Mae fitamin B12 i’w ganfod mewn bron i bob cynnyrch cig ac mewn rhai mathau o algâu fel gwymon. Mae ffynonellau da yn cynnwys cig, eog, penfras, llaeth, caws, wyau, rhin burum, a rhai grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig.
Os wyt ti'n bwyta cig, pysgod neu gynhyrchion llaeth, mae'n debygol dy fod yn cael digon o fitamin B12 yn dy ddeiet.
Fodd bynnag, gan nad yw fitamin B12 yn bresennol mewn bwydydd llysieuol (fel ffrwythau, llysiau a grawn), efallai nad yw figaniaid yn cael digon o’r fitamin hwn, a’u bod yn dioddef o ddiffyg fitamin B12.
Beth mae’n ei wneud?
Mae gan fitamin B12 sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n:
helpu i wneud celloedd coch y gwaed a chadw’r system nerfol yn iach
helpu i ryddhau egni o’r bwyd yr ydym yn ei fwyta
mae'n hanfodol er mwyn prosesu asid ffolig
Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?
Nid oes digon o dystiolaeth i wybod beth fyddai effeithiau cymryd dos uchel o fitamin B12 bob dydd.
Beth yw cyngor yr ASB?
Dylet allu cael yr holl fitamin B12 sydd ei angen arnat drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os wyt ti'n penderfynu cymryd atchwanegiadau fitamin B12, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod gan y gallai hyn fod yn niweidiol.
Nid yw cael 2 mg neu lai o atchwanegiadau B12 y dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.