Text only

Manganîs


beans green

Elfen hybrin yw manganîs sydd i’w gael mewn amrywiaeth o fwydydd. Mae'r bwydydd hyn yn cynnwys bara, cnau, grawnfwydydd a llysiau gwyrdd (fel pys a ffa dringo). Mae hefyd i’w gael mewn te, sef y ffynhonnell fanganîs fwyaf i lawer o bobl mae'n debyg.




Faint sydd ei angen arnaf i?

Dylech allu gael yr holl fanganîs sydd ei angen arnoch o'ch deiet bob dydd.

Beth mae'n ei wneud?

Mae'n helpu i greu ac actifadu rhai o'r ensymau yn y corff.

Beth sy'n digwydd os ydw i'n cael gormod?

Gallai cymryd dognau mawr o fanganîs am gyfnodau hir niweidio'r nerfau ac achosi symptomau niwrolegol fel blinder ac iselder.

Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Dylech allu cael yr holl fanganîs sydd ei angen arnoch trwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os byddwch chi'n penderfynu cymryd atchwanegiadau manganîs mae'n syniad da peidio â chymryd gormod gan y gallai hyn fod yn niweidiol.

I'r rhan fwyaf o bobl, nid yw cymryd 4 mg neu lai o atchwanegiadau manganîs yn debygol o achosi unrhyw niwed.

I bobl hŷn, nid yw cymryd 0.5 mg neu lai o atchwanegiadau manganîs yn debygol o achosi unrhyw niwed. Mae'r ffigur hwn yn is gan y gallai pobl hŷn fod yn fwy sensitif i fanganîs.