Niacin
Gelwir niacin hefyd yn fitamin B3. Mae ffynonellau niacin da yn cynnwys cig eidion, porc, cyw iâr, peilliaid, blawd indrawn, wyau a llaeth.


Faint sydd ei angen arnaf i?
Mae dau fath o niacin: asid nicotinig a nicotinamid, ac mae’r ddau i’w canfod mewn bwyd. Fitamin sy’n toddi mewn dŵr yw niacin, sy’n golygu eich bod ei angen yn eich deiet bob dydd oherwydd na ellir ei storio yn eich corff.Dylech allu cael yr holl niacin sydd ei angen arnoch chi o’ch deiet bob dydd. Mae hyn oddeutu:
17 mg y dydd i ddynion
13 mg y dydd i fenywod
Beth mae’n ei wneud?
Mae gan niacin sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft, mae’n:- helpu i gynhyrchu egni o’r bwydydd rydyn ni’n eu bwyta
- helpu i gadw’r systemau nerfol a threulio yn iach
Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?
Gall cymryd gormod o atchwanegiadau asid nicotinig achosi i’r croen gochi. Gallai cymryd gormod dros gyfnod maith achosi niwed i’r iau.Nid oes digon o dystiolaeth i wybod effeithiau cymryd llawer o atchwanegiadau nicotinamid bob dydd.
Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylech allu cael y swm sydd ei angen arnoch chi drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau niacin, mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd y gallai hyn fod yn niweidiol.Nid yw cymryd 17mg neu lai o atchwanegiadau asid nicotinig y dydd, neu gymryd 500 mg neu lai o atchwanegiadau nicotinmid y dydd, yn debygol o achosi unrhyw niwed.





