Text only

Fitamin A


cheese swiss Mae fitamin A hefyd yn cael ei alw'n retinol. Mae ffynonellau o fitamin A yn cynnwys caws, wyau, pysgod olewog (fel mecryll), llaeth, iogwrt a marjarîn cyfnerthedig.

Mae iau/afu hefyd yn ffynhonnell dda o fitamin A. Ond, gan ei fod yn cynnwys cymaint o fitamin A, efallai na ddylet ei fwyta mor aml os wyt ti eisoes yn ei fwyta bob wythnos.

Dylet osgoi bwyta iau/afu os wyt ti'n feichiog gan ei fod yn cynnwys cymaint o fitamin A.


Faint sydd ei angen arnaf i?

Fitamin sy’n toddi mewn braster yw fitamin A. Mae hyn yn golygu nad ydych chi ei angen bob dydd oherwydd bod unrhyw fitamin nad ydy’ch corff ei angen ar unwaith yn cael ei storio i’w ddefnyddio yn y dyfodol.

Dylech allu cael yr holl fitamin A sydd ei angen arnoch chi o’ch deiet bob dydd, sef:

0.7 mg y dydd i ddynion
0.6 mg y dydd i fenywod

Beth mae’n ei wneud?

Mae gan fitamin A sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n :
  • helpu i gadw croen a leinin mwcws (er enghraifft yn y trwyn) yn iach
  • helpu i gryfhau imiwnedd rhag heintiau
  • helpu i weld mewn golau gwan


Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?

Mae peth ymchwil yn awgrymu y gall cael mwy na 1.5 mg y dydd o fitamin A ar gyfartaledd dros flynyddoedd lawer effeithio ar dy esgyrn a’u gwneud yn fwy tebygol o dorri pan fyddi di’n hŷn.

Mae pobl hŷn, yn enwedig menywod, eisoes mewn perygl o osteoporosis. Dyma lle mae dwysedd esgyrn yn gostwng ac felly mae’r perygl o dorri esgyrn yn cynyddu.

Os wyt ti'n bwyta afi/iau neu gynhyrchion afi/iau fel pâté unwaith yr wythnos, rwyt ti’n debygol o gael 1.5mg o fitamin A y dydd ar gyfartaledd.

Os nad wyt ti'n cael digon o fitamin D, efallai y byddi mewn mwy o berygl o effeithiau niweidiol cael gormod o fitamin A. Mae pobl nad ydyn nhw’n cael hanner digon o fitamin D yn cynnwys menywod Asiaidd sydd wastad yn gorchuddio’u croen pan fyddan nhw’n mynd allan o’r tŷ a phobl hŷn sy’n aros i mewn drwy’r amser. Felly os nad wyt tii’n cael digon o’r fitamin hwn, gallai fod yn syniad da i ti gynyddu’r fitamin D yr wyt ti'n ei gael. Mae ffynonellau da o fitamin D yn cynnwys pysgod olewog ac wyau. Y ffynhonnell orau o fitamin D yw golau haul yr haf – ond cofia, os wyt ti allan yn yr haul, gofala nad wyt ti’n llosgi.

Mae llawer o luosfitaminau yn cynnwys fitamin A. Mae atchwanegiadau eraill, fel olew afi/iau pysgod, hefyd yn cynnwys llawer o fitamin A. Felly os wyt tii’n cymryd atchwanegiadau, gofala nad wyt ti’n cael mwy na chyfanswm o 1.5mg y dydd o’th fwyd a’th atchwanegiadau. Os wyt ti'n bwyta afi/iau bob wythnos, dylet osgoi cymryd unrhyw atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A.

Gall cael llawer iawn o fitamin A niweidio dy fabi heb ei eni os wyt ti’n feichiog. Felly, os wyt ti’n feichiog neu’n ystyried cael babi, dylet osgoi bwyta afi/iau neu gynhyrchion afi/iau fel pâté gan fod y rhain yn cynnwys llawer iawn o fitamin A. Dylet hefyd osgoi cymryd atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A. Hola dy feddyg teulu neu fydwraig os wyt ti am gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Dylech allu cael yr holl fitamin A sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiad sy’n cynnwys fitamin A, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.

Mae iau yn ffynhonnell gyfoethog iawn o fitamin A. Felly, os ydych chi’n bwyta iau neu gynhyrchion iau, fel pâté bob wythnos, efallai y byddwch am ystyried peidio â’i fwyta mor aml. Dylech hefyd ystyried faint o fitamin A sydd ym mhob atchwanegiad rydych chi’n ei gymryd.

Dylai menywod sydd wedi bod trwy’r menopos, a dynion hŷn, sydd mewn mwy o berygl o osteoporosis, osgoi cael mwy na 1.5mg o fitamin A y dydd. Mae hyn yn golygu:
  • peidio â bwyta iau neu gynhyrchion iau, fel pâté, mwy nag unwaith yr wythnos –neu fwyta llai o’r rhain
  • peidio â chael mwy na 1.5mg o fitamin A y dydd mewn atchwanegiadau (gan gynnwys olew iau pysgod), os nad ydych chi’n bwyta iau
  • peidio â chymryd unrhyw atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A (gan gynnwys olew iau pysgod) os ydych chi’n bwyta iau unwaith yr wythnos
Nid yw cael 1.5mg neu lai o fitamin A y dydd, ar gyfartaledd, o gyfuniad o ddeiet ac atchwanegiadau yn debygol o achosi unrhyw niwed.

Ond os ydych chi’n feichiog neu’n ystyried cael babi, mae’r Asiantaeth a’r Adran Iechyd yn eich cynghori i:
  • osgoi cymryd atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A, gan gynnwys olew iau pysgod (heblaw bod eich meddyg teulu’n cynghori hynny)
  • osgoi bwyta iau neu gynhyrchion iau fel pâté oherwydd eu bod yn cynnwys llawer o fitamin A