Mwyn yw magnesiwm sydd mewn amrywiaeth eang o fwydydd. Y ffynonellau mwyaf cyfoethog yw llysiau deiliog gwyrdd (fel sbigoglys) a chnau. Mae ffynonellau da'n cynnwys bara, pysgod, cig a bwydydd llaeth.
Dylech allu cael yr holl fagnesiwm sydd ei angen arnoch o'ch deiet bob dydd, sef:
300 mg y diwrnod i ddynion 270 mg y diwrnod i fenywod
Beth mae'n ei wneud?
Mae gan fagnesiwm nifer o swyddogaethau pwysig. Er enghraifft, mae'n:
helpu i droi'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta'n egni
helpu i sicrhau bod y chwarennau parathyroid yn gweithio'n iawn. Mae'r chwarennau parathyroid yn cynhyrchu hormonau sy'n bwysig i gadw esgyrn yn iach
Beth sy'n digwydd os ydw i'n cael gormod?
Gall cymryd dognau mawr o fagnesiwm am gyfnod byr achosi dolur rhydd.
Nid oes digon o dystiolaeth i ddweud beth fyddai effaith cymryd dognau mawr o fagnesiwm am gyfnod hir.
Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylech allu cael yr holl fagnesiwm sydd ei angen arnoch trwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os byddwch chi'n penderfynu cymryd atchwanegiadau magnesiwm mae'n syniad da peidio â chymryd gormod gan y gallai hyn fod yn niweidiol.
Nid yw cymryd 400 mg neu lai o fagnesiwm o atchwanegiadau'n debygol o achosi unrhyw niwed.