Potasiwm
Mwyn yw potasiwm sydd i’w ganfod yn y mwyafrif o fwydydd. Mae ffynonellau potasiwm da yn cynnwys ffrwythau (fel bananas), llysiau, corbys, cnau a hadau, llaeth, pysgod, pysgod cregyn, cig eidion, cyw iâr, twrci a bara.


Faint sydd ei angen arnaf i?
Dylech allu cael yr holl botasiwm sydd ei angen arnoch chi o’ch deiet bob dydd. Mae oedolion angen 3500 mg y dydd.Beth mae’n ei wneud?
Mae gan botasiwm sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n:- rheoli cydbwysedd hylifau yn y corff
- gallu helpu i ostwng pwysedd gwaed hefyd
Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod
Gall cael gormod o botasiwm achosi poen stumog, cyfog a dolur rhydd.Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylech allu cael yr holl botasiwm sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau potasiwm, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.Nid yw cymryd 3700 mg neu lai o atchwanegiadau potasiwm y dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.
Fodd bynnag, gall pobl hŷn fod mewn mwy o berygl o niwed gan botasiwm. Mae hyn oherwydd nad yw’n arennau’n gallu cael gwared ar botasiwm o’n gwaed cystal wrth i ni heneiddio. Felly, ni ddylai pobl hŷn gymryd atchwanegiadau potasiwm, ac eithrio ar gyngor meddygol.





