Ffosfforws


rice bowl three Mwyn yw ffosfforws sydd i’w ganfod mewn cig coch, cynhyrchion llaeth, pysgod, dofednod, bara, reis a cheirch.


Faint sydd ei angen arnaf i?

Dylech allu cael yr holl ffosfforws sydd ei angen arnoch chi o’ch deiet bob dydd. Mae oedolion angen 550mg y dydd.

Beth mae’n ei wneud?

Mae gan ffosfforws sawl swyddogaeth bwysig yn y corff. Er enghraifft, mae’n:
  • helpu i adeiladu esgyrn a dannedd cryf
  • helpu i ryddhau egni o’r bwydydd rydyn ni’n bwyta


Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?

Gall cymryd gormod o atchwanegiadau ffosfforws dros gyfnod byr achosi dolur rhydd neu boen bol.

Gall cymryd llawer dros gyfnod hir leihau faint o galsiwm sydd yn y corff, sy’n golygu y gall esgyrn dorri’n haws.

Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Dylech allu cael yr holl ffosfforws sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau ffosfforws, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.

Nid yw cymryd 250mg neu lai o atchwanegiadau ffosfforws y dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.





URL: http://www.eatwell.gov.uk/healthydiet/nutritionessentials/vitaminsandminerals/phosphorus/lang=cy&?lang=cy