy’n toddi mewn braster yw fitamin E. Mae hyn yn golygu nad ydych ei angen bob dydd oherwydd bod unrhyw fitamin nad yw eich corff ei angen ar unwaith yn cael ei storio ar gyfer y dyfodol.

Dylech allu cael yr holl fitamin E sydd ei angen arnoch chi o’ch deiet bob dydd, sef:

4 mg y dydd i ddynion
3 mg y dydd i fenywod

Beth mae’n ei wneud?

Mae gan fitamin E sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n helpu i ddiogelu cellbilenni drwy weithredu fel gwrthocsidydd.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?

Nid oes digon o dystiolaeth i wybod beth fyddai effeithiau cymryd llawer iawn o atchwanegiadau fitamin E bob dydd.

Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Dylech gael y swm sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiad fitamin E, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.

Nid yw cymryd 540 mg neu lai o atchwanegiadau fitamin E yn debygol o achosi unrhyw niwed.