Text only

Fanadiwm


apples

Elfen hybrin yw fanadiwm sydd i’w chanfod mewn amrywiaeth eang o fwydydd, gan gynnwys bwyd môr, cig, cynhyrchion llaeth, olewau coginio, ffrwythau a llysiau ffres.




Faint sydd ei angen arnaf i?

Ni chredir bod angen fanadiwm i fod yn iach.

Beth mae’n ei wneud?

Mae’n annhebygol ein bod angen fanadiwm i fod yn iach.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?

Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall cymryd atchwanegiadau fanadiwm achosi crampiau stumog a dolur rhydd, a gwneud i’ch tafod droi’n wyrdd.

Nid oes digon o wybodaeth i wybod beth yw effeithiau cymryd atchwanegiadau fanadiwm.

Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Mae’n annhebygol ein bod angen fanadiwm i fod yn iach a gallai gormod fod yn niweidiol.

Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y fanadiwm rydyn ni’n ei gael o fwyd yn niweidiol.