Seleniwm
Elfen hybrin yw seleniwm sydd i’w chanfod yn gyffredin yn yr amgylchedd. Mae ffynonellau da ohono’n cynnwys cnau Brasil, bara, pysgod, cig ac wyau.


Faint sydd ei angen arnaf i?
Os ydych chi’n bwyta cig, pysgod neu gnau, dylech allu cael yr holl seleniwm sydd ei angen arnoch chi o’ch deiet bob dydd, sef:0.075 mg y dydd i ddynion
0.06 mg y dydd i fenywod
Beth mae’n ei wneud?
Mae gan seleniwm swyddogaeth bwysig yng ngweithrediad ein system imiwnedd, ym metabolaeth hormonau thyroid ac ar gyfer atgenhedlu. Mae hefyd yn rhan o system amddiffyn gwrthocsidydd y corff, gan ei fod yn atal niwed i gelloedd a meinweoedd.Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?
Mae gormod o seleniwm yn achosi selenosis, cyflwr sy’n gallu arwain at golli gwallt, croen ac ewinedd ar ei ffurf ysgafnaf.Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylech allu cael yr holl seleniwm sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys sy’n cynnwys cig, pysgod neu gnau. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau seleniwm, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.Nid yw cymryd 0.35 mg neu lai o atchwanegiadau seleniwm yn debygol o achosi unrhyw niwed.





