Fitamin C
Mae fitamin C, sydd hefyd yn cael ei alw'n 'asid asgorbig', i’w ganfod mewn amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau. Mae ffynonellau da yn cynnwys puprynnau, brocoli, ysgewyll Brwsel, tatws melys, orennau a ffrwythau ciwi.


Faint sydd ei angen arnaf?
Mae fitamin C yn fitamin sy’n toddi mewn dŵr, sy’n golygu bod angen i ti ei gael yn dy ddeiet bob dydd gan nad oes modd ei storio yn dy gorff.Dylet allu cael yr holl fitamin C sydd ei angen arnat o dy ddeiet bob dydd. Mae angen 40mg ar oedolion angen bob dydd.
Beth mae’n ei wneud?
Mae gan fitamin C sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n:Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?
Gall cymryd symiau mawr o fitamin C achosi poen bol, dolur rhydd a gwynt. Ond dylai’r symptomau hyn ddiflannu ar ôl i ti roi’r gorau i gymryd yr atchwanegiadau.Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylet allu cael yr holl fitamin C sydd ei angen arnat drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os wyt ti'n penderfynu cymryd atchwanegiadau fitamin C, mae’n bwysig peidio â chymryd gormod gan y gallai hyn fod yn niweidiol.Nid yw cymryd 1000mg neu lai o atchwanegiadau fitamin C yn debygol o achosi unrhyw niwed.





