Text only

Fitamin B6


peanuts

Mae fitamin B6, a elwir hefyd yn byridocsin, i’w ganfod mewn amrywiaeth eang o fwydydd, er enghraifft: porc, cyw iâr, twrci, penfras, bara, grawnfwydydd cyflawn (fel blawd ceirch, bywyn gwenith a reis), wyau, llysiau, ffa soia, cnau daear, llaeth, tatws a rhai grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig.




Faint sydd ei angen arnaf i?

Fitamin sy’n toddi mewn dŵr yw fitamin B6. Mae hyn yn golygu eich bod ei angen yn eich deiet bob dydd oherwydd na ellir ei storio yn y corff.

Dylech allu cael yr holl fitamin B6 sydd eich angen arnoch chi o’ch deiet bob dydd. Mae hyn oddeutu:

1.4 mg y dydd i ddynion
1.2 mg y dydd i fenywod.

Beth mae’n ei wneud?

Mae gan fitamin B6 sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n:

  • galluogi’r corff i ddefnyddio a storio egni o’r protein a’r carbohydradau a geir yn y bwydydd rydyn ni’n eu bwyta
  • helpu i ffurfio haemoglobin (y sylwedd sy’n cario ocsigen o gwmpas y corff)


Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?

Gall cymryd llawer iawn o fitamin B6 (mwy na 200 mg y dydd), neu ei gymryd am amser maith, arwain at golli teimlad yn y breichiau a’r coesau – sef niwropatheg ymylol.

Ar y cyfan mae’r symptomau hyn yn gildroadwy – felly unwaith y byddwch yn rhoi’r gorau i gymryd yr atchwanegiadau, bydd y symptomau’n dod i ben fel arfer.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion lle mae pobl wedi cymryd llawer o fitamin B<6, yn enwedig am fwy nag ychydig fisoedd, mae’r effaith wedi bod yn anghildroadwy.

Ni ddylai cymryd rhwng 10 a 200 mg y dydd, am gyfnodau byr, achosi unrhyw niwed. Ond nid oes digon o dystiolaeth i ddweud am ba mor hir y gellid cymryd y symiau hyn yn ddiogel.

Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Dylech allu cael y swm sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau fitamin B6, mae’n bwysig peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.

Mae’r Asiantaeth yn cynghori yn erbyn cymryd mwy na 10 mg o atchwanegiadau fitamin B6 y dydd. Ond dylech barhau i gymryd mwy os mai hynny yw cyngor eich meddyg.