Text only

Asid ffolig


pea pod big

Mae asid ffolig, sy’n cael ei adnabod fel ffolad yn ei ffurf naturiol, yn un o’r grŵp B o fitaminau. Ceir mymryn o ffolad mewn llawer o fwydydd. Mae ffynonellau da’n cynnwys brocoli, ysgewyll, asbaragws, pys, gwygbys a reis brown.

Ffynonellau da eraill yw grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig, rhai mathau o fara a rhai ffrwythau (fel orennau a bananas).




Faint sydd ei angen arnaf i?

Mae ffolad yn fitamin sy’n toddi mewn dŵr, sy’n golygu bod ei angen yn eich deiet bob dydd oherwydd na ellir ei storio yn y corff.

Dylai’r rhan fwyaf o bobl allu cael yr hyn maen nhw’i angen drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Mae oedolion angen 0.2 mg y dydd.

Fodd bynnag, os ydych chi’n feichiog neu’n ceisio beichiogi dylech gymryd 0.4 mg (400 meicrogram) o atchwanegiad asid ffolig y dydd o’r amser rydych chi’n rhoi’r gorau i ddefnyddio dull atal cenhedlu hyd 12fed wythnos y beichiogrwydd.

Mae hyn i helpu atal diffygion y tiwb nerfol fel spina bifida. Os yw diffyg y tiwb nerfol eisoes wedi effeithio ar feichiogrwydd blaenorol, argymhellir eich bod yn cymryd dos uwch. Gofynnwch i’ch meddyg am fwy o gyngor.

Beth mae’n ei wneud?

Mae gan ffolad nifer o swyddogaethau pwysig. Er enghraifft, mae’n:
  • cydweithio gyda fitamin B12i ffurfio celloedd gwaed coch iach
  • helpu i leihau’r perygl o ddiffygion y tiwb nerfol fel spina bifida mewn babanod heb eu geni


Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael gormod?

Os nad ydych yn cael digon o fitamin B12 – sef diffyg fitamin B12 - gall cymryd dosiau mwy na 1 mg o asid ffolig guddio hyn.

Arwydd cynnar o ddiffyg fitamin B12 yw anemia. Mae cymryd dosiau mawr o asid ffolig yn trin yr anemia heb drin y diffyg fitamin B12. Os na fydd diffyg fitamin B12 yn cael ei ddarganfod, gall arwain at niweidio’r system nerfol (niwed niwrolegol) yn y pendraw.

Mae hyn yn bryder i bobl hŷn yn arbennig, oherwydd felrydym yn tyfu’n hŷn mae’n anoddach amsugno fitamin B12.

Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Oni bai eich bod yn feichiog neu’n ceisio beichiogi, dylech allu cael yr holl asid ffolig rydych ei angen drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys.

Os ydych yn cymryd atchwanegiadau asid ffolig, mae’n bwysig peidio â chymryd gormod oherwydd gallai hyn achosi niwed.

Ni fydd cymryd 1 mg (1000 meicrogram) neu lai o atchwanegiadau asid ffolig y dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.