Text only

Thiamin


pea pod big

Mae thiamin, a elwir hefyd yn B1, i’w ganfod yn y rhan fwyaf o fwydydd. Mae ffynonellau da yn cynnwys porc, llysiau, llaeth, caws, pys, ffrwythau ffres a sych, wyau, bara grawn cyflawn a rhai grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig.




Faint sydd ei angen arnaf i?

Fitamin sy’n toddi mewn dŵr yw thiamin, sy’n golygu eich bod ei angen yn eich deiet bob dydd oherwydd na ellir ei storio yn eich corff.

Dylech allu cael yr holl thiamin sydd eich angen arnoch chi o’ch deiet bob dydd, sef:

1 mg y dydd i ddynion
0.8 mg y dydd i fenywod

Beth mae’n ei wneud?

Mae gan thiamin nifer o swyddogaethau pwysig. Er enghraifft, mae’n
  • gweithio gyda fitaminau grŵp B eraill i helpu i ddadelfennu a rhyddhau egni o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta
  • helpu i gadw nerfau a meinweoedd cyhyrau’n iach


Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?

Nid oes digon o dystiolaeth i wybod beth yw effeithiau cymryd llawer o atchwanegiadau thiamin bob dydd.

Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Dylech allu cael yr holl thiamin sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.

Nid yw cymryd 100 mg neu lai o atchwanegiadau thiamin y dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.