Text only

Fflworid


water carbonated Elfen hybrin sy’n gyffredin iawn yn yr amgylchedd yw fflworid. Fe’i ceir ym mhob anifail a phlanhigyn ac mewn dŵr. Mae ychydig bach iawn ohono i’w gael yn yr awyr rydym yn ei anadlu hefyd.

Mae te a physgod yn ffynonellau da o fflworid. Gall dŵr yfed fod yn ffynhonnell gyfoethog ac rydym yn cael fflworid pan fyddwn ni’n defnyddio past dannedd a golchwr ceg gyda fflworid ychwanegol.


Faint sydd ei angen arnaf i?

Nid yw’n eglur faint o fflworid rydym ei angen i gadw’n iach. Ond gwyddom fod pobl sydd â’u dŵr yfed yn cynnwys fflworid, (tua un rhan fesul miliwn) yn tueddu i gael llai o bydredd dannedd na grwpiau tebyg o bobl lle mae crynodiadau fflworin dipyn yn is.

Beth mae’n ei wneud?

Mae gan Fflworid ddau brif bwrpas. Mae'n:
  • Cyfrannu at greu dannedd cryf
  • Cryfhau’r ymwrthedd i bydredd dannedd


Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Nid yw'n glir faint o fflworid sydd ei angen er mwyn bod yn iach. Mewn rhai ardaloedd yn y DU, mae fflworid yn cael ei ychwanegu at ddwr tap er mwyn gwella iechyd deintyddol.

Mae'r Adran Iechyd a Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yn argymell y dylid ychwanegu fflworid at ddwr tap, ond cyfrifoldeb yr awdurdodau iechyd lleol unigol (ynghyd â grwpiau iechyd lleol a'r gymuned leol) yw gwneud penderfyniad ynghylch hyn.

Mae rhagor o wybodaeth am fflworid ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru.