Ïodin
Elfen hybrin yw ïodin sydd i’w gael yn nŵr y môr, mewn creigiau ac mewn rhai mathau o bridd. Mae ffynonellau bwyd da'n cynnwys pysgod y môr a physgod cregyn.
Gellir hefyd dod o hyd i ïodin mewn bwydydd planhigion fel grawnfwydydd a grawn ond mae'r lefelau'n amrywio yn dibynnu ar faint o ïodin sydd yn y pridd lle tyfir y planhigion.
Mae ïodin i’w gael mewn llaeth gwartheg yn y DU hefyd.


Faint sydd ei angen arna i?
Dylech allu cael yr holl ïodin sydd ei angen arnoch trwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Mae oedolion angen 0.14 mg y diwrnod.Beth mae'n ei wneud?
Mae'n helpu i wneud hormonau'r thyroid. Mae'r hormonau hyn yn helpu i gadw celloedd a'r gyfradd fetabolaidd yn iach.Beth sy'n digwydd os ydw i'n cael gormod?
Gallai cymryd dognau uchel o ïodin am gyfnodau hir newid y ffordd mae'ch chwarren thyroid yn gweithio. Gall hyn arwain at amrywiaeth eang o wahanol symptomau, fel magu pwysau er enghraifft.Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylech allu cael yr holl ïodin sydd ei angen arnoch trwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os byddwch yn penderfynu cymryd atchwanegiadau ïodin mae'n syniad da peidio â chymryd gormod gan y gallai hyn fod yn niweidiol.Nid yw cymryd 0.5 mg neu lai o atchwanegiadau iodine y dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.





