Fitamin B12
Mae fitamin B12 i’w ganfod ym mhob cynnyrch cig bron iawn ac mewn rhai mathau o algâu fel gwymon. Mae ffynonellau da yn cynnwys cig, eog, penfras, llaeth, caws, wyau, rhin burum, a rhywfaint o rawnfwydydd brecwast cyfnerthedig.


Faint sydd ei angen arnaf i?
Fitamin sy’n toddi mewn dŵr yw fitamin B12, sy’n golygu eich bod ei angen yn eich deiet bob dydd oherwydd na eillir ei storio yn eich corff.Mae oedolion angen oddeutu 0.0015 mg y dydd.
Os ydych chi’n bwyta cig, pysgod neu gynhyrchion llaeth dylech allu cael digon o fitamin B12 o’ch deiet.
Fodd bynnag, oherwydd nad oes fitamin B12 i’w ganfod mewn bwydydd llysieuol (fel ffrwythau, llysiau a grawn), efallai nad yw figaniaid yn cael digon o’r fitamin hwn a’u bod yn dioddef diffyg fitamin B12.
Beth mae’n ei wneud?
Mae gan fitamin B12 sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n:- helpu i wneud celloedd gwaed coch a chadw’r system nerfol yn iach
- helpu i ryddhau egni o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta
- angenrheidiol i brosesu asid ffolig
Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?
Nid oes digon o dystiolaeth i wybod beth fyddai effeithiau cymryd llawer iawn o atchwanegiadau fitamin B12 bob dydd.Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylech allu cael yr holl fitamin B12 sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin B12, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.Nid yw cael 2 mg neu lai o atchwanegiadau B12 y dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.





