Fitamin D
Ni cheir fitamin D mewn llawer o fwydydd. Mae ffynonellau bwyd da yn cynnwys pysgod olewog ac wyau. Mae ffynonellau bwyd eraill yn cynnwys bwydydd cyfnerthedig fel margarin, grawnfwydydd brecwast, bara a llaeth powdr.
Ond rydyn ni’n cael y mwyafrif o’n fitamin D o olau’r haul ar ein croen. Mae hyn oherwydd bod y fitamin yn ffurfio o dan y croen wrth adweithio i olau’r haul. Y ffynhonnell orau yw golau haul yr haf ond os ydych chi allan yn yr haul, gofalwch nad ydych chi’n llosgi.
Mae iau a chynhyrchion iau hefyd yn ffynonellau fitamin D da, ond maen nhw hefyd yn ffynhonnell fitamin A gyfoethog. Felly efallai y dylech ddewis peidio â’u bwyta mor aml os ydych chi eisoes yn eu bwyta bob wythnos.


Faint sydd ei angen arnaf i?
Fitamin sy’n toddi mewn braster yw fitamin D. Mae hyn yn golygu nad ydych chi ei angen bob dydd oherwydd bod unrhyw fitamin nad ydy’ch corff ei angen ar unwaith yn cael ei storio i’w ddefnyddio yn y dyfodol.Dylai’r rhan fwyaf o bobl allu cael yr holl fitamin D sydd ei angen arnyn nhw o’u deiet a thrwy gael rhywfaint o haul.
Fodd bynnag, os ydych chi’n feichiog neu’n bwydo ar y fron, dylech gymryd 10 microgram (0.01 mg) o fitamin D bob dydd.
Dylai pobl hŷn hefyd ystyried cymryd 10 microgram (0.01 mg) o fitamin D bob dydd.
Efallai nad ydych chi’n cael hanner digon o fitamin D, ac felly efallai y dylech ystyried cymryd 10 microgram (0.01 mg) o fitamin D bob dydd, os ydych chi:
Holwch eich meddyg teulu am ragor o wybodaeth.
Beth mae’n ei wneud?
Mae gan fitamin D sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n helpu i reoli faint o galsiwm a ffosffad sydd yn y corff, ac mae angen calsiwm a ffosffad i helpu i gadw esgyrn a dannedd yn iach.Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?
Gallai cymryd llawer o fitamin D am gyfnod maith wanhau eich esgyrn.Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylai’r rhan fwyaf o bobl allu cael yr holl fitamin D sydd ei angen arnyn nhw drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys a chael rhywfaint o haul. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau fitamin D, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.Nid yw cymryd 25 microgram (0.025 mg) neu lai o atchwanegiadau fitamin D y dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.





